大象传媒

18 achos o E. coli 'yn ymwneud 芒 math penodol o fwyd'

E. coliFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae 18 achos o haint E. coli wedi cael eu cofnodi yng Nghymru ers 25 Mai, yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae 113 o achosion wedi eu cofnodi ar hyd y Deyrnas Unedig gydag Asiantaeth Iechyd y DU yn dweud bod yna gysylltiad rhwng y mwyafrif o'r achosion hynny.

Y gred yw bod y lledaeniad yn ymwneud 芒 math penodol o fwyd sy'n cael ei ddosbarthu yn genedlaethol.

Gr诺p o facteria yw E. coli sydd yn byw yn y coluddyn heb achosi niwed fel arfer, ond mae rhai mathau, fel STEC, yn gallu achosi salwch difrifol.

Mae heintiau STEC yn aml yn achosi dolur rhydd difrifol, gyda gwaed ynddo o bryd i'w gilydd, poen yn y bol a thwymyn.

Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae naw o bobl wedi derbyn triniaeth ysbyty ar 么l cael eu heintio.

Mae ffigyrau'r asiantaeth yn nodi bod 18 achos wedi eu cofnodi yng Nghymru, 81 yn Lloegr, 13 yn yr Alban ac un yng Ngogledd Iwerddon - ond y gred yw bod yr unigolyn yna wedi cael ei heintio yn Lloegr.

Mae oedran y rhai hynny sydd wedi eu heintio yn amrywio o ddwy i 79, gyda'r mwyafrif yn oedolion ifanc.

'Haint cas'

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod "STEC yn haint cas sy'n gallu gwneud pobl yn ddifrifol wael" a'i fod yn gallu "effeithio fwy ar blant ifanc, yr henoed a phobl 芒 systemau imiwnedd gwan".

"Ry'n ni'n gweithio gyda'n partneriaid ar hyd y DU ac o fewn Cymru er mwyn dod o hyd i darddiad y lledaeniad yma, ac wedi rhoi canllawiau i ddarparwyr iechyd ledled y wlad."

Mewn datganiad, dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU: "Yn seiliedig ar ble mae'r achosion hyn wedi eu cofnodi, mae hi'n debygol bod y lledaeniad yn ymwneud 芒 math penodol o fwyd sy'n cael ei ddosbarthu yn genedlaethol, neu sawl eitem.

"Ry'n ni'n gweithio gydag asiantaethau iechyd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban er mwyn ceisio dod o hyd i achos y lledaeniad yma."

Pynciau cysylltiedig