Dysgwr y Flwyddyn 2024: Cwrdd ag Elinor Staniforth
- Cyhoeddwyd
Cafodd Elinor Staniforth ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg yng Nghaerdydd ac fe ddechreuodd hi ddysgu Cymraeg ar ôl dychwelyd o'r brifysgol, er ei bod wedi cael gwersi yn yr ysgol uwchradd.
"Nes i TGAU yn yr iaith," meddai, "do'n i ddim eisiau dysgu Cymraeg o gwbl!
"Ro'n i rili eisiau dysgu rhywbeth fel Eidaleg neu rywbeth exotic - o'n i ddim yn gweld y pwynt o ddysgu'r iaith.
"Ond yn amlwg nawr mae pethe wedi newid tipyn bach!"
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
Fe ddaeth y newid pan oedd hi ym Mhrifysgol Rhydychen, a dechrau dod yn fwy ymwybodol o'i hunaniaeth.
"O'n i'n dechrau teimlo fel mwy o Gymraes, a gweld eisiau Cymru eto ac ro'n i'n meddwl dylen i wedi dysgu'r iaith.
"Do'n i ddim yn gallu ymuno â'r Gymdeithas Gymraeg neu unrhyw beth achos do'n i ddim yn gallu siarad yr iaith, ac o'n i'n dechre' colli rhywbeth wedyn."
Roedd y profiad o ddysgu fel oedolyn yn wahanol iawn i'w phrofiadau yn yr ysgol, meddai.
"O'n i'n awyddus i ddysgu bryd hynny, ond hefyd mae dosbarthiadau i oedolion yn lot gwahanol - doedd e ddim jyst am ddysgu iaith neu ddweud yr un patrwm dro ar ôl tro.
"Roedd 'na ryw fath o ddysgu am ddiwylliant Cymru hefyd - o'n i'n clywed cerddoriaeth gyfoes yn lle jyst dysgu 'Hen Wlad Fy Nhadau' a phethe felly.
"O'n i'n dysgu a gweld pobl ifanc yn defnyddio'r iaith, o'n i'n dechre' gweld yr iaith mewn ffordd wahanol."
'Taith hir ond hyfryd'
Erbyn hyn, mae hi'n diwtor ei hun, ac yn dysgu Cymraeg i bobl eraill.
Mae Elinor yn credu bod ei phrofiad hi o ddysgu yn gymharol ddiweddar yn gallu bod o gymorth i'r rhai sydd yn ei dosbarthiadau hi.
"Dwi'n gwybod sut mae e - weithiau ti'n cael amser da, weithiau mae'n rili anodd a fi'n gallu dweud iddyn nhw 'mae hwnna'n normal'."
Mae'n edrych ymlaen at y profiad o fod yn rhan o gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf - yn enwedig gan fod un o'i ffrindiau, Alanna Pennar-Macfarlane, yn y rownd derfynol hefyd.
"Roedd Alanna yn un o'r bobl fwya' pwysig yn taith fi," meddai Elinor, "a dwi'n cofio bod ar Zoom a dysgu a'r ddwy ohonon ni, yn mynd trwy'r gwersi ac edrych ar bethe, so mae wedi bod yn daith hir ond hyfryd."
Ychwanegodd Alanna: "Mae mor anhygoel. O'dd Eli yn un o fy ffrindiau cynta' yng Nghaerdydd, so ma’ jyst mor gyffrous ffeindio mas bod hi wedi cyrraedd y rownd derfynol ar yr un pryd â fi!
"'Wi mor proud ohoni hefyd."
'Dwi'n gallu gwneud unrhyw beth'
Mae Elinor yn bendant bod y penderfyniad i fynd ati i ddysgu'r Gymraeg wedi newid ei bywyd.
"Mae gen i swydd newydd - o'n i ddim yn gallu gweithio fel tiwtor cyn dysgu Cymraeg, nes i ffeindio fy nghariad ar ôl dysgu'r iaith, mae gen i ffrindiau newydd allan o ddysgu'r iaith.
"Ond hefyd peth arall, falle dyw pobl ddim yn siarad am, yw'r ffordd mae fe 'di newid sut dwi'n meddwl am fy hun.
"Fi'n lot fwy hyderus nawr, o'n i ddim yn rili credu yn fy hun cyn i fi ddechrau dysgu'r iaith, ond pan 'da chi'n gweld eich hun yn rili llwyddo mewn rhywbeth, 'da chi'n dechrau meddwl 'dwi'n gallu gwneud unrhyw beth, dwi'n gallu dysgu unrhyw iaith nawr'.
"Mae hwnna'n beth sbesial pan 'da chi'n dechrau sylweddoli bo' ti'n gallu gwneud rhywbeth mor anodd â dysgu iaith."
'Mwy na jysd iaith'
Nod Elinor bellach yw annog mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith, yn enwedig pobl ifanc.
"Fi'n gweld lot o bobl ifanc sydd jyst ddim yn cymryd diddordeb yn yr iaith o gwbl, yn meddwl 'beth yw'r pwynt o ddefnyddio'r iaith?' Falle hyd yn oed mynd i ysgolion Cymraeg a wedyn stopio defnyddio'r iaith.
"Ond fi jyst eisiau dangos pa mor bwysig yw e, ac hefyd y pethe 'da chi'n gallu defnyddio gyda'r iaith - 'da chi'n gallu darllen, 'da chi'n gallu gwrando ar gerddoriaeth, 'da chi'n gallu gwneud lot o ffrindiau
"Mae'n fwy na jyst iaith, mae'n fyd fi'n meddwl."