大象传媒

Ystyried gwaharddiad ar ail-lenwi diodydd melys am ddim

Ail-lenwi diodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae modd i'r cyhoedd roi eu barn ar y cynigion tan 23 Medi

  • Cyhoeddwyd

Gall bwytai a chaffis gael eu gwahardd rhag cynnig ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim dan gynigion newydd Llywodraeth Cymru.

Mae鈥檙 Gweinidog Iechyd yn i gyfyngu ar 鈥渉yrwyddo bwyd 芒 lefelau uchel o fraster, siwgr a halen鈥.

Mae鈥檙 awgrymiadau hefyd yn cynnwys cyfyngu ar gynigion 'prynu un a chael un am ddim' ar fwydydd sothach.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn 鈥渃efnogi pobl Cymru i wneud y penderfyniad iachus鈥.

Mae鈥檙 cynigion 鈥渋 wneud yr amgylchedd bwyd yn iachach,鈥 fel y mae鈥檙 llywodraeth yn eu disgrifio, hefyd yn cynnwys gwahardd siopau rhag rhoi bwydydd sothach mewn mannau amlwg, fel wrth ymyl y fynedfa ac ar ddiwedd rhesi.

Byddai鈥檙 rheolau hefyd yn berthnasol i siopau ar-lein.

Yn 么l y llywodraeth, mae bwydydd sothach yn cael eu hyrwyddo mwy na rhai iachus 鈥 gan ddylanwadu ar yr hyn y mae pobl yn dewis ei fwyta.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid hefyd ystyried yr addysg am fwyd iach, medd Karen Salisbury (chwith)

Dywedodd Karen Salisbury o Wrecsam fod angen addysgu plant am yr hyn y maen nhw鈥檔 ei fwyta.

鈥淢ae llai a llai o blant yn gyfarwydd 芒 llysiau erbyn hyn,鈥 medd Ms Salisbury.

Ychwanegodd myfyriwr 21 oed ei fod yn anoddach bwyta'n iach gan fod costau鈥檔 uchel.

鈥淢ae cost llawer o bethau wedi codi,鈥 medd Vishley Furtado, 鈥渄ylen ni fwyta鈥檔 fwy iachus a dylen nhw hyrwyddo hynny鈥.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod bwyd llai iachus yn cael ei hyrwyddo mewn ffordd "anghymesur"

Mae modd tan ganol nos ar 23 Medi. Pe tai鈥檙 Senedd yn cymeradwyo'r cynigion, byddan nhw鈥檔 dod i rym yn 2025.

Cafodd cynlluniau i gyfyngu ar brydau bargen (meal deals) 芒 lefelau uchel o fraster, siwgr 芒 halen eu cyhoeddi y llynedd, er mwyn mynd i'r afael 芒 gordewdra a diabetes.

Lleisiodd adwerthwyr bryder am y cynllun yn sgil prisiau bwyd uchel, ac fe wnaeth elusen anhwylder bwyta ddweud y gallai鈥檙 syniad fod yn niweidiol i bobl 芒'r cyflwr.

Ym mis Mehefin 2020, fe wnaeth Yr Alban oedi mesur i gyfyngu ar hyrwyddo bwyd sothach yn sgil y pandemig.

Cafodd cynlluniau i wahardd cynigion 'prynu un a chael un am ddim' ar fwyd sothach eu hoedi gan Lywodraeth y DU tan 2025.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod am gefnogi pobl Cymru i wneud y penderfyniad 鈥渋achus鈥 a 鈥渉awdd wrth siopa bwyd a mynd am bryd o fwyd鈥.

鈥淢ae鈥檙 mesur arfaethedig hyn yn rhan o ystod eang o gamau, rhai'n wirfoddol a rhai鈥檔 orfodol, ry鈥檔 ni鈥檔 eu hystyried er mwyn annog y sector bwyd a diod i gynhyrchu, hyrwyddo a gwerthu bwyd a diod iachach,鈥 meddai.