´óÏó´«Ã½

Deiseb heddwch Menywod Cymru 1923 ar-lein

Martha Jane yn y ddeiseb
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r cofnodion o ardal Tregaron sydd i'w gweld ar-lein

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfle bellach i bobl weld enwau rhai o'r merched a lofnododd Ddeiseb Heddwch 1923 .

Ym mis Ebrill 2023 fe ddychwelodd y ddeiseb i Gymru o Amgueddfa Genedlaethol Hanes America y Smithsonian.

Ers hynny mae nifer o wirfoddolwyr wedi bod yn trawsgrifio llofnodion.

Yr wythnos hon mae dros 50,000 o'r llofnodion i'w gweld ar-lein wedi iddyn nhw gael eu digido gan y Llyfrgell Genedlaethol.

Disgrifiad o’r llun,

Llofnododd 390,296 o ferched Cymru y ddeiseb yn yr 1920au

"Mae rhoi cyfle i bobl gael gweld enwau Mam-gu a pherthnasau eraill ar-lein yn gam enfawr ymlaen ac yn gyffrous," medd Bethan Rees, Rheolwr Rhaglen Ddigidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

"Wedi i'r ddeiseb ein cyrraedd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol fe aeth hi'n gyntaf i'r adran gadwraeth i'w glanhau, cafodd yna ei chatalogio ac yna ei digido ac yna mae trawsgrifwyr ar draws y byd wedi bod yn trawsgrifio'r llofnodion.

"Mae'r diddordeb yn y ddeiseb yn enfawr – mae’r cwbl wedi’u digido a hyd yma mae tudalennau o focsys 1-14 i’w gweld ar y wefan.

"Pan gyrhaeddodd y ddeiseb roedd y tudalennau yn gymysg o ran ardaloedd ac ry'n wedi cadw pethau felly - mae hyn yn golygu bod llofnodion ar draws Cymru i'w gweld ar-lein a bydd mwy yn cael eu hychwanegu bob dydd.

"Mae modd i drawsgrifwyr newydd gymryd rhan i helpu yn yr ymgyrch i drawsgrifio’r enwau sy’n weddill drwy gofrestru ar torfoli’r Llyfrgell."

'Y neges mor berthnasol heddi'

Yn ôl adroddiadau roedd y ddeiseb yn saith milltir o hyd ac fe gafodd ei chludo i America mewn cist dderw gan Annie Hughes Griffiths, Mary Ellis, Elined Prys, a Gladys Thomas, lle gafodd ei chyflwyno wedyn i ferched America gan ddirprwyaeth heddwch Cymru.

Cafodd ei hailddarganfod ar hap pan fu chwilio am ddeunydd ar gyfer prosiect Cymru Dros Heddwch yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plac newydd i'w weld ger mynwent Capel Gwynfil Llangeitho lle mae bedd Annie Hughes Jones

Ddydd Sadwrn cafodd plac ei ddadorchuddio yn Llangeitho i nodi cyfraniad Annie Hughes Griffiths - merch plas Cwrt Mawr ar gyrion y pentref.

Wrth ddadorchuddio'r plac ger bedd Annie Cwrt Mawr yng Nghapel Gwynfil dywedodd Elin Jones, Llywydd y Senedd: "Fe aeth stori Annie Cwrt Mawr ar goll ond erbyn hyn mae'r stori wedi cael ei hatgyfodi wedi i'r ddeiseb a'i dyddiadur, a oedd ynghanol papurau ei gŵr, ddod i'r fei.

"Ry'n yn gwybod bellach am fawredd y gweithgaredd na'th y menywod yn y cyfnod wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.

"Ni'n siomedig wrth gwrs bod yr hanes yn dal yn berthnasol heddi.

"Ni'n gweld rhyfel bob dydd o hyd a ni ddim yn trafod heddwch yn ddigonol ond mae'r neges mor bwysig nawr ac y bu erioed."

Ffynhonnell y llun, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Annie Hughes Griffiths (ail o'r dde) yn cyflwyno'r ddeiseb yn Washington

"Mae cyn lleied o gerfluniau a chofebau i fenywod ledled Cymru," meddai'r hanesydd Catrin Stevens, "ac mae'r plac yma yn bwysig iawn".

"Mae wedi bod yn wefreiddiol gweithio ar y prosiect yma. Mae 12 enw, er enghraifft, ar y gofeb rhyfel yma yn Llangeitho a doedd e ddim rhyfedd bod menywod Cymru wedi ymroi cymaint i sicrhau heddwch.

"Dwi wedi bod yn edrych ar y ddeiseb a gweld, er enghraifft, wrth ymyl llofnod un fenyw yn Senghennydd y geiriau 'No War'.

"Roedd un arall yng Nghaerdydd wedi ysgrifennu wrth ei llofnod hi 'one killed, one blind, one in a lunatic asylum' - mae'r ddeiseb yn crisialu cymaint oedd awydd y merched i sicrhau heddwch byd."

Profiad gohebydd

Sara Down-Roberts, Cymru Fyw

Roedd canfod enw dwy fam-gu yn y ddeiseb yn dipyn o sioc ond balchder hefyd.

Roedd y ddwy - Sarah Morgans o Ben-uwch a Martha Jane Edwards o ardal Y Berth ger Tregaron - yn byw mewn ardaloedd cymharol unig.

Tan i ran o'r ddeiseb fynd yn fyw ar-lein roeddwn wedi meddwl mai pobl mewn pentrefi a threfi fyddai wedi ei harwyddo ond mae'n amlwg fod dylanwad Annie Hughes Griffiths o Langeitho gerllaw yn drwm.

Amlwg felly i'r rhai oedd yn trefnu'r ddeiseb gerdded ymhell neu mae'n bosib bod modd arwyddo'r ddeiseb yn y capel neu'r eglwys leol.

Oes mae cyfle bellach i wyrion ac wyresau eraill fel fi i ganfod enwau Mam-gu neu Nain - chwiliwch amdanyn nhw, mae'n brofiad gwefreiddiol!

Pynciau cysylltiedig