Eluned Morgan yn llongyfarch Trump ar ei fuddugoliaeth

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mae Donald Trump wedi ennill etholiad yr Unol Daleithiau a bydd yn dychwelyd i'r T欧 Gwyn

Mae prif weinidog Cymru wedi llongyfarch Donald Trump ar ei fuddugoliaeth yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Eluned Morgan fod gan Gymru a鈥檙 Unol Daleithiau 鈥渂erthynas gref鈥, a'i bod hi鈥檔 edrych ymlaen at weld hynny鈥檔 parhau.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd Andrew RT Davies hefyd wedi rhoi teyrnged i Mr Trump.

Ond mae un o gyn-aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw, yn dweud bod ei fuddugoliaeth yn 鈥渇ygythiad i reolaeth y gyfraith a democratiaeth鈥.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Eluned Morgan fod gan Gymru a鈥檙 Unol Daleithiau 鈥渂erthynas gref鈥

Dywedodd Eluned Morgan ar X: "Llongyfarchiadau ar gael eich ethol yn Arlywydd Unol Daleithiau America."

Ychwanegodd: "Mae gan Gymru a'r Unol Daleithiau berthynas gref yr ydym yn ei gwerthfawrogi鈥檔 fawr.

"Edrychwn ymlaen at barhau 芒鈥檙 bartneriaeth honno er budd ein holl bobl."

Ddoe yn siambr y Senedd, mewn ymateb i gwestiwn ar yr "argyfwng natur" gan yr AS Llafur Joyce Watson, dywedodd y prif weinidog y "bydd effaith ar newid hinsawdd, yn dibynnu ar bwy sy'n ennill, a bydd yn effeithio ar bob un ohonom".

"Felly mae pwysigrwydd diogelu natur yng Nghymru yn cael ei ddeall yn dda. Rwy鈥檔 gobeithio bod pobl yr Unol Daleithiau yn deall eu cyfrifoldebau hefyd.鈥

Yn gynnar yn 2017, naw mis cyn dod yn weinidog, roedd Eluned Morgan yn llai diplomyddol am Trump, gan ei ddisgrifio fel "off the scale crazy" .

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Buan y gwagiodd lleoliad parti noson etholiad Kamala Harris wrth i鈥檙 canlyniadau gael eu cyhoeddi

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Waeth beth fo'ch gwleidyddiaeth, ni allwch danamcangyfrif maint buddugoliaeth Trump heno.

"Llongyfarchiadau Mr Arlywydd."

Ymatebodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau yn gam yn 么l i hawliau menywod a sefydlogrwydd byd-eang".

"Mae鈥檙 angen i gryfhau cysylltiadau 芒鈥檔 cymdogion yn Ewrop r诺an yn fwy o frys nag erioed, yn ogystal 芒 phwysigrwydd sicrhau bod llywodraethau鈥檔 aros yn driw i鈥檞 gair ac yn gwrando ar leisiau鈥檙 rhai sydd wedi鈥檜 hymyleiddio fwyaf mewn cymdeithas."

'Hwb i ffasgaeth Rwsia a Putin'

Dywedodd cyn-aelod cabinet Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw - a fu'n gwnsler cyffredinol, sef prif gynghorydd cyfreithiol y llywodraeth: "Mae buddugoliaeth Trump yn hwb i ffasgaeth Rwsia a Putin, yn fygythiad i reolaeth y gyfraith a democratiaeth."

Mae gan aelod o'r Senedd Pontypridd, Antoniw, deulu yn Wcr谩in ac mae'n ymweld 芒'r ardal yn rheolaidd.

Mae pryderon y bydd yr Unol Daleithiau o dan Trump yn torri cymorth milwrol i鈥檙 wlad ar gyfer ei rhyfel yn erbyn Rwsia.

Mae Trump wedi dweud o鈥檙 blaen y byddai鈥檔 鈥済weithio rhywbeth allan鈥 i ddod 芒鈥檙 gwrthdaro i ben ac wedi awgrymu y gallai fod yn rhaid i鈥檙 Wcr谩in ildio rhywfaint o dir i Rwsia.

Ychwanegodd Antoniw: "Mae'n rhaid i ni sefyll gydag Wcr谩in nawr yn fwy nag ar unrhyw adeg."

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, yn 2023 yr Unol Daleithiau oedd y farchnad gwerth uchaf ar gyfer cynhyrchion o Gymru, gan gyfrif am 拢2.9bn (15.1%) o allforion, er bod y gyfran hon wedi gostwng o 16.6% yn 2022.