Ymchwiliad i d芒n ar safle busnes carafanau ger Pwllheli

Ffynhonnell y llun, Lois Povey

Disgrifiad o'r llun, Does dim cadarnhad hyd yn hyn faint o gerbydau gafodd ddifrod yn y t芒n

Mae'r gwasanaethau brys yn ceisio cadarnhau achos t芒n sydd wedi achosi difrod ar safle busnes carafanau a faniau gwyliau yng Ngwynedd.

Fe gafodd yr gwasanaeth t芒n eu galw i'r safle ger Pwllheli tua 17:30 brynhawn Sadwrn.

Fe gafodd 10 injan eu hanfon i'r safle ac roedd yna gyngor i drigolion lleol gau eu ffenestri a drysau rhag y mwg.

Bu'n rhaid cau'r A497 am gyfnod rhwng Parc Bwyd Dwyfor, Llanystumdwy ac Afon Wen.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Sul bod y ffordd wedi ailagor "ond mae swyddogion yn dal ar y safle wrth i'r ymchwiliad i achos y t芒n barhau".