Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dros 12,000 wedi ymateb i ymgynghoriad cynllun amaeth
Fe wnaeth dros 12,000 o bobl ymateb i ymgynghoriad ar gynllun dadleuol ar gyfer cymhorthdal newydd i ffermio.
Mewn cyfweliad ar raglen Ffermio S4C nos Lun, dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig Huw Irranca-Davies mai dyma un o'r ymatebion mwyaf erioed i unrhyw ymgynghoriad, a bod angen amser i ddadansoddi'r sylwadau.
Ddechrau'r flwyddyn bu protestiadau chwyrn ar draws Cymru yn erbyn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - sydd i fod i ddod i rym yn 2025.
Un o'r elfennau mwyaf dadleuol yw'r angen i gael coed ar 10% o dir ffermydd.
Dywed Mr Irranca-Davies mai dyma oedd yr elfen oedd yn peri'r pryder mwyaf ymhlith yr ymatebion.
Dywedodd fod nifer o syniadau wedi dod i law gan ffermwyr a mudiadau amgylcheddol ynglyn 芒'r ffordd ymlaen, ac y byddai'n synnu pe na bai rhywfaint o newidiadau i'r cynllun yn sgil yr ymgynghoriad.
Fe gafodd Huw Irranca-Davies ei benodi'n ysgrifennydd dros newid hinsawdd a materion gwledig fel rhan o d卯m newydd Vaughan Gething.
Yn siarad yn gynharach yn y mis, dywedodd Huw Irranca-Davies y gallai'r "materion cymhleth" wrth wraidd yr anghydfod gael eu datrys.
Dywedodd mai ei gyfarfod swyddogol cyntaf 芒鈥檙 prif weinidog newydd oedd gyda鈥檙 undebau amaeth, a dywedodd fod 鈥渃ytundeb ar lawer o鈥檙 fframwaith a鈥檙 ffordd ymlaen鈥.
Wrth siarad ar raglen Ffermio, dywedodd yr ysgrifennydd: "Rydym wedi derbyn dros 12,000 o ymatebion. Mae'n mynd i gymryd cryn amser i'w hystyried a'u dadansoddi nhw yn ogystal 芒 dod a chynigion.
"Dyma un o'r ymatebion mwyaf yr ydym wedi ei gael i unrhyw ymgynghoriad. Rydym hefyd yn trafod gydag arweinwyr yr undebau ffermio a mudiadau eraill i weld beth yw'r cam nesaf."
Dywedodd y byddai'n "synnu'n fawr pe na bai rhai addasiadau" yn cael eu gwneud i'r cynllun.
Pan gafodd ei holi a fyddai newid ynghylch y rheol ynghylch coed ar 10% o'r tir, dywedodd mai "dyma un lle rydym wedi derbyn y nifer fwyaf o bryderon ond hefyd syniadau".
Wrth s么n am yr ymatebion, dywedodd fod "rhai wedi dod o'r gymuned ffermio ond rhai wedi dod o fudiadau amgylcheddol a byd natur ynghylch gwneud yr hyn rydym eisiau gyda chynhesu byd eang a'i wneud ychydig yn wahanol".
"Byddwn yn gweithio gydag eraill ac yn gwrando a gweld sut y gallwn newid ac addasu pethau..."
Dim oedi i'r cynllun
Fe gadarnhaodd na fydd y cynllun yn cael ei oedi gan fod yna angen i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur.
Pan gafodd ei holi a fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno o fewn y 12 mis nesaf, dywedodd fod modd gwneud hynny gan ddweud y byddai oedi ond yn dod 芒 mwy o ansicrwydd i'r diwydiant.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Daeth ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i ben ym mis Mawrth ac mae'r ymatebion yn cael eu hystyried.
Mae'n bwysig ein bod yn cymryd amser i ddadansoddi ymatebion a thrafod gyda rhanddeiliaid.
"Ni fydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud ar unrhyw elfen o'r cynigion nes bod y dadansoddiad wedi'i gwblhau."
'Ffars' os na fydd newidiadau
Dywedodd Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor y byddai'n rhaid i'r llywodraeth wrando ar yr ymatebion neu beryglu gwneud "ffars o'r holl air ymgynghoriad".
Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y bydd newidiadau i'r cynllun yn "arafu'r broses" yn sgil trafferthion mapio a chyfreithiol, ac "ar ben hyn wrth gwrs mae'r ochr ariannol".
"Dydy ffermwyr, dydy'r diwydiant, hyd yma, wedi cael unrhyw fanylion am be' fydd y taliadau am wneud pa fesurau. Mae 'na lot fawr 'da ni ddim yn ei wybod ar hyn o bryd, a buan iawn y daw hi'n Ebrill 2025 ac mae'r cloc yn bendant yn tician."
Ychwanegodd bod ffermwyr angen sicrwydd er mwyn gallu gwneud penderfyniadau allai effeithio ar eu tir am ddegawdau i ddod.
"Mae ffermio, rhywbeth hirdymor ydy o, fedrwch chi ddim neidio o un peth i'r llall fel mae'r awydd yn newid.
"Felly mae angen amser i bori dros y penderfyniadau yma fel bod nhw'n benderfyniadau cywir."
Dywedodd bod hynny hefyd yn wir o ran yr amgylchedd, gan ddweud ei fod yn "ofni y bydd yna frysio" i weithredu'r cynllun, ond y gallai fod yn well i " bwyllo a thargedu'r mesurau iawn yn y llefydd iawn".