Y Seintiau Newydd yn creu hanes yn Ewrop

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae'r Seintiau Newydd wedi llwyddo i gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Nhw fydd y clwb dynion cyntaf erioed o Gymru i chwarae yn rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel ydy hi eleni.

Roedd y Seintiau 3-0 ar y blaen ar 么l y cymal cynta a bydd pencampwyr Cymru yn chwarae yng Nghyngres UEFA ar 么l g锚m gyfartal yn yr ail gymal yn erbyn FK Panev臈啪ys nos Iau.

Un gynghrair fydd rownd gynta'r gystadleuaeth eleni yn hytrach na'r casgliad o grwpiau llai fel yr arfer - wedi i UEFA newid y drefn ar gyfer y brif gystadlaethau.

Roedd gan y Seintiau fantais glir cyn y g锚m nos Iau ar 么l iddyn nhw drechu pencampwyr Lithwania o 3-0 yn y cymal cyntaf.

Fe ddisgynnodd Y Seintiau i'r gystadleuaeth hon ar 么l colli i bencampwyr Hwngari, Ferencvaros yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, ac yna i Petrocub o Moldofa yn nhrydedd rownd rhagbrofol Cynghrair Europa.