Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Rhyddhad' ailagor ffordd brysur wedi pedwar mis ynghau
Mae ffordd allweddol sy'n cysylltu dau o gymoedd y de wedi ailagor ddydd Gwener, ar 么l pedwar mis o waith atgyweirio.
Cafodd ffordd mynydd y Rhigos rhwng Hirwaun a Threherbert ei chau fis Gorffennaf er mwyn gwneud gwaith atgyweirio i'r ffordd.
Roedd y ffordd wedi ei difetha yn dilyn t芒n yn 2022 lle wnaeth creigiau, oedd wedi cwympo o fynydd y Rhigos, ddifrodi鈥檙 rhwydi amddiffynnol ar y llethrau.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf bod "gwaith sylweddol" wedi ei gwblhau ar y l么n, a'i bod wedi ailagor brynhawn Gwener.
'Teimlad o ryddhad'
Mae'r l么n wedi bod ar gau ers 22 Gorffennaf er mwyn gallu gwneud gwaith atgyweirio "hanfodol", yn 么l y cyngor.
Heb y gwaith yma, byddai arwyneb y ffordd wedi cael difrod pellach ac o ganlyniad wedi gorfod cau am fwy o amser yn y dyfodol, meddai'r cyngor.
Wrth glywed am y bwriad i wella'r ffordd, ac o ganlyniad, gorfod cau'r ffordd am bedwar mis, roedd aelodau o'r gymuned leol wedi mynegi pryderon.
Ond gyda'r cyfnod yna wedi dod i ben, dywedodd y Cynghorydd Sera Evans fod 'na "deimlad o ryddhad" yn lleol.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd er ei bod yn deall yr angen i drin y ffordd, bod y gwaith atgyweirio wedi bod yn "anghyfleuster mawr".
Aeth ymlaen i ddweud fod cau'r l么n yn "bendant" wedi cael effaith ar yr ardal: "Mae 'na bobl yn dod o bob cwr o'r cymoedd cyfagos i Dreorci i siopa, a lot o bobl o'r ardal yn mynd dros y mynydd i'r cwm wedi gorfod cael gwyriad mawr i Bontypridd.
"Gobeithio'n fawr gewn ni bach o hoe gyda'r tywydd fel bod pawb yn gallu defnyddio'r hewl yn saff dros y misoedd nesaf."
Dywedodd Geraint Davies, perchennog siop yn Nhreherbert, fod cau'r l么n wedi golygu "tri chwarter awr yn ychwanegol i bob taith" a bod hyn wedi effeithio'n fawr ar y rheiny sy'n gweithio yn Abertawe neu Ferthyr Tudful.
"Chi ddim yn sylweddoli pa mor bwysig yw rhywbeth nes chi'n colli e," meddai.
Dywedodd fod busnesau'r ardal wedi cael eu heffeithio gyda "phobl wedi colli oriau gweithio yn y misoedd diwethaf".
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud bod y gwaith wedi cwblhau o fewn yr amser er gwaetha'r amodau "heriol".