Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ysgol yn y gogledd yn defnyddio dyfais i reoli ffonau symudol
- Awdur, Harriet Horgan
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae ysgol uwchradd yn y gogledd wedi buddsoddi mewn system newydd er mwyn ceisio rheoli鈥檙 defnydd o ffonau symudol.
Yn Ysgol Dyffryn Conwy, rhaid i ddisgyblion gloi eu ffonau mewn bag arbennig ac yna maen nhw'n gallu cael mynediad ato gan athrawon ar ddiwedd y dydd.
Yn 么l arbenigwr ar iechyd meddwl pobl ifanc, mae defnydd ffonau symudol mewn ysgolion yn "hynod niweidiol" i ddisgyblion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod" yr effaith ar addysg plant ac yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod polis茂au mewn lle.
Mae Roger Beech, sy鈥檔 bennaeth cynorthwyol yn Ysgol Dyffryn Conwy, yn dweud bod perthynas plant gyda ffonau symudol yn cael "effaith fawr ar eu cynnydd".
"I mi, y pryder fwyaf ydy鈥檙 perthynas sy鈥 ganddyn nhw efo鈥檙 ffonau symudol - dy鈥 nhw methu mynd hebddyn nhw," meddai.
"Ma' ganddyn nhw fath o FOMO 鈥 fear of missing out - hefo鈥檙 hysbysiadau a ma' nhw jest yn disgwyl am yr un nesaf.
"Ma鈥 hwnna yn amharu ar sut ma' nhw yn y gwersi, sut ma' nhw'n ymddwyn, sut ma' nhw'n canolbwyntio ac yn cael effaith mawr ar eu cynnydd bob dydd."
Cyfrifoldeb ysgolion ac awdurdodau lleol yw hi i gyflwyno polis茂au ffonau symudol.
Mae Ysgol Dyffryn Conwy wedi buddsoddi mewn teclyn newydd i geisio atal disgyblion rhag troi at eu ffonau.
Mae cwmni Yondr yn creu bagiau arbennig i storio ffonau yn ystod y dydd.
Ar ddechrau鈥檙 diwrnod ysgol fe fydd y disgyblion yn cloi eu ffonau yn y bag, a ni fydd gan y disgyblion fynediad i鈥檙 ddyfais nes i鈥檞 hathrawon ddefnyddio magnet arbennig i'w ddatgloi.
Yn 么l Mr Beech, fe fydd y system yma yn 鈥渞han o鈥檙 wisg ysgol鈥.
鈥溾橠a ni methu stopio nhw rhag dod 芒 ff么n symudol i鈥檙 ysgol, ond dwi鈥檔 meddwl mai hwn 'di鈥檙 ateb a 鈥榙a ni鈥檔 deud wrth y disgyblion a鈥檙 rheini mai dyma fydd y norm."
Mae Mr Beech hefyd yn galw am fwy o gyfarwyddyd "ar lefel uwch" i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem.
Dywedodd nad yw rheoli defnydd y teclynnau yn yr ystafell ddosbarth yn hawdd, ac y dylai Llywodraeth Cymru "gymryd cyfrifoldeb".
Ychwanegodd fod gan gwmn茂au technoleg sy鈥檔 rheoli platfformau TikTok a Facebook gyfrifoldeb i ddiogelu beth mae plant yn ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol.
Esboniodd fod plant yn "gweld gymaint mae鈥檔 ddychrynllyd".
'Hynod niweidiol'
Yn 么l arolwg diweddaraf Ofcom - sy'n rheoleiddio diogelwch ar-lein - mae bron i dri chwarter y bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed yn dweud eu bod wedi gweld cynnwys niweidiol ar-lein.
I Dr Nia Williams, darlithydd seicoleg mewn iechyd meddwl plant a phobl ifanc ym Mhrifysgol Bangor, mae pobl yn "gaeth" i'w ffonau a'r cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd fod sgil effeithiau negyddol yn datblygu ar hunan ddelwedd a hunan barch pobl ifanc.
"Mae鈥檙 math o dechnoleg, y ffordd ma' [cwmn茂au鈥檔] marchnata yn dy annog di i ryngweithio - dydy鈥檙 seibiant yna ti angen ddim bob tro yn gallu digwydd," ychwanegodd.
Yn 么l Dr Williams, mae yna gyfrifoldeb ar gwmn茂au, y llywodraeth a rhieni i fod yn fwy "llym".
"Mae'n bwysig cydnabod rhai elfennau positif ond pan mae'n dod i ff么n symudol ry鈥檔 ni鈥檔 gwybod bo' nhw鈥檔 hynod niweidiol i blant a phobl ifanc," meddai Dr Williams.
Dywedodd y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes, wrth Cymru Fyw fod rhaid rheoli鈥檙 broblem yn well.
鈥淣awr efallai yw鈥檙 cyfle i roi cefnogaeth i ysgolion, a mwy o gyfarwyddyd i ymateb i鈥檙 realiti newydd yma."
Yn 么l y Comisiynydd, nid oes un ateb i鈥檙 broblem yma, a bod angen ystyried yr amrywiaeth barn ymhlith plant a phobl ifanc.
Ond, fe aeth ymlaen hefyd i gydnabod bod "angen rhoi arweiniad cryfach".
Mae undeb athrawon UCAC yn cydnabod bod ffonau symudol yn gallu bod o ddefnydd mewn rhai amgylchiadau trwy "gyfrannu at ddiogelwch plant".
Dywed hefyd "nad oes angen i ffonau symudol fod yn bresennol mewn ystafell ddosbarth o gwbl" a ni ddylen "fod yn weledol ar goridorau na buarthau ysgolion".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr effaith y gall technoleg a ffonau symudol ei chael ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.
"Mae gan bron pob ysgol yng Nghymru bolis茂au sy鈥檔 gwahardd defnyddio ffonau symudol yn ystod gwersi, ond mae yna elfen o ddisgresiwn.
"Bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod ganddynt bolis茂au yn eu lle i leihau effeithiau ffonau symudol ar les, a hybu dysgu."