'Penderfyniadau anodd' yn wynebu Esgob nesaf Tyddewi

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Esgob nesaf Tyddewi, y Gwir Barchedig Dorrien Davies, yn teimlo taw ef yw "mab yr esgobaeth"
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Gohebydd ´óÏó´«Ã½ Cymru

Mae Esgob newydd Tyddewi wedi cyfaddef y bydd yna benderfyniadau anodd yn ei wynebu - yn enwedig ynglÅ·n ag adeiladau - wrth iddo gymryd yr awenau.

Yn ei gyfweliad Cymraeg cyntaf, dywedodd Y Gwir Barchedig Dorrien Davies fod y penderfyniadau yn "cael eu gwneud ar ein rhan ni" gan fod y nifer sy'n ymweld â'r eglwysi leihau.

Cafodd Dorrien Davies ei ethol i arwain eglwysi'r esgobaeth - sy'n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion - ar 17 Hydref.

"[Os] dyw pobl ddim yn mynd i'r eglwys a ddim yn cefnogi'r eglwys yn ariannol yna does dim gobaith cadw adeiladau," meddai.

"Mae hynny yn mynd i beri tristwch mawr i mi i gau eglwysi hanesyddol.

"Bydden i yn gobeithio fod pobl yn mynd i ddihuno i'r ffaith bod angen iddyn nhw gyfrannu fel Cristnogion mewn ffordd real iawn."

Pwysigrwydd y Gymraeg

Wedi ei fagu yn Abergwili ger Caerfyrddin, fel siaradwr Cymraeg, mae Dorrien Davies yn dweud bod yr iaith yn "hollbwysig yn yr esgobaeth".

Dywedodd ei fod yn "disgwyl bod rhai sydd yn cynnig eu hunain am weinidogaeth gyhoeddus yn mynd i ddysgu Cymraeg achos mae'n rhaid ystyried pwysigrwydd bugeiliol drwy'r famiaith i nifer o bobl".

Mae angen i'r Eglwys yng Nghymru fod yn rhan o'r uchelgais i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 hefyd, meddai.

Fel clerigwr, mae Dorrien Davies wedi gwasanaethu mewn sawl ardal - Llandudoch, Llanfihangel Ystrad Aeron, Caerfyrddin a Thyddewi.

Yn sgil ei brofiadau mewn sawl ardal, mae'n "teimlo ei fod yn adnabod yr esgobaeth yn dda iawn" a taw "mab yr esgobaeth" yw e.

Dod ag undod i'r Esgobaeth?

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Dorrien Davies ac Archesgob Cymru, Andrew John, wedi'r penodiad ym mis Hydref

Mae Dorrien Davies yn olynu Joanna Penberthy fel esgob, ar ôl cyfnod stormus i'r esgobaeth.

Cafodd hi ei beirniadu yn llym am ddweud "na ddylai pobl ymddiried mewn Tori".

Yn ôl Dorrien Davies, mae e wedi derbyn "negeseuon gwresog iawn, llawn cariad" ar ôl cael ei benodi, ond mae'n rhy gynnar i ddweud a ydy e wedi dod ag undod i'r esgobaeth.

"Yr argraff rwy'n ei gael yw bod yr esgobaeth a'r dalaith yn llawenychu yn y penodiad ac mae hwnna yn beth mawr i fi yn bersonol.

"YnglÅ·n ag uno'r esgobaeth, mae'n rhy gloi i ddweud hynny eto achos er bod fi yn Esgob, dydw i ddim wedi cael fy nghysegru eto, mae hynny ar ddiwedd mis Ionawr, a'r gorseddu yn Nhyddewi dechrau mis Chwefror.

"Fi'n credu pan fydd hynny yn digwydd a pan fyddai yn mynd allan i'r ardaloedd gweinidogaethol lleol ac yn cydweithio gyda'r 'ffeiradon a'r pwyllgorau bydda i yn gallu barnu wedyn sut ydyn ni yn mynd 'mlaen a sut dwi'n cael fy nerbyn."

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Dorrien Davies yn olynu'r Dr Joanna Penberthy yn y swydd

Mae Dorrien Davies yn enwog am ei hiwmor ac am ei ddawn fel siaradwr gwadd, ond mae'n dweud bod y cyfnod hynny wedi dirwyn i ben oherwydd ei ddyletswyddau newydd.

"Mae hiwmor yn bwysig i fi. Mae llawenydd yn berchen i'r efengyl," meddai.

"Rwy'n credu fod hi'n bwysig fod pobl yn meddwl bod yna ochr ddifrifol i fi hefyd. Mae yna falans rhwng y ddau.

"Ro'n i'n mynd allan i siarad mewn ciniawau ond mae hynny yn dod i ben. Galla'i ddim â gwneud hynny. Does gen i ddim o'r amser.

"Mae'n rhaid cymryd o ddifrif beth sydd yn digwydd yn yr Eglwys.

"Os mae hiwmor yn mynd i helpu, wel, mae'n mynd i gael ei ddefnyddio."

'Does dim ofn gen i'

Mae Dorrien Davies yn briod â Rosie, ac mae ganddo ddau fab, Morgan a Lewies.

Gyda'r sefyllfa ryngwladol yn parhau yn stormus, gyda rhyfela yn y Dwyrain Canol a Wcráin, mae Dorrien Davies yn dweud ei fod "yn gweddïo am heddwch ac uniondeb rhwng y gwledydd".

Mae'n dweud nad yw ei rôl fel Esgob yn peri pryder iddo, oherwydd cryfder ei ffydd.

"Rwy'n edrych ymlaen at y gwaith. Does dim ofn gen i. Mae'r Arglwydd Iesu Grist gyda fi, bob cam, ac mae hynny yn gysur a llawenydd."

Bydd yn cael ei gysegru’n Esgob yn Eglwys Gadeiriol Bangor – sedd yr Archesgob – ar 27 Ionawr, a’i orseddu’n 130ain Esgob Tyddewi yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 3 Chwefror.