Gemau Paralympaidd: Pedair medal aur i'r Cymry ddydd Sul

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Ben Pritchard o'r Mwmbwls wedi ennill medal aur yn y sgwlio

Roedd dydd Sul yn ddiwrnod llwyddiannus i'r Cymry yn y Gemau Paralympaidd gyda phedair medal aur yn cael eu hennill.

Yn y bore, fe wnaeth Ben Pritchard ennill medal aur yn senglau dynion y sgwlio.

Bu'r Cymro 32 oed o'r Mwmbwls yn dilyn Giacomo Perini o'r Eidal yn ystod 1500m cyntaf y ras 2,000m.

Ond fe ruthrodd Pritchard trwy'r 500m olaf, gan orffen gydag amser o naw munud 03.84 eiliad.

Buddugoliaeth Pritchard oedd yr un gyntaf i Brydain yn yr adran ers medal aur Tom Aggar yng Ngemau 2008 yn Beijing.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, James Ball a'i beilot Steffan Lloyd

Daeth yr ail fedal aur ar 么l i James Ball, 33 oed o Ponthir, a'i beilot Steffan Lloyd, 25 oed o Landysul, ennill y ras 1000m yn erbyn y cloc yn y seiclo.

Dyma鈥檙 aur Paralympaidd cyntaf i James Ball, ar 么l iddo ennill arian yn Tokyo.

Ar raglen Dros Frecwast bore Llun, dywedodd Steffan Lloyd - oedd yn cystadlu yn y gemau am y tro cyntaf - nad yw'n "cofio'r ras" erbyn hyn a bod y cyfan "yn bach o blur".

Aeth ymlaen i s么n am sut yr aeth ati i ddechrau cystadlu gyda James: "Dechreuais i seiclo yn 2019, ar 么l 'ny daeth y tandem a dechreuon ni reidio da'n gilydd tair blynedd yn 么l.

"Ni wedi bod mewn tair pencampwriaeth byd nawr, ac wedi dod yn ail tair gwaith - felly i ennill, mae'n sbesial iawn.

"I fynd yn gloi mae'n rhaid gweithio 'da'n gilydd, ni wedi rhoi lot o waith mewn cyn dechrau'r ras ac mae'n bwysig peidio gweithio yn erbyn ein gilydd.

"Fi sy'n llywio'r beic ac mae e fel injan fach yn y cefn."

Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at gefnogi gweddill y t卯m yn ystod y gemau, gan ddweud fod pawb yn gwthio ei gilydd i wneud yn well a'i bod yn bwysig cynnal momentwm.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Fe ddaeth aur arall wrth i Sabrina Fortune o Lannau Dyfrdwy ddod i'r brig yn y taflu pwysau F20.

Llwyddodd Fortune, enillodd fedal efydd yn gemau Rio, i wella record byd ei hun gyda thafliad o 15.12m yn y rownd gyntaf.

Daeth yr olaf o'r pedair medal aur yn y pwll wrth i Rhys Darbey ennill aur fel rhan o'r t卯m cyfnewid nofio 'dull rhydd' 4x100m cymysg S14.

Dywedodd Darbey, 17 oed o'r Fflint: "Dwi wir yn edrych ymlaen at weld be allwn ni ei gyflawni yn Los Angeles yn 2028.

"Mae pawb yn y t卯m yma dan 20 oed, a gobeithio gallwn ni osod record byd newydd yn LA."