Dafydd Jenkins yn dilyn 么l troed Syr Gareth Edwards

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Dafydd Jenkins yw'r ail chwaraewr ieuengaf erioed i arwain Cymru
  • Awdur, Dafydd Pritchard
  • Swydd, Chwaraeon 大象传媒 Cymru

Mae Dafydd Jenkins ar fin dod yn gapten ieuengaf Cymru ers Syr Gareth Edwards, ac mae wedi cael ei gymharu ag Alun Wyn Jones yn barod. Dim pwysau felly.

Bydd y clo yn 21 mlynedd a 60 diwrnod oed pan fydd e鈥檔 arwain Cymru yng ng锚m agoriadol y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn.

Daw ei gyfle i fod yn gapten o ganlyniad i anafiadau i Jac Morgan a Dewi Lake, a dim ond Edwards oedd yn iau - 20 oed - pan arweiniodd Cymru am y tro cyntaf, hefyd yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd, yn ystod Pum Gwlad 1968.

Doedd Jenkins ddim hyd yn oed wedi ei eni y tro diwethaf i'r Alban guro Cymru yng Nghaerdydd yn 2002 鈥 ond mae rygbi yn rhan o鈥檌 enaid.

'Baby horse' yn troi'n ddyn

Chwaraeodd ei dad, Hywel, i Gymru mewn g锚m ddi-gap yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Roedd yn cael ei adnabod fel 鈥Crazy Horse鈥, gyda'i ffrindiau yn galw ei fab yn 鈥Baby Horse鈥.

Mae Jenkins yn sicr yn ddyn erbyn hyn.

Mae鈥檙 bachgen o Borthcawl nawr ar drothwy un o anrhydeddau uchaf chwaraeon Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Syr Gareth Edwards (ar y chwith) yn paratoi i basio'r b锚l i Gymru yn erbyn Yr Alban ym 1968

鈥淒wi鈥檔 gobeithio bydd e鈥檔 teimlo鈥檔 well nag o'n i ar y pryd ym 1968!鈥 meddai Syr Gareth Edwards.

"O leiaf ma' Dafydd wedi cael profiad o fod yn gapten ar ei glwb o鈥檙 blaen.

鈥淥'n i鈥檔 ifanc, 20. Ma' mwy o brofiad 鈥檇a Dafydd ac ma' fe鈥檔 chwaraewr arbennig.

鈥淧ob lwc iddo fe - ffantastig. Ma' fe wedi dangos bod y gallu ganddo fe.

鈥淏yddai Warren Gatland ddim yn ei ddewis yn gapten heb feddwl bod e am chwarae yn y safle yna am flynyddoedd i ddod.

鈥淩oedd Sam Warburton yn chwaraewr arbennig, mwy ne' lai yn sicr o鈥檌 le yn y t卯m, a dwi鈥檔 credu bod e鈥檔 sefyllfa debyg gyda Dafydd.鈥

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Dafydd Jenkins oedd aelod ieuengaf carfan Cymru yng Nghwpan y Byd y llynedd

Ar 么l cael ei fagu ym Mhorthcawl, gadawodd Jenkins Gymru yn 16 oed i fynychu Coleg Hartpury, sydd wedi cynhyrchu nifer o chwaraewyr rygbi rhyngwladol 鈥 gan gynnwys cyn-asgellwr Cymru, Louis Rees-Zammit a phrop Lloegr, Ellis Genge.

Roedd Jenkins wedi bod yn rhan o academi'r Gweilch ond, tra'n chwarae i Hartpury, fe gysylltodd prif hyfforddwr Caerwysg, Rob Baxter, 芒 fe.

Ymunodd Jenkins 芒鈥檙 clwb yn 2021 tra鈥檔 astudio gwyddor chwaraeon ym Mhrifysgol Caerwysg.

Chwaraeodd i d卯m rygbi'r brifysgol, gan sgorio cais a chael ei enwi'n seren y g锚m yn erbyn Durham ym muddugoliaeth cystadleuaeth Super Rugby BUCS.

Ym mis Tachwedd 2022, yn 19 oed a 342 diwrnod, torrodd Jenkins record Uwch Gynghrair Lloegr fel y capten ieuengaf, mewn buddugoliaeth i Gaerwysg yn erbyn Gwyddelod Llundain.

Doedd dim syndod felly wrth i Jenkins ennill cydnabyddiaeth ryngwladol yn fuan ar 么l hynny.

Yn dilyn perfformiadau cryf dros d卯m dan-20 Cymru yn erbyn De Affrica ym mis Gorffennaf 2022, fe enillodd Jenkins ei gap llawn cyntaf dim ond pedwar mis yn ddiweddarach, fel eilydd yn y golled yn erbyn Georgia.

Yng Nghwpan y Byd llynedd, Jenkins oedd aelod ieuengaf carfan Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd yr wyth olaf yn Ffrainc.

Mae stori Jenkins nawr yn dychwelyd i Gymru, wrth iddo baratoi i arwain ei wlad ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ffynhonnell y llun, Getty

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Syr Gareth Edwards fod Jenkins "wedi dangos bod y gallu ganddo fe"

Bydd dydd Sadwrn yn nodi union 56 mlynedd ers daeth Edwards y Cymro ieuengaf i arwain ei wlad.

Roedd hynny yn erbyn yr un gwrthwynebwyr, Yr Alban. Enillodd Cymru 5-0.

Porthcawl yw lle mae Edwards bellach yn byw hefyd.

Bu cyn-fewnwr Cymru a鈥檙 Llewod yn chwarae gyda thaid Jenkins, Richard Gronow - tad ei fam Rhian - i d卯m Bechgyn Ysgol Cymru.

Mae Rhian yn feddyg teulu yn yr ardal.

'Cadw llygad barcud!'

鈥淔i di bod yn cadw llygaid ar Dafydd oherwydd, fel mae鈥檔 digwydd, mae ei fam yn feddyg yn y pentref,鈥 meddai Edwards.

鈥淎 hefyd chwaraeais i dros d卯m Bechgyn Ysgol Cymru gyda鈥檌 dad-cu. Roedd e鈥檔 fachwr dros Benybont, a fe chwaraeais i yn erbyn e gyda Chaerdydd hefyd.

鈥淢ae鈥檙 hanes yn mynd yn 么l dros y blynyddoedd. Dyna pam dwi鈥檔 cadw llygaid barcud ar y crwtyn ifanc!

鈥淐ofiwch chi, ar yr un pryd, ni gyd fel teulu yn adnabod Jac Morgan a鈥檌 deulu, ac mae Jac wedi chwarae鈥檔 arbennig cyn ei anaf.

鈥淢ae Dafydd yn gymeriad arbennig a fi鈥檔 falch mai fe sy鈥檔 cymryd lle Jac. Mae yna lot o dalent ifanc.

鈥淥s gadwon nhw fel ma' nhw, pwy a 诺yr, falle bydde nhw鈥檔 gapteniaid ar y Llewod rhyw ddydd. Mae鈥檙 gallu ganddyn nhw.鈥