大象传媒

3 llun: Lluniau pwysicaf Ed Holden

Mr Phormula sy'n dewis tri llun i Cymru Fyw yr wythnos ymaFfynhonnell y llun, Mr Phormula
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mr Phormula sy'n dewis tri llun i Cymru Fyw yr wythnos yma

  • Cyhoeddwyd

Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?

Mae'n rapiwr, mae'n gynhyrchydd ac yn f卯t-bocsiwr sydd wedi ennill cystadlaethau ar draws y byd. Ed Holden, neu Mr Phormula, sydd yn trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw yr wythnos yma.

Ffynhonnell y llun, Ed Holden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tad Ed Holden ar Ynys Enlli

Mae gen i atgof gwych o鈥檙 diwrnod yma. Mam a Dad yn mynd 芒 fi drosodd i Ynys Enlli pan o'n i鈥檔 blentyn. Gafon ni ddiwrnod anhygoel.

Stori ffyni, roedd y gwch yn llawn yn mynd drosodd gyda 'mond lle i ddau arni. Aeth Dad a fi ymlaen efo'r bwyd ac yn y blaen, a Mam yn disgwyl ar y lan... am oriau! Fi a Dad efo鈥檙 bwyd a pob dim! Doedd Mam ddim yn rhy hapus ar 么l cyraedd yr ynys de! Ond gafon ni ddiwrnod anhygoel, llawn hwyl. Atgof bendigedig!

Ffynhonnell y llun, Ed Holden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ed Holden a'i wraig Haf yn rhedeg

Mae鈥檙 daith 'da ni wedi bod ar fel perthynas yn anhygoel. Fyswn i ar goll heb Haf. Y noson gyntaf i mi gwrdd 芒 Haf oedd mewn gig gwag Genod Droog. Neb yna heblaw Haf a'r trefnwyr!

'Nes i siarad efo hi a cyn mynd adra (o'n i鈥檔 sobr ac yn gyrru) o'n i 'di gweld rhif ff么n ar y bwrdd wrth ymyl lle oedd hi鈥檔 eistedd. Am ryw reswm o'n i'n meddwl mai ei rhif hi oedd o... i fi! Es i adra a tecstio. Troi allan mai rhyw foi randym oedd o! Pwy 'sa'n meddwl o鈥檙 noson yna y baswn i鈥檔 gwario gweddill fy mywyd efo鈥檙 ddynes anhygoel yma.

Ffynhonnell y llun, Ed Holden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun gan yr artist Meirion Ginsberg yn hongian ar wal yn stiwdio Mr Phormula

Wnaeth Mei arlunio鈥檙 llun anhygoel yma fel t芒l am waith gwefan gan Andy Garside (un o fy ffrindiau eraill i). Dwi'n cofio'r tro cyntaf i Andy ddangos y llun i mi o'n i fel: 鈥淥s ti byth isho gwerthu hwna, tyrd ata fi gynta!鈥

Sbel yn 么l roedd Andy angen ei werthu o ac yn amlwg mi ges i o! Mae o 'di cymryd ei le yn anhygoel yn y stiwdio ac mae'n dyst i鈥檙 holl miwsig dwi鈥檔 ei greu (gan gynnwys yr albwm newydd 鈥淎.W.D.L鈥). Dwi wrth fy modd efo鈥檙 llun yma ac mae Mei yn seren wib fyd!