Rowndiau rhagbrofol Euro 2025: Croatia 0-3 Cymru

Ffynhonnell y llun, CBDC

Disgrifiad o'r llun, Enillodd y Cymry 0-3 yn ei g锚m olaf ond un o rowndiau rhagbrofol Euro 2025

Enillodd Cymru eu g锚m olaf ond un yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 yn erbyn Croatia nos Wener.

Wedi g锚m gyfartal 2-2 yn erbyn Wcr谩in ym mis Mehefin, roedd angen buddugoliaeth ar d卯m Rhian Wilkinson i leihau'r pwysau ar frig Gr诺p B4.

Aeth Cymru ar y blaen yn yr 14eg funud gydag ergyd o ymyl y cwrt cosbi gan Jess Fishlock.

Roedd Cymru'n gyfforddus am weddill yr hanner cyntaf, yn rheoli'r meddiant a'n profi golgeidwad Croatia sawl gwaith.

Daeth yr ail g么l 20 munud fewn i'r ail hanner gydag ergyd oddi ar y postyn gan Sophie Ingle, ac fe seliodd y tri phwynt gyda chic o'r smotyn hwyr gan Kayleigh Barton.

Mae Cymru'n arwain y gr诺p o ddau bwynt, gyda g锚m gartref yn erbyn Cosofo nesaf dydd Mawrth.