大象传媒

Galw am gomisiynydd d诺r i fynd i'r afael 芒 llifogydd

Aberteifi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Cyfoeth Naturiol Cymru, mae un o bob saith eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd

  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiad newydd wedi cynnig 17 o argymhellion i weinidogion Cymru, gyda鈥檙 nod o feithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd erbyn 2050.

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru sydd wedi cyhoeddi鈥檙 adroddiad sy鈥檔 tanlinellu pwysigrwydd cyfuno natur a鈥檙 gymuned wrth fynd i鈥檙 afael 芒 phroblemau llifogydd cynyddol.

Yn 么l Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae un o bob saith eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd.

Dywedodd un o arweinwyr y comisiwn, Dr Eurgain Powell, fod yr argymhellion yn "heriol ond ymarferol hefyd".

Ond ychwanegodd fod angen sefydlu r么l Comisiynydd D诺r newydd i edrych ar sut mae "addasu a bod yn fwy gwydn i lifogydd yn y dyfodol.鈥

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu" yr adroddiad ac am "ystyried ei argymhellion yn ofalus.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Olwen Davies yn poeni nad yw pethau am ddigwydd yn ddigon cyflym

Yn Aberteifi, mae Maer y dref yn byw mewn ardal sydd yn dioddef llifogydd yn gymharol gyson wrth i Afon Teifi godi鈥檔 uchel.

鈥淐hi鈥檔 gweld e鈥檔 llifo lan a bydd e鈥檔 dod i stepen cynta鈥檙 drws鈥 meddai'r cynghorydd Olwen Davies.

Mae yna gynlluniau yn eu lle bellach er mwyn codi wal a fyddai鈥檔 lleihau鈥檙 perygl o lifogydd llanw i tua 90 o gartrefi a busnesau yn Aberteifi.

Cynlluniau sy鈥檔 cael eu croesawu gan nifer yn yr ardal.

'Mae e 鈥榙i cymryd blynydde'

Dywedodd Olwen Davies: 鈥淵 gofid yw bod pethau ddim yn digwydd yn ddigon cyflym.

"Ni鈥檔 byw ar bwys yr afon a ni wedi gweld pobl yn dod a 'neud yr ymchwil, ond mae e 鈥榙i cymryd blynydde o waith.

"Mae hwn yn mynd i warchod llawer o dai, a thai hanesyddol, a neud yn si诺r fod pob un lleol yn saff".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Olwen yn byw mewn ardal lle mae llifogydd yn broblem cyson, meddai

Mae CNC yn rhybuddio bod yr argyfwng hinsawdd am ddod 芒 thywydd mwy eithafol ac felly bod 鈥榥a fwy o bwysigrwydd nag erioed fod pobl yn gwybod ac yn deall y peryglon.

Wedi 18 mis o waith, mae鈥檙 comisiwn yn pwysleisio bod angen ffyrdd naturiol er mwyn mynd i鈥檙 afael 芒 phroblem llifogydd.

Mae yna fwriad i ddefnyddio elfennau naturiol yr amgylchedd er mwyn cadw d诺r mewn ardaloedd mwy diogel, ac ar ben hynny, mae yna fwriad i sicrhau fod gan gymunedau b诺er i allu gweithredu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Eurgain Powell yn rhybuddio bod "y broblem yn mynd i gynyddu"

Ond mae Dr Eurgain Powell yn rhybuddio bod "y broblem yn mynd i gynyddu".

鈥淢ae鈥檙 bobl sy鈥檔 gweithio o fewn y sector yn delio gyda鈥檙 problemau sy鈥檔 codi heddi鈥, a dy鈥 nhw ddim yn cael cyfle i feddwl ymlaen i鈥檙 dyfodol.

"Mae鈥檙 argymhellion yn yr adroddiad yn gobeithio rhoi fframwaith iddyn nhw feddwl sut y鈥 ni鈥檔 gallu paratoi ar gyfer heriau鈥檙 dyfodol a chydweithio gyda鈥檙 holl asiantaethau".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r adroddiad a byddwn yn ystyried ei argymhellion yn ofalus ochr yn ochr ag adolygiadau eraill wrth gefnogi dyfodol Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru.

"Rydym yn ymwybodol iawn o ba mor ddinistriol y gall effeithiau llifogydd fod, ar gartrefi, bywoliaeth a bywydau pobl, a dyna pam rydym eisoes wedi ymrwymo i ariannu amddiffyniad llifogydd ychwanegol ar gyfer 45,000 o gartrefi ac wedi cynnal ein cyllid lefel uchaf erioed ar gyfer ein Rhaglen Llifogydd eleni, sef 拢75m.

"Mae angen gweithredu ar y cyd ledled Cymru, ond ni allwn ei wneud ar ein pennau ein hunain.

"Rydym yn cydnabod anghenion a r么l ystod eang o randdeiliaid wrth gyflawni rheoli perygl llifogydd a gwytnwch yn yr hinsawdd."