大象传媒

'Dylai Jonathan Edwards gael dychwelyd i Blaid Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwards
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ym mis Ionawr dywedodd Jonathan Edwards, cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, ei fod yn ystyried sefyll yn erbyn ei gyn-blaid yn yr etholiad nesaf

Dywed cyn-arweinydd Cyngor Ceredigion y dylai Jonathan Edwards AS gael dychwelyd i Blaid Cymru.

Cafodd ei wahardd o'r blaid ym Mai 2020 wedi iddo dderbyn rhybudd heddlu am ymosod ar ei wraig. Mae e bellach yn AS annibynnol.

Wrth siarad ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru dywedodd Ellen ap Gwynn o'r blaid y dylai Mr Edwards gael "ail gyfle".

Dywed llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod yn canolbwyntio ar y dyfodol a chyflwyno polis茂au blaengar.

Ym mis Ionawr dywedodd Mr Edwards ei fod yn ystyried sefyll yn erbyn ei gyn-blaid yn yr etholiad nesaf gan fod ganddo gefnogaeth yn lleol.

Yn 2022 fe gafodd Mr Edwards, AS sy'n cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn San Steffan hawl i ailymuno 芒 Phlaid Cymru gan banel disgyblu - gan ysgogi dadl a ddylai gael cynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan.

Fe wnaeth y rhan fwyaf o bwyllgor gweithredol y blaid argymell na ddylai gael ailgydio yn ei waith fel AS Plaid Cymru.

'Angen derbyn barn y panel disgyblu'

"Yn fy marn i, ma' gan y blaid bolisi o 'restorative justice', a dwi yn credu y dyla fo fod wedi cael ail gyfle. Dwi yn gwybod fod y drefn o ddisgyblu wedi ei dilyn, a'i dilyn yn gywir," meddai Ellen ap Gwynn.

"Fe gafodd o gosb, fe gafodd ei ddiarddel am flwyddyn, ac wedyn wnaethon nhw ailystyried a mi benderfynon nhw y bydde fo yn gallu ailymuno.

"Ond, am ryw reswm, roedd yna deimlad digon annifyr yn yr achos yma na ddyla fo ddim cael ei aildderbyn i'r blaid."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Ceredigion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae Jonathan Edwards yn haeddu cyfle arall,' medd Ellen ap Gwynn, cyn-arweinydd Cyngor Sir Ceredigion

Wrth gael ei holi a ydi'n iawn i ddweud ei fod wedi cael cam o ystyried ei fod wedi cael rhybudd heddlu dywedodd Ellen ap Gwynn: "Fe gafodd o ei gosbi, a does 'na ddim s么n fod unrhyw beth tebyg wedi digwydd cyn nac ar 么l hynny, felly bydden ni yn derbyn barn y pwyllgor disgyblu sydd yn gwybod mwy am gefndir yr achos na neb."

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae holl sylw Plaid Cymru ar y dyfodol, ar barhau i weithredu polis茂au radical trwy'r Cytundeb Cydweithio sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a chyflwyno syniadau blaengar sy'n mynd i'r afael聽芒'r argyfwng costau byw."聽