Atgofion Endaf Emlyn wrth ddathlu'r 80

Disgrifiad o'r llun, Endaf Emlyn yn yr 1960au, ac yn 2024

Recordio yn Abbey Road, rhyddhau albymau sy鈥檔 glasuron Cymraeg, cyfansoddi arwyddgan Pobol y Cwm, cyfarwyddo ffilmiau fel Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig - mae gan Endaf Emlyn ddigon i鈥檞 drafod wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 80.

A dyna mae鈥檙 cerddor a鈥檙 cyfarwyddwr dylanwadol wedi ei wneud mewn cyfweliad estynedig ar raglen Ffion Dafis - lle鈥檙 oedd o hefyd yn dewis awr o gerddoriaeth gyfoes Cymraeg.

Dyma ddetholiad o鈥檌 sylwadau.

Gwrthod lle i ganu gyda ch么r cadeiriol St Paul鈥檚 yn Llundain

"Roeddwn i鈥檔 soprano pan o鈥檔 i鈥檔 hogyn bach a do鈥檔 i ddim yn licio bod yn soprano o gwbl. Roedd pawb yn dotio ac roedd rhaid canu yn bob man a ro鈥檔 i鈥檔 awyddus i鈥檙 llais dorri er mwyn i mi gael llonydd gan bawb.

"Felly roedd 'na lot o bwysa arna'i i ganu, ac i鈥檙 fath raddau, ar un adeg fe ddaeth cynllun i fy ngyrru fi i goleg corawl i eglwys gadeiriol.

"Mi aeth fy nhad a fi i St Paul鈥檚 ac roedd s么n am fynd i fanno - a neshi jest gwrthod mynd... faswn i ddim yn dweud bod o鈥檔 bwysa llethol o gwbl ond roedd o鈥檔 dod o le da fel basa rhywun yn ei ddeud, ond roedd o鈥檔 dipyn o bwysa arna i ac yn hynny o beth ro鈥檔 i鈥檔 ffoi i fyd fy nychymyg.

Disgrifiad o'r llun, Ffion Dafis fu'n holi Endaf Emlyn ar gyfer ei rhaglen ar 大象传媒 Radio Cymru

"Aethon ni i鈥檙 eglwys. Aethon ni fyny i鈥檙 to ac edrych i lawr ond do鈥檔 i鈥檔 ddim isho mynd. Roedd gen i fodryb yn byw yn Llundain. Cynllun fy nhad oedd hwn, i wneud rhyw fath o farc yn y byd hwnnw - ond dwi鈥檔 credu gan fod fy modryb yn byw yn Clapam - Anti Llinos oedd ei henw hi - doedd o ddim yn teimlo mod i鈥檔 ben draw鈥檙 byd ar ben fy hun. Ond do鈥檔 i ddim yn barod i fynd."

Fe aeth i bwll iselder yn ei arddegau ar 么l cyfnod anodd

"Ro鈥檔 i鈥檔 medru chwarae鈥檙 ffidl - y bwriad oedd y byddwn i鈥檔 ffidlwr proffesiynol.

"Ond pan o鈥檔 i鈥檔 16 fe golles i fy mam ac er mai fy Nhad oedd yn uchelgeisiol, fy mam wrth gwrs - y fam Gymreig - oedd yn penderfynu lle ddylwn i fynd ac yn argymell.

"Wedyn ro鈥檔 i鈥檔 colli鈥檙 arweiniad yna ac ro鈥檔 i mewn pwll o iselder erbyn hynny a mi rois i鈥檙 ffidil yn llythrennol yn y to. Wnes i wrthod mynd i鈥檙 Gerddorfa Genedlaethol a dewis peidio chwarae鈥檙 ffidil a dechrau chwarae - yn anghelfydd iawn - y git芒r.

"Yn yr un flwyddyn fe symudon ni鈥檔 cartref... achos fu farw fy mam ym Mehefin ac erbyn y Nadolig ro鈥檔 i鈥檔 byw ym Mhorthaethwy oherwydd bod fy nhad wedi cael gwaith ym Mangor yn y coleg.

"Ro鈥檔 i wedi colli cysylltiad efo popeth dweud y gwir... wedyn roedd hwnnw yn dipyn o bwll i ddringo ohono fo ac mae o wedi cymryd sbel i wneud hynny dweud y gwir.

Disgrifiad o'r llun, Ar 么l dangos dawn cerddorol pan yn hogyn ifanc, fe wnaeth Endaf Emlyn ddechrau cyflwyno ar raglen Disg a Dawn i'r 大象传媒 yn yr 1960au

"Dwi鈥檔 meddwl bod pobl sydd yn anghyflawn mewn rhyw ffordd neu wedi eu niweidio mewn rhyw ffordd neu sydd yn anhapus - maen nhw鈥檔 cael ryw foddhad o greu rhywbeth sydd yn gyflawn, sydd tu allan i鈥檙 profiadau yna."

Fel Bob Dylan, fe gafodd ei alw鈥檔 鈥榝radwr鈥 mewn gig

Disgrifiad o'r llun, Y supergroup Cymraeg - Injaroc, gyda'r aelodau (blaen) Geraint Griffiths, Endaf Emlyn, Caryl Parry Jones, Cleif Harpwood, Hefin Elis, (cefn) John Griffiths, Charli Britton a Sioned Mair

"Mi ges i gyfnod byr iawn yn canu yn Injaroc ac roedd Injaroc yn brofiad.

"Roedd Edward H wedi dod i ben - i ddiwedd eu hoes arbennig - a gweddillion Edward H a Sidan, a fi a Geraint Griffiths oedd Injaroc.

"Roedd 'na ddrwgdeimlad chwyrn iawn yn dod gan ddilynwyr Edward H oedd ddim yn hapus efo鈥檙 sefyllfa honno - Edward H hysteria o鈥檔 i鈥檔 ei alw fo.

"Yn ein cyngerdd cynta鈥 ni yn Aberystwyth o bob man, dwi鈥檔 cofio ryw un hogyn oedd o鈥檔 wmbrath yn iau na fi o flaen y llwyfan yn gweiddi bradwr arna fi trwy鈥檙 nos.

"Chwarae teg iddo fo, doedd o ddim yn sobor - ac allwn i faddau hynny iddo fo. Do鈥檔 i methu deall pwy ydw i wedi bradychu? A sut ac yn y blaen, felly roedd 'na lot o bethau fel hynny oedd reit anodd.鈥

Aeth i Rwsia gyda $20,000 o bres S4C mewn arian parod

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Un o'r golygfeydd gafodd eu ffilmio yn Rwsia i Gadael Lenin yn 1993, i S4C. Endaf Emlyn oedd y cyfarwyddwr

"Roedd (Rwsia) yn le peryglus - o gwmpas 1991 oedd hi - dwi鈥檔 credu bod (Yr Arlywydd Boris) Yeltsin wedi mynd.

"Doedd 'na ddim llywodraeth a doeddach chi ddim yn cael mynd 芒 doleri i mewn i鈥檙 wlad, ond roedd y rouble wedi syrthio drwy鈥檙 llawr felly roedd rhaid i chi gael doleri.

"Roedd gynnon ni gynhyrchydd oedden ni鈥檔 gweithio efo fo yn Rwsia ac roedd o wedyn yn dweud wrtha i 'mae'n rhaid dod 芒 rhyw $20,000' ac felly mi fues i drwy customs - ac roedd gen i $20,000 yn fy mhoced.

"O dan y wardrob oedd o wedyn achos doedd 'na ddim banc yno, doedd 'na ddim yswiriant car na dim."

Fe gyfansoddodd g芒n agoriadol Pobol y Cwm diolch i Salem

Disgrifiad o'r llun, Y cyfarwyddwr John Hefin, oedd yn bennaeth drama 大象传媒 Cymru, ar set ffilm Y Rhandir Mwyn yn 1973 - flwyddyn cyn i Pobol y Cwm gael ei darlledu am y tro cyntaf

"Oherwydd Salem [ei albwm yn 1974] mi ges i Pobol y Cwm.

"Roedd John Hefin [y cyfarwyddwr wnaeth gyd-greu Pobol y Cwm] wedi clywed a mwynhau Salem - ag roedd o angen rhywbeth oedd yn debyg ond ddim run fath, yn werinol ond ddim rhy werinol, a hyn a鈥檙 llall.

"Rhyw bethau cyffredinol oedd y dyheadau yma i gyd ond ro鈥檔 i鈥檔 deall be' oedd o鈥檔 ei feddwl.

"Ac wedyn mae Pobol y Cwm hefyd yn dathlu'r pen-blwydd hanner cant eleni achos roedd hi'n yr un flwyddyn, roedd Salem (yn 1974) ac wedyn yn fuan ar 么l Salem daeth Pobol y Cwm."