大象传媒

Marwolaeth Llanidloes: Dim camau pellach yn erbyn dyn

Natalie DeanFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Natalie Dean yn 34 ac yn dod o Sir Amwythig

  • Cyhoeddwyd

Ni fydd dyn 46 oed yn wynebu cyhuddiad yn dilyn marwolaeth dynes ger Llanidloes ym mis Mai y llynedd.

Roedd Natalie Dean yn 34 oed ac yn dod o bentref Ford yn Sir Amwythig.

Cafodd ei chorff ei ganfod yn Afon Hafren ar gyrion Llanidloes am 16:00 ddydd Sul, 28 Mai, a chafodd dyn, 46, ei arestio ar amheuaeth o'i llofruddio cyn cael ei ryddhau ar fechn茂aeth.

Wrth roi teyrnged i Ms Dean wedi'r farwolaeth, dywedodd ei theulu eu bod wedi eu "syfrdanu" ac y byddai "colled fawr ar ei h么l".

Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach wedi cadarnhau na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y dyn.

Mewn datganiad, dywedodd y llu fod eu hymchwiliad bellach ar ben, a bod yr achos yn cael ei gyfeirio at y crwner.

Pynciau cysylltiedig