Anafiadau difrifol i ddau blentyn mewn gwrthdrawiad

Disgrifiad o'r llun, Roedd pedwar o gerbydau'n rhan o'r gwrthdrawiad, yn 么l Heddlu Dyfed-Powys

Mae dau o blant ac oedolyn wedi eu hanafu'n ddifrifol ar 么l gwrthdrawiad rhwng pedwar o gerbydau ger Llanelli fore Gwener.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi eu galw i ffordd y B4309 rhwng Ffwrnes a st芒d dai Maengwynne ar 么l 09:30.

Ychwanegodd y llu fod y tri pherson wedi eu cludo i'r ysbyty.

Dywedodd y gwasanaeth t芒n ac achub fod un person wedi ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

Dywedodd swyddogion eu bod wedi gorfod tynnu un person oedd wedi ei anafu o gerbyd.

Roedd cyfanswm o chwech o bobl yn rhan o'r digwyddiad, ychwanegon.

Fe gafodd pump o griwiau t芒n ac achub - o Lanelli, Rhydaman, Pontiets, Pontarddulais a Chaerfyrddin - eu galw i'r digwyddiad.

Cafodd y ffordd ei chau ar 么l y gwrthdrawiad.