Buddsoddi 拢280,000 ym maes coedwigaeth i ddenu gweithwyr iau
- Cyhoeddwyd
Mae Tomos Williams, 29, o Geredigion yn driniwr coed ac yn gweithio i鈥檙 busnes teuluol Gwasanaethau Coed Llanbed, ond mae鈥檔 ddiwydiant ble mae鈥檙 gweithlu yn heneiddio.
鈥淢ae fe鈥檔 gallu bod yn job eithaf caled, mas ym mhob tywydd ond bydden i鈥檔 annog unrhyw un i wneud y swydd,鈥 meddai.
Y gred ydi y bydd Cymru wedi colli 20% o weithwyr yn y sector goedwigaeth erbyn 2030 oherwydd ymddeoliad.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi 拢280,000 mewn cronfa sgiliau a hyfforddiant newydd sy'n gysylltiedig 芒 choedwigaeth i geisio cynyddu鈥檙 nifer sy鈥檔 gweithio yn y maes.
Yn 么l gweinidogion, mae angen gweithwyr ychwanegol i gyrraedd targedau plannu coed a newid hinsawdd.
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
Nod y gronfa ydi cefnogi busnesau ble mae yna fwlch o ran sgiliau o fewn y gweithlu gan roi cymhorthdal ar gyfer cyrsiau coedwigaeth a choed, gyda hyd at 拢20,000 ar gael i bob sefydliad.
Mae gan y llywodraeth darged i blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn.
Ond llynedd dim ond 640 hectar gafodd eu plannu 鈥 ychydig dros 12% o鈥檙 nod.
Prifysgol Bangor ydi un o鈥檙 ychydig brifysgolion sy鈥檔 cynnig hyfforddi coedwigwyr ar lefel gradd.
Yno y cafodd Tomos ei radd ac mae鈥檔 dweud bod ei waith yn amrywiol iawn.
鈥淎llen ni fod yn torri coed sydd wedi marw neu docio coeden mewn lle gwahanol bob dydd fel arfer,鈥 meddai.
鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 gweithio mewn lot o lefydd pert fel parciau cenedlaethol a phlastai mawr鈥 llefydd lle mae pobol yn mynd yn eu hamser rhydd neu ar benwythnosau."
Mae Gwasanaethau Coed Llambed yn darparu gwasanaethau coedwigaeth ar gyfer cyrff cyhoeddus ac i gwsmeriaid preifat gan gyflogi 25 o bobol.
'Dydi o ddim jyst am ddynion'
鈥淢ae鈥檔 gallu bod yn waith eithaf peryglus,鈥 meddai Emyr Williams, un o鈥檙 cyfarwyddwyr.
鈥淓fallai fod pobol yn edrych am bethau rhwyddach i鈥檞 wneud, ond ry鈥檔 ni鈥檔 eithaf lwcus mae ganddo ni lot o bobol ifanc gyda ni a ni鈥檔 rhoi nhw gyda bois profiadol a rhoi nhw ar gyrsiau pan maen nhw gyda ni.鈥
Ond yn 么l Dr Bid Webb o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor dydi nifer o bobol ddim yn ymwybodol o鈥檙 ystod o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant coedwigaeth.
鈥淒ydi pobol ddim yn gwybod be ydi coedwigaeth a pha fath o yrfaoedd sydd ar gael,鈥 meddai.
鈥淒ydi o ddim jyst am ddynion efo chainsaws. Mae yna lot mwy o gyfleoedd na hynny ar gael.
"Da ni angen pobol i reoli coedwigaeth a choeditiroedd mewn ffordd gynaliadwy i鈥檙 dyfodol, nid jyst plannu coed.鈥