Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llosgi pont gerdded boblogaidd i gostio miloedd i'r cyngor
- Awdur, Harri Evans
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae cymuned yng Ngwynedd yn "siomedig ofnadwy" ar 么l i bont gerdded boblogaidd gau yn dilyn amheuon am losgi bwriadol.
Cafodd rhan sylweddol o'r llwybr pren rhwng L么n Cob Bach a Phont Solomon ym Mhwllheli ei llosgi nos Fercher, 23 Hydref.
Oherwydd y pryder am ddiogelwch y strwythur mae鈥檙 cyngor wedi cau'r llwybr dros dro.
Roedd gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau ar y bont yn ddiweddar, ond mae Heddlu'r Gogledd yn amcangyfrif bod cost y difrod rhwng 拢5,000 a 拢10,000.
Mae'r heddlu'n apelio am unrhyw un a oedd yn yr ardal rhwng 20:00 a 22:00 i gysylltu 芒 nhw.
'Pobl wedi gwylltio'
Dywedodd y cynghorydd lleol Hefin Underwood fod dicter yn y gymuned ar 么l i'r bont losgi.
"Mae'r gymuned yn siomedig ofnadwy, yn fwy na hynna - mae lot wedi gwylltio i ddweud y gwir," meddai wrth Cymru Fyw.
"Mae'r bont yn boblogaidd dros ben. Ti'n gallu torri ar draws lle mae natur, lle mae hwyaid ac adar, ac mae pobl yn licio mynd 芒'u plant bach yna i weld y pethau 'ma yn lle fod nhw'n cerdded lawr l么n tarmac.
"Heb ddim amheuaeth, fyswn i'n d'eud fod o hefyd yn atyniad da i'r dre. Mae'n cael ei ddefnyddio gan bobl yn ddyddiol, gan lot o rieni a'i plant ac fel shortcut braf trwy'r dref.
"Mi fysa unrhyw gymuned yn siomedig dros ben i golli rhywbeth fel hyn."
Ychwanegodd y cynghorydd fod "dim amheuaeth mai fandaliaeth oedd o".
"I be fysa rhywun isio gwneud ffasiwn beth, fedra'i ddim deall.
"Maen nhw'n lwcus wnaethon nhw ddim llosgi eu hunain hefyd, oedd hi'n wenfflam go iawn ac mae'n edrych i fi bod petrol neu rywbeth wedi'i ddefnyddio gan ei fod yn noson reit wlyb.
"Mae pres mor brin gan y cynghorau 'ma 'wan. Neith o gostio miloedd i'r bont gael ei hailwneud - lle ma'r cyngor am gael hynna?"
'Loes calon gweld y difrod'
Dywedodd Gerwyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd: 鈥淢ae鈥檙 bont droed yma ym Mhwllheli yn hynod boblogaidd gyda thrigolion lleol ac yn cynnig cyfle i fwynhau amgylchedd a byd natur tafliad carreg o ganol y dref.
鈥淓r fod yna fandaliaeth wedi ei brofi i鈥檙 bont dros y blynyddoedd, yn dilyn gwaith atgyweirio diweddar, mae yna ddefnydd da wedi ei weld ohoni.
鈥淢ae鈥檔 bryderus iawn felly fod y strwythur wedi gorfod ei gau dros-dro ar 么l y t芒n yma, ac mae鈥檔 loes calon gweld y difrod sydd wedi ei achosi.
鈥淵n ogystal 芒鈥檙 anhwylustod fod rhaid cau y bont dros dro, mi fydd yna gostau sylweddol i鈥檙 Cyngor er mwyn gallu atgyweirio鈥檙 strwythur 鈥 mewn cyfnod lle mae cyllid yn brin, mae hyn yn gost di-angen.
鈥淢ae鈥檔 siomedig bod ymddygiad lleiafrif bach iawn yn difetha mwynhad pobl o鈥檙 bompren.
"Rydym yn erfyn ar y rhai sy鈥檔 gyfrifol i barchu eiddo cyhoeddus ac i feddwl am effaith eu hymddygiad ar y gymuned leol, ac i unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y mater i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru.鈥