Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwahoddiad i gofnodi erydu arfordirol Cymru ar ffonau
Mae pawb sy'n berchen ar ffôn clyfar yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o waith ymchwil byd-eang sy'n canolbwyntio, am y tro cyntaf, ar erydiad arfordir Cymru.
Mewn 19 lleoliad ar hyd mae crud arbennig wedi ei osod er mwyn i bob ffôn sy'n cael ei ddefnyddio fel rhan o brosiect , dynnu llun o'r un olygfa.
Dros gyfnod o amser mae gwyddonwyr yn gobeithio deall mwy am effaith newid hinsawdd ar arfordir Cymru.
“Heb os, bydd prosiect CoastSnap yn cael effaith hirdymor ledled Cymru gan gyfrannu at ymdrechion byd-eang i ddeall yn well – a gwrthbwyso – erydiad arfordirol," meddai Gwyn Nelson, Rheolwr Rhaglen , sy'n gweithio ar y cyd gyda Llwybr Arfordir Cymru ar y prosiect yng Nghymru.
“Dim ond os oes gennym wybodaeth fanwl am y newidiadau sy’n digwydd y gellir amddiffyn ein harfordiroedd," meddai, "hyd yn oed os yw’r newidiadau hyn yn digwydd fesul tipyn.
"Ac yn aml, y ffordd orau o ddeall graddau erydiad arfordirol yw trwy fonitro agos a dal delweddau’n rheolaidd."
Mewn tri mis, bydd delweddau a gyflwynir ym mhob lleoliad yn cael eu casglu i ffurfio fideo treigl amser.
Bydd y data hwn wedyn yn cael ei ddefnyddio i lywio rheolaeth arfordir Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Cyfnod cymharol fyr yw tri mis yn nhermau erydiad arfordirol, ac fe fydd y prosiect CoastSnap yn derbyn lluniau yn barhaol.
Ar bob crud mae 'na god QR pwrpasol, sy’n galluogi cerddwyr i gyflwyno eu delweddau’n gyflym ac yn hawdd i Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru.
“Mae nifer fawr ohonom wrth ein bodd yn tynnu lluniau sy’n dal eiliadau arbennig pan fyddwn ni allan ar y Llwybr," meddai Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru.
"Trwy eu rhannu ar CoastSnap — yn ogystal ag Instagram neu Facebook a’u tebyg — bydd cerddwyr yn gallu rhannu eu teithiau â’u ffrindiau a chyfrannu at ymchwil hanfodol i erydiad arfordirol ar yr un pryd."
Mae mannau ffotograffiaeth CoastSnap Cymru i’w gweld yn y lleoliadau canlynol:
• Ffordd Lamby, Caerdydd
• Pentywyn, Sir Gaerfyrddin – gosodiad i’w gadarnhau
• Golygfa’r Castell, Cricieth, Gwynedd
• Traeth y Gorllewin, Cricieth, Gwynedd
• Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr – gosodiad i’w gadarnhau
• Glan y môr Aberaeron, Ceredigion – gosodiad i’w gadarnhau
• Promenâd Llandudno, Conwy
• Promenâd y Rhyl, Sir Ddinbych
• Talacre, Sir y Fflint
• Biwmares, Ynys Môn
• Safle Picnic Black Rock, Sir Fynwy – gosodiad i’w gadarnhau
• Port Talbot, Castell-nedd Port Talbot – gosodiad i’w gadarnhau
• Morglawdd Allteuryn, Casnewydd
• Bandstand Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
• Grisiau Traeth y Gogledd, Dinbych-y-Pysgod, Sir Benfro
• Bae Langland, Abertawe – gosodiad i’w gadarnhau
• Penarth, Bro Morgannwg
• Dwyrain Bae Whitmore, Y Barri
• Gorllewin Bae Whitmore, Y Barri