Gatland wedi 'cyffroi' wrth edrych 'mlaen at 2027

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, 2027 fyddai'r pumed tro i Warren Gatland arwain Cymru i Gwpan y Byd

Mae Warren Gatland ac un o benaethiaid Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi rhoi'r awgrym cryfaf hyd yma y bydd yn aros fel prif hyfforddwr Cymru a'u harwain i Gwpan y Byd 2027 yn Awstralia.

Mae gan Gatland gytundeb pum mlynedd gydag Undeb Rygbi Cymru - fyddai'n ei gymryd hyd at 2027 - ond y gred yw bod cymal ynddo oedd yn golygu bod modd ei dorri'n fyr ar 么l y bencampwriaeth eleni.

Wedi'r golled yn erbyn Ariannin yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd ddydd Sadwrn, mynnodd ei fod eisiau parhau gyda'r garfan genedlaethol.

Roedd Gatland, 60, wedi dweud y byddai gan yr undeb "berffaith hawl" i ddod 芒'i gytundeb i ben yn dilyn y siom o golli yn y chwarteri.

'Alli di ddim cael gwared ohona i!'

Pan ofynnwyd iddo mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher ai ef fyddai'n arwain y garfan i Gwpan y Byd 2027, dywedodd: "Yn bendant - dyna'r cynllun.

"Ges i j么c gyda Nigel [Walker - prif weithredwr dros dro URC] yn gynharach, lle dywedais 'alli di ddim cael gwared ohona i!'."

Ychwanegodd ei fod yn "gyffrous gyda'r hyn gallwn ni wneud fel gr诺p".

Ychwanegodd Mr Walker yn y gynhadledd fod "angen i chi gael hyfforddwyr da a chwaraewyr da er mwyn bod yn llwyddiannus mewn chwaraeon cenedlaethol".

"Rydych chi wedi gweld y twf yn y garfan mewn cyfnod cymharol fyr, ac fel Warren, rwy'n gyffrous iawn i weld beth ddaw yn y pedair blynedd nesaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd Gatland yn rhoi ei ffydd mewn chwaraewyr iau fel Jac Morgan yn sgil ymadawiad rhai o'r chwaraewyr h欧n

Dywedodd Gatland fod y gwaith o baratoi at 2027 yn dechrau'n syth, gyda'r bwriad o roi mwy a mwy o brofiad i'r chwaraewyr ifanc.

"Mae gennym ni gyfle i ddod 芒 chwaraewyr ifanc i mewn ac adeiladu tuag at 2027 gyda chwaraewyr yn cael 50, 60, 70 o gapiau tu 么l iddyn nhw.

"Mae 'na gyfle hefyd i ni adeiladu perthnasau nes gyda'r rhanbarthau... ac nid dyna fu'r achos pob tro yn y gorffennol.

"Yn aml mae'r perthnasau yna wedi bod yn doredig oherwydd pethau oedd yn mynd ymlaen rhwng y rhanbarthau a'r undebau, ac fe gafon ni ein llusgo i mewn i'r peth."