Teyrnged i ddyn ifanc fu farw ym Mro Morgannwg

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Connor Ockerby ar safle'r gwrthdrawiad

Mae teulu dyn 20 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg ddydd Sul wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Connor Ockerby mewn gwrthdrawiad un cerbyd - Ford Fietsa llwyd - tua 03:50 fore Sul ar Ffordd y Barri, Dinas Powys.

Cafodd dwy ddynes, un 21 oed o'r Barri a'r llall yn 18 oed o Ddinas Powys, eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod "ei deulu i gyd, ei ffrindiau - a oedd yn chwarae rhan fawr yn ei fywyd - a phawb oedd yn ei adnabod yn ei garu'n fawr".

"Rydym wedi'n llorio o golli ein bachgen hardd. Ni ddown ni dros y golled yma."

Mae Heddlu De Cymru yn parhau 芒'r ymchwiliad ac yn apelio am dystion am wybodaeth.