Ailagor theatr yn Abertawe fu'n lwyfan i Charlie Chaplin

Disgrifiad o'r llun, Bydd yr adeilad yn ailagor ym mis Medi
  • Awdur, Aimee Thomas
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Bydd theatr yn Abertawe a oedd yn wynebu cael ei dymchwel yn ailagor ym mis Medi yn dilyn prosiect gwerth 拢10m.

Fe berfformiodd s锚r enwog fel Charlie Chaplin ac Anthony Hopkins yn Theatr y Palas a gafodd ei hagor ym 1888.

Ar 么l cael ei adael yn wag am dros 15 mlynedd, bydd yr adeilad rhestredig Gradd II yn agor fel caffi, swyddfeydd a gofod i ddigwyddiadau.

Dros y degawdau mae鈥檙 adeilad wedi ei ddefnyddio fel neuadd gerddoriaeth, neuadd bingo ac, yn fwyaf diweddar, fel clwb nos.

Fe brynodd Cyngor Abertawe'r adeilad yn 2020 - ddyddiau'n unig ar 么l ymosodiad posib o losgi bwriadol.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Rob Stewart, fod yr adeilad yn 鈥渂wysig ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol a hanes Abertawe".

Ffynhonnell y llun, Cyngor Abertawe

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Theatr y Palas ei hagor ym 1888

Yn ei hanterth fe wnaeth perfformwyr fel Morecambe a Wise, a Laurel a Hardy ymddangos ar lwyfan Theatr y Palas.

Mae llawer o nodweddion gwreiddiol y theatr wedi鈥檜 hadfer, gan gynnwys y bwa o amgylch y llwyfan a鈥檙 brics coch gwreiddiol y tu allan.

Bydd Tramshed Tech yn prydlesu'r adeilad, a dywed pennaeth datblygu'r cwmni eu bod wedi gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 adeiladwyr "i gynnal cymaint o鈥檙 nodweddion gwreiddiol ag y gallwn."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Rich Harries o Tramshed Tech bod y cwmni wedi gweithio i gynnal nodweddion hanesyddol yr adeilad

鈥淕yda鈥檙 llen d芒n oedd yma鈥檔 wreiddiol," medd Rich Harries, "rydyn ni鈥檔 gweithio gydag artistiaid lleol i geisio gwneud rhywfaint o waith celf allan o鈥檙 llen honno, ac mae鈥檙 system pwli ar gyfer y llen yn cael ei hadfer."

Ond ni ddaeth y gwaith adfywio heb heriau.

鈥淵 peth mwyaf diddorol rydyn ni wedi鈥檌 ddarganfod yw ffynnon yn y seler, felly fe ddaeth a hynny 芒'i drafferthion ei hun i鈥檙 gwaith, ond mae鈥檙 adeiladwyr wedi gwneud gwaith da iawn,鈥 meddai Mr Harries.

Mae gan Tramshed Tech swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a鈥檙 Barri.

Theatr y Palas yn Abertawe fydd eu chweched swyddfa yn ne Cymru.

'Ehangu ar y talent sydd yma'

Dywedodd Gwenno Jones, pennaeth cymunedol y cwmni, bod gweithio gyda busnesau yn Abertawe yn 鈥渉ollbwysig鈥.

鈥淢ae鈥檙 swyddfeydd cydweithio, y digwyddiadau a鈥檙 siop goffi ar gael i bawb,鈥 meddai.

鈥'Da' ni eisiau dod 芒 busnesau o Abertawe a thrwy Gymru at ei gilydd, i ehangu ar y talent sydd gyda ni yma.鈥

Gyda鈥檙 nos, fe fydd cyfle i鈥檙 llwyfan cael ei ddefnyddio ar gyfer perfformiadau unwaith eto.

Yn 么l Ms Jones, mae鈥檙 ymateb wedi bod yn wych.

Disgrifiad o'r llun, Mae Gwenno Jones eisiau gweld busnesau Abertawe a Chymru'n cwrdd yn y theatr

Dywedodd: 鈥淢ae鈥檙 ymateb o Abertawe wedi bod yn wych, mor bositif ac mor gyffrous i bobl ddod mewn, a ni methu aros i agor y drysau unwaith eto.鈥

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: 鈥淢ae gan yr adeilad lot fawr o hanes ac mae鈥檙 gwaith yma yn rhan o鈥檙 adfywiad ehangach o ganol dinas Abertawe.

鈥淢ae鈥檔 hynod bwysig ein bod ni鈥檔 adfer yr adeiladau hyn ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.鈥

Dywedodd Mr Stewart bod 鈥済alw mawr鈥 am fwy o lefydd swyddfa yng nghanol y ddinas.

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai o nodweddion gwreiddiol y theatr wedi'u cadw, fel y bwa o amgylch y llwyfan

Ychwanegodd: 鈥淩ydym wedi cael uchelgais fel cyngor i gynyddu nifer y swyddfeydd yng nghanol y ddinas, ac ni allwn ni golli鈥檙 cyfle i weithio gyda Tramshed Tech i ddod 芒 phartneriaid a busnesau i mewn.

鈥淣i eisiau cefnogi cwmn茂au lleol a rhoi swyddfeydd a chyfleusterau iddynt ehangu eu busnesau.

鈥淣i ddim eisiau i gwmn茂au i adael y ddinas i dyfu eu busnesau, felly mae鈥檙 prosiectau hyn yn golygu ein bod yn tyfu cyflogaeth a diwydiannau arloesol yma yn Abertawe.鈥