大象传媒

Treth 拢1.25 y noson ar dwristiaid yn bosib o 2027

LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Gallai treth ar dwristiaeth o 拢1.25 y noson gael ei chyflwyno yng Nghymru o 2027, o dan gynllun posib sydd wedi ei gyhoeddi.

Byddai gwesteion mewn gwestai, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo yn talu鈥檙 ardoll ymwelwyr pe bai cynghorau鈥檔 penderfynu ei chyflwyno yn eu hardaloedd.

Byddai cyfradd is o 75c yn cael ei chodi am hosteli a gwersylloedd.

Byddai'r ardoll yn cael ei chodi fesul person, fesul noson, a bydd hefyd yn berthnasol i blant.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yr arian sy'n cael ei godi yn helpu i ariannu gwasanaethau mewn ardaloedd sydd 芒 phroblemau twristiaeth, ond dywed beirniaid y bydd yn atal ymwelwyr.

Beth yw'r manylion?

Ebrill 2027 yw'r dyddiad cynharaf y gallai'r dreth ddechrau, meddai swyddogion, a hynny os y bydd deddfwriaeth yn cael ei chymeradwyo gan Senedd Cymru.

Gallai cynghorau godi mwy na'r 拢1.25 yn y dyfodol os ydynt yn mynd drwy broses ymgynghori ac yn rhoi 12 mis o rybudd.

Nid oes disgwyl i bob cyngor gyflwyno'r ardoll ymwelwyr. Pe byddent yn gwneud hynny byddai'n codi tua 拢33m y flwyddyn.

Ni chaiff arosiadau o fwy na 31 noson eu trethu, nac ychwaith pobl sydd wedi eu gorfodi i lety dros dro na phobl mewn hosteli digartref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gweinidogion wedi dweud y bydd yr ardoll yn cefnogi'r diwydiant twristiaeth mewn mannau sy'n denu llawer o ymwelwyr, fel yn Eryri

Dywedodd swyddogion eu bod am i'r dreth fod yn syml i'w deall, felly bydd yr un gyfradd yn cael ei thalu ar gyfer oedolion a phlant.

Mae鈥檙 ddeddfwriaeth yn egluro sut y mae鈥檔 rhaid i gynghorau wario鈥檙 arian, a fydd yn cael ei neilltuo yn eu cyllidebau ar gyfer pethau penodol.

Maent yn cynnwys hybu twristiaeth, hyrwyddo鈥檙 Gymraeg a gwella seilwaith neu wasanaethau a ddefnyddir gan ymwelwyr.

Roedd y polisi鈥檔 rhan o鈥檙 cytundeb cydweithredu a arwyddwyd rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn 2021.

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y bydd yn peryglu swyddi yn y diwydiant twristiaeth sy'n cyflogi 159,000 - bron i 12% o weithlu Cymru.

Mewn adroddiad y llynedd, dywedodd ASau ar Bwyllgor Materion Cymreig T欧鈥檙 Cyffredin eu bod yn poeni y gallai atal twristiaid rhyngwladol.

Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ei fod yn "deg bod ymwelwyr yn cyfrannu at gyfleusterau lleol, gan helpu i ariannu seilwaith a gwasanaethau sy'n hanfodol i'w profiad".

鈥淢ae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ledled y byd, ac o fudd i gymunedau lleol, twristiaid a busnesau 鈥 ac rydyn ni eisiau鈥檙 un peth i Gymru,鈥 ychwanegodd.

Bydd yn rhaid i unrhyw un sy鈥檔 darparu llety, gan gynnwys perchnogion llety tymor byr fel Airbnbs, gofrestru o dan y gyfraith sy鈥檔 creu鈥檙 dreth.

Yn y pen draw, bydd angen trwydded arnynt i weithredu er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn dilyn yr un rheolau a safonau diogelwch.

Mae disgwyl mwy o ddeddfwriaeth i greu鈥檙 cynllun trwyddedu cyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gallai gofyn i ymwelwyr gyfrannu gyda threth 鈥渇od yn niweidiol鈥 meddai Katherine John sy鈥檔 rhedeg siop

Mae ymwelwyr yn tyrru i dref glan m么r Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro.

Dywedodd Katherine John, sy鈥檔 rhedeg siop adrannol Morris Brothers y dref, fod staff yn ei chael hi鈥檔 anodd parcio eu ceir a bod y ddarpariaeth ffonau symudol yn wael yn y tymor brig.

Ond fe allai gofyn i ymwelwyr gyfrannu gyda threth 鈥渇od yn niweidiol,鈥 meddai.

鈥淕allai unrhyw beth a all greu rhwystr rhag dod i鈥檙 ardal fod yn broblem.

鈥淥s yw鈥檔 rhywbeth sy鈥檔 benodol i鈥檙 ardal hon fe allen nhw [ymwelwyr] edrych yn rhywle arall.鈥

Mae Dinbych-y-pysgod wedi colli ei chanolfan groeso, ond dywedodd os oedd arian o dreth yn gwneud iawn am hynny 鈥測na mae cydbwysedd a dadl dros y dreth鈥.

'Mantais annheg'

Mae Rob Izzard yn croesawu ymwelwyr o bedwar ban byd i Pembrokeshire Alpaca Trekking.

Mae ganddo hefyd safle glampio ym Maenorbyr ger Dinbych-y-pysgod.

鈥淥s oes rhaid i bobl dalu ardoll, waeth pa mor fach ydyw, fe allai effeithio arnyn nhw鈥檔 dod i mewn i鈥檔 sir,鈥 meddai.

鈥淧e bai cyngor cyfagos yn penderfynu peidio 芒 gwneud hyn fe allai fod yn fantais annheg.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Helen Manley Jones y byddai'n rhaid iddi godi prisiau ei bwthyn am y tro cyntaf ers pedair blynedd o dan y newidiadau arfaethedig

Mae Helen Manley Jones yn gosod bwthyn dau berson i bobl sydd ar wyliau yn Nhrefdraeth, Sir Benfro.

Pe bai ardoll, dywedodd y byddai'n rhaid iddi godi prisiau am y tro cyntaf ers pedair blynedd i ariannu'r gost.

鈥淪y鈥檔 drueni,鈥 meddai.

鈥淗offwn ei gadw鈥檔 gyson oherwydd bod archebion wedi gostwng ac rydych am annog pobl i ddod i aros yma.

鈥淔elly nid yw'n rhoi'r arwyddion cywir mewn gwirionedd, nid wyf yn meddwl."

Ychwanegodd: 鈥淏ydd llawer o bobl yn ailystyried a ydyn nhw鈥檔 dod i mewn i Gymru os ydyn nhw鈥檔 gwybod eu bod nhw鈥檔 mynd i orfod talu treth gwyliau ychwanegol.鈥

'Ble mae'r arian yn mynd?'

Mewn cynllun pedair blynedd ar gyfer y ddinas, mae Cyngor Caerdydd yn dweud y bydd yn "archwilio pwerau cyllidol fel yr ardoll twristiaeth i gefnogi buddsoddiad yn y sector".

Dywedodd Carl Kodurand, rheolwr gwesty Lincoln House - 21 ystafell wely - ar Heol y Gadeirlan, y byddai ardoll o 拢1.25 y noson yn 鈥渨eddol fach鈥.

鈥淪erch hynny rwy鈥檔 meddwl os yw pobl yn aros dywedwch am dair neu bedair noson, mae鈥檙 cyfan yn cynyddu,鈥 meddai.

"Y broblem yw sut mae'r arian yna'n mynd i gael ei wario, ble mae'r arian yna'n mynd i gael ei wario, a dwi wedi clywed fawr ddim ar y pwnc yna."

Mewn ymateb dywedodd Peter Fox, llefarydd y Ceidwadwyr ar gyllid a llywodraeth leol, mai dyma'r "dreth anghywir i Gymru ac yr un anghywir i'r diwydiant twristiaeth".

"Nid yn unig y bydd yn gosod llawer iawn o gyfyngiadau ar fusnesau bach ac ychwanegu costau sylweddol at wyliau teuluol, ond bydd hefyd yn gweithio yn erbyn ei nodau ei hun trwy annog ymwelwyr i ddefnyddio mwy o gyfleusterau a gynhelir gan y cyngor.

"Fe ddylen ni fod yn meithrin ein sector twristiaeth, nid ei daro gyda threthi newydd."