Cynghorydd Sir G芒r yn gadael Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynghorwyr Sir G芒r wedi beirniadu Plaid Cymru yn ffyrnig wrth ymddiswyddo o gr诺p y blaid ar Gyngor Sir G芒r, gan gyhuddo'r blaid o "fethu 芒 dysgu o gamgymeriadau'r gorffennol".
Fe fydd y Cynghorydd Dai Nicholas nawr yn cynrychioli ardal Llandybie fel cynghorydd annibynnol, sydd ddim yn perthyn i unrhyw gr诺p.
Deallir bod y Cynghorydd Nicholas wedi anfon neges at gyd-aelodau yng ngr诺p y blaid fore Llun, a'i fod yn feirniadol iawn o'r ffordd roedd y blaid yn ganolog a鈥檙 Pwyllgor Gwaith wedi ymdrin 芒 rhai materion.
Meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru: 鈥淒iolchwn i鈥檙 Cynghorydd Dai Nicholas am ei wasanaeth.
"Fel mae ef ei hun yn nodi, mae gan Blaid Cymru gynrychiolwyr gwych ar lefel lleol a chenedlaethol ac yn Ann Davies ymgeisydd heb ei hail ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.鈥
- Cyhoeddwyd22 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023
Mewn neges at arweinydd y gr诺p, mae'r Cynghorydd Dai Nicholas yn cyhuddo'r blaid yn ganolog o anwybyddu barn aelodau ar lawr gwlad a chynghorwyr y blaid.
Mae'n cyhuddo'r blaid o orfodi ymgeiswyr allanol, ac o fethu 芒 gwrando a deall yr ymdeimlad ymhith aelodau'r blaid yn Llanelli.
Mae'n feirniadol hefyd o'r ffordd y gwnaeth Plaid Cymru ymdrin gydag achos Jonathan Edwards, rhywbeth y mae'n dweud sydd "wedi dwyn gwarth ar y blaid", ac o gynnal "llys cangar诺."
Mae'r Cynghorydd Nicholas hefyd yn cwestiynu pam na wnaeth y blaid gymryd camau disgyblu yn erbyn Leanne Wood ar 么l iddi wneud sylwadau beirniadol ychydig ddiwrnodau cyn yr etholiadau lleol.
Mae'n ddirmygus o'r penderfyniad hefyd i beidio enwebu Elfyn Llwyd fel ymgeisydd i D欧'r Arglwyddi, ac mae'n hallt ei feirniadaeth o'r cytundeb cydweithio gyda'r Blaid Lafur yn y Senedd.
Mae'n cyhuddo'r Blaid o "ddiffyg cynllun" ar sut i sicrhau annibyniaeth i Gymru.
Yn olaf, mae'n feirniadol o'r gyfundrefn etholiadol newydd ar gyfer y Senedd fydd yn cynnwys "rhestrau cae毛dig".
Meddai: "Yr unig reswm galla i weld ydy mynd 芒'r dewis o ddwylo etholwyr, gosod gwleidyddion di-wyneb yn eu lle, a chadw gafael simsan ar rym fel c诺n bach i Lafur Cymru, tra'n cael briwsion o'r bwrdd."
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, bod y newidiadau yn fodd o gryfhau "sylfeini ein democratiaeth seneddol".
Dim mwyafrif clir bellach
Doedd y Cynghorydd Dai Nicholas ddim am gael ei holi ond dywedodd bod yn parhau i gadw at y sylwadau yn y neges.
Mae ei benderfyniad yn gadael Plaid Cymru heb fwyafrif clir ar y cyngor, er mae'r blaid yn rheoli'r awdurdod mewn partneriaeth gyda'r grwp Annibynnol.
Mae gan Blaid Cymru 37 o gynghorwyr ar Gyngor Sir Caerfyrddin ac mae gan gr诺p Llafur 21 aelod.
11 aelod sydd gan y gr诺p Annibynnol ac mae chwech o gynghorwyr annibynnol sydd ddim yn perthyn i unrhyw gr诺p.