Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dysgu i ymdopi ar 么l colli g诺r mewn damwain ddringo
- Awdur, Harri Evans
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Blwyddyn ar 么l colli ei g诺r mewn damwain ddringo, bydd dynes o Sir y Fflint yn cerdded 15 copa uchaf Cymru i godi arian i'r bobl a geisiodd ei achub.
Bu farw Liam Hughes, 42, mewn damwain tra'n dringo ger Llangollen ar 7 Mehefin 2023.
Symudodd Steffi Hughes, 37, o Sir Caer i ardal Sychdyn bron i 10 mlynedd yn 么l gyda Liam, a hynny er mwyn bod yn nes at eu "lle arbennig" - Eryri.
Ers y digwyddiad, mae Steffi wedi rhoi'r gorau i ddringo ond yn dal i gadw'n heini drwy gerdded a seiclo.
Mae bod yn yr awyr agored wedi bod yn "hanfodol" iddi ymdopi 芒'i cholled, ac mae hi'n dal yn "teimlo presenoldeb" ei diweddar 诺r wrth groesi ei hoff fynyddoedd.
"Dwi'm yn cofio'r wythnosau cyntaf [ar 么l colli Liam] yn iawn i ddweud y gwir, mae o'n bach o blur," meddai Steffi.
"Dwi 'di gorfod ffeindio rhyw fath o normalrwydd eto, ac ymarfer corff 'di'r ffordd i fi - a seiclo'n enwedig.
"Gen i lot o deimladau yn fy mhen ac mae ymarfer corff yn ryw fath o coping mechanism."
Mae Steffi'n fam i ddau o blant ifanc, sy'n ei chadw hi'n "ddigon prysur", yn ogystal 芒'i busnes, T欧 Gwyn Reflexology.
"Does gen i'm dewis ond i gario 'mlaen gyda fy mywyd," meddai.
"Yn ffodus i fi, gen i bethau i ganolbwyntio arnyn nhw, ac mae hynna a'r holl gefnogaeth gan ffrindiau a theulu - a'r gymuned hyfryd yn Sychdyn - wedi cadw fi fynd."
Cafodd Steffi alwad ar 么l y ddamwain, tra roedd y t卯m achub mynydd a'r ambiwlans awyr yn ceisio achub Liam.
Dywedodd ei bod ar ben arall y ff么n tra roedd hyn yn digwydd, ac roedd clywed yr hyn oedd yn mynd ymlaen yn y cefndir yn "ofnadwy o drawmatig i ddweud y lleiaf".
"Wnaeth o gerdded allan o'r t欧 a wnaeth o byth ddod yn 么l," meddai Steffi.
"O'n i'n gorfod eistedd fy mhlant i lawr ac egluro iddyn nhw be' oedd wedi digwydd.
"Fyswn i'm yn dymuno hynny ar unrhyw un - roedd o'n beth erchyll i orfod 'neud."
Er pa mor anodd oedd y diwrnod yna i Steffi a'i phlant, dywedodd ei bod hi ddim yn drist wrth feddwl am ei g诺r.
"Dwi mor ddiolchgar am yr amser ges i hefo fo. Roedd o'n berson anhygoel.
"Mae'r t欧'n llawn lluniau ohono fo a 'dan ni'n siarad amdana fo bob diwrnod, a'n eistedd yn gwylio fideos a phethau fel'na.
"Mae'n bwysig 'di'r plant ddim yn anghofio fo, ond er eu bod nhw'n ifanc, mae ganddyn nhw gymaint o atgofion hapus iawn ohono fo.
"Lot ohonyn nhw o fod allan ar y mynyddoedd - a 'dan ni dal yn gwneud pethau fel 'na hefo ein gilydd, ond m'ond fi sydd hefo nhw r诺an.
"Gobeithio fydda i'n gallu pasio 'mlaen i'm mhlant faint oedd Liam a fi'n caru'r mynyddoedd a gwario gymaint o amser a phosib yn ein lle arbennig ni - Eryri."