大象传媒

Rhybudd bod pobl yn saethu gwylanod a difrodi nythod

GwylanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn gwarchod adar gwyllt, gan gynnwys gwylanod, yn ogystal 芒'u nythod, wyau a chywion

  • Cyhoeddwyd

Mae yna "lawer o adroddiadau" bod gwylanod yn cael eu saethu a nythod yn cael eu difrodi, yn 么l Heddlu Gogledd Cymru.

Dywed y llu bod achosion wedi eu cofnodi ar yr arfordir yn Abergele, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

"Mae'n anghyfreithlon i ladd, anafu neu gipio gwylanod yn fwriadol, oni bai am drwy drwydded," dywedodd y Cwnstabl Amy Bennett o d卯m troseddau cefn gwlad y llu.

"Fe allai'r defnydd o reiffl aer yn yr amgylchiadau hyn hefyd fod yn drosedd gynnau."

Mae gwylanod yn cael eu hystyried yn niwsans gan rai, ond mae eu niferoedd yn gostwng.

Yn 么l astudiaeth y llynedd, roedd yna ostyngiad o 41% rhwng 2002 a 2021 yn niferoedd gwylanod y penwaig, sydd ar gofrestr rhywogaethau gwarchodedig ers 2009.

Roedd hynny'n golygu colled yn y cyfnod dan sylw o dros 51,000 o barau oedd yn nythu mewn safleoedd naturiol, yn hytrach na rhai dinesig.

'Creaduriaid deallus sy'n haeddu parch'

Mae dyfodol gwylan y penwaig yn destun pryder i gadwraethwyr ar draws y DU, medd swyddog gwyddonol a pholisi'r RSPCA, Rebecca Machin.

"Yn anffodus, mae gan lawer o bobl farn anffafriol yn eu cylch ac rydym yn gwybod eu bod yn cael eu targedu, hyd yn oed," dywedodd.

"Ond mae'n rhain yn greaduriaid deallus sy'n creu cysylltiadau cymdeithasol cryf gyda'i gilydd, ac sy'n haeddu cael eu trin gyda pharch."

Ychwanegodd: "Dylen ni oll fod eisiau byw mewn cymunedau ble mae ein bywyd gwyllt yn cael eu trin yn garedig."