Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd ambr am 'dros 100mm o law' i ogledd Cymru
Mae rhybudd ambr mewn grym am law trwm ddydd Mercher sy'n effeithio ar rannau o ogledd Cymru.
Siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd a Wrecsam sy'n cael eu heffeithio gan y rhybudd ambr, meddai'r .
Daw i rym am 12:00 ac mae'n parhau'n weithredol nes 12:00 ddydd Iau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai tir uchel yng ngogledd Cymru weld "100-150mm neu fwy" o law yn disgyn.
Mae llifogydd, amodau gyrru anodd a phroblemau teithio yn debygol.
Mae ail rybudd melyn am law hefyd mewn grym i ardal ehangach o Gymru hyd at 06:00 fore Iau.
Mae'r canolbarth a rhannau o'r de-ddwyrain wedi eu cynnwys yn y rhybudd hwn, gyda'r Swyddfa Dywydd yn dweud nad yw'n sicr ymhle y bydd y glaw trymaf.