'Gething yn wfftio democratiaeth wrth anwybyddu pleidlais hyder'
- Cyhoeddwyd
Dywed cyn-arweinydd Plaid Cymru a fu hefyd yn Ddirprwy Brif Weinidog yn y Cynulliad fod Vaughan Gething yn "dweud wfft i ddemocratiaeth" drwy aros yn ei swydd ar 么l colli pleidlais o hyder yn y Senedd.
"Mewn unrhyw system ddemocrataidd, os ydy prif weinidog neu lywodraeth yn colli pleidlais o hyder, does 'na ddim dewis mewn gwirionedd nag oes," meddai Ieuan Wyn Jones wrth raglen y Post Prynhawn.
"'Dach chi鈥檔 gorfod derbyn hynny mewn democratiaeth."
Y Ceidwadwyr wnaeth gynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog wedi iddo dderbyn rhoddion ariannol dadleuol i'w ymgyrch arweinyddol.
Mae Mr Gething wedi mynnu o'r cychwyn bod y rhoddion wedi eu datgan yn gywir ac o fewn y rheolau.
Fe ddywedodd Mr Jones: "Y pwynt sylfaenol ydy mae 'di colli鈥檙 bleidlais, ac os 'dach chi鈥檔 colli pleidlais o ddiffyg hyder, 'dach chi鈥檔 gorfod ymateb i hynny."
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
Roedd Ieuan Wyn Jones yn AS yn San Steffan pan oedd Tony Blair yn Brif Weinidog, a rhybuddiodd y gallai beirniadaeth ar arweinyddiaeth Vaughan Gething leihau poblogrwydd llywodraeth Lafur Syr Keir Starmer yng Nghymru.
"Fe aeth Tony Blair mewn efo mwyafrif sylweddol yn 1997, ond yn '99 oherwydd bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi dewis arweinydd o'dd ddim yn boblogaidd iawn, fe dalon nhw鈥檙 pris yn do?
"A ma' rhywun yn rhagweld y galle rhywbeth tebyg ddigwydd tro 'ma."
Ychwanegodd Mr Jones, a fu'n Aelod Seneddol Ynys M么n rhwng 1987-2001: "Mae gynnoch chi Brif Weinidog, er gwell neu er gwaeth, sy鈥檔 amhobolgaidd ar hyn o bryd.
"Ac os ydy o鈥檔 para yn ei swydd, 'dach chi鈥檔 rhagweld y galle鈥檙 un math o batrwm ddigwydd a digwyddodd yn '99 yn digwydd eto yn [etholiad Senedd Cymru yn] 2026.
"Dydy鈥檙 faith bod Llafur yn Llundain a Chaerdydd efo鈥檌 gilydd ddim yn golygu y bydd pethau鈥檔 hawdd iddyn nhw, bydd 'na densiynau."
Pwysigrwydd datganoli?
Roedd Mr Jones hefyd yn Aelod o'r Cynulliad, a bu'n rhan o glymblaid Plaid Cymru a'r Blaid Lafur o 2007-2011.
Esboniodd fod yna lywodraeth Lafur yn San Steffan ar y pryd, ac "ar y wyneb roedd dealltwriaeth" rhwng Llafur Cymru a'r blaid yn Llundain.
"O dan yr wyneb wedyn, roedd 'na adrannau yn arbennig yn Llundain oedd yn gyndyn iawn o dderbyn bod datganoli wedi digwydd, a ddim isio gweld trosglwyddo pwerau i'r Cynulliad.
"Be' dwi鈥檔 gobeithio ydy y bydd Keir Starmer yn sylweddoli pwysigrwydd datganoli a mai Llafur gyflwynodd o鈥檔 '97, a 'dan ni isio gweld y patrwm yna鈥檔 parhau o weld grymoedd pellach yn dod."
Ond ni fydd hynny'n hawdd, meddai, yn sgil y dadlau ynghylch arweinyddiaeth Vaughan Gething.
"Mae'n rhaid ni gyfadde' ar hyn o bryd bod arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn y Senedd dan dipyn o gwmwl.
"A tan fydd hwnnw wedi clirio, 'di rhywun ddim yn gwbod be' yn union sy鈥檔 mynd i ddigwydd."