Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Anogaeth i Man City dorri cysylltiad gyda chyn-seren b锚l-droed
Mae Manchester City wedi cael eu hannog i dorri cysylltiadau gyda鈥檙 p锚l-droediwr Natasha Harding, sy鈥檔 wynebu honiadau ei bod wedi cymryd miloedd o bunnau gan gyd-chwaraewyr, rhieni a busnesau ac heb eu talu yn 么l.
Mae cyn-seren Cymru, sydd bellach yn defnyddio ei chyfenw priodasol Allen-Wyatt, yn aml yn ymddangos fel sylwebydd ar gemau menywod Man City.
Mae hi鈥檔 wynebu honiadau sy鈥檔 cynnwys cymryd arian am hyfforddiant un-i-un gyda phlant, wnaeth wedyn ddim digwydd.
Dywedodd Ms Allen-Wyatt ei bod hi wedi gorfod canslo 鈥渞hai sesiynau鈥 oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i鈥檞 rheolaeth, gan ymddiheuro i鈥檙 rheiny gafodd eu heffeithio.
Ers i鈥檙 大象传媒 adrodd ar yr honiadau gan rieni, cyd-chwaraewyr a busnesau wnaeth noddi Academi Tash Harding, mae eraill wedi cysylltu i ddweud eu bod nhw hefyd wedi colli arian.
Mae鈥檙 大象传媒 yn deall bod adroddiadau wedi eu gwneud i sawl llu heddlu yng Nghymru a Lloegr, a rhai wedi cael eu pasio i Action Fraud.
Dywedodd Action Fraud bod o leiaf un adroddiad 鈥測n cael ei asesu ar hyn o bryd鈥 gan y Fenter Twyll Cenedlaethol.
Mae鈥檙 大象传媒 yn deall nad yw Ms Allen-Wyatt yn cael ei chyflogi鈥檔 uniongyrchol gan Man City, ond mae hi wedi bod yn gwneud gwaith llawrydd iddyn nhw tan yn ddiweddar.
Fe wnaeth hi ymddangos fel sylwebydd ar raglen Matchday Live y clwb ar 8 Tachwedd ochr yn ochr 芒 chyn-golwr Lloegr, Karen Bardsley, sydd bellach yn rheoli Academi Merched Manchester City.
Mae gwefan y clwb hefyd yn nodi iddi sylwebu ar y g锚m WSL rhwng Man City a Chelsea ar 16 Tachwedd.
Fe wnaeth Ms Allen-Wyatt, a enillodd 103 o gapiau dros Gymru, chwarae i Man City yn 2015 cyn cynrychioli Lerpwl, Reading ac Aston Villa.
Mae Manchester City wedi cael cais am sylw.
'Dyletswydd moesol'
Dywedodd Steve Lloyd, cadeirydd clwb sy鈥檔 honni iddyn nhw golli 拢650 ar 么l buddsoddi yn Academi Tash Harding yn gynharach eleni, y dylai Man City deimlo 鈥渄yletswydd moesol鈥 i dorri cysylltiadau gyda Ms Allen-Wyatt.
Ychwanegodd bod rhaid rhoi clod i Man City fel clwb sy鈥檔 鈥済efnogwr mawr o g锚m y merched鈥, ond bod angen siarad yn agored.
鈥淚 gael y llwyfan mae Manchester City yn ei gynnig [i Ms Allen-Wyatt], dwi鈥檔 meddwl bod dyletswydd moesol arnyn nhw i beidio 芒鈥檌 chyflogi hi鈥檔 llawrydd,鈥 meddai.
Ychwanegodd y dylai鈥檙 clwb 鈥渟iarad allan o blaid y bobl sydd wedi gwneud yr honiadau yma, yn hytrach na brwsio鈥檙 peth dan y carped鈥.
Mae Dreigiau D芒r yn Aberd芒r yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac yn ceisio darparu hyfforddiant am ddim i blant o bob cefndir.
Maen nhw鈥檔 dweud eu bod wedi talu 拢650 i Ms Allen-Wyatt er mwyn cael 20% o elw鈥檙 academi, a 12 sesiwn hyfforddi gyda鈥檙 clwb.
Dim ond dwy sesiwn gafodd eu cynnal, a chafodd y clwb ddim elw o鈥檙 academi.
Roedd Steve a rhiant arall hefyd wedi talu am floc o sesiynau hyfforddi un-i-un ar gyfer eu plant, wnaeth ond gael eu cynnal yn rhannol.
Maen nhw鈥檔 dweud eu bod wedi gofyn am ad-daliad, ond heb dderbyn arian yn 么l eto.
Roedd ei ferch 10 oed Eliza, meddai Steve, wedi gobeithio chwarae dros Gymru ryw ddydd ond nawr roedd hi鈥檔 鈥渄rist鈥 pan na ddigwyddodd y sesiynau.
鈥淔el 'dyn ni gyd yn gwybod, mae llawer mwy o rieni, cwmn茂au ac unigolion eraill sydd wedi dioddef yr un torcalon hefyd,鈥 meddai ar Radio Wales Breakfast ddydd Iau.
鈥淵n ddelfrydol byddai鈥檔 gr锚t petai pawb yn cael eu harian yn 么l, ond mae鈥檔 mynd i fod yn broses hir ac anodd.鈥
Wnaeth Ms Allen-Wyatt ddim ymateb i鈥檙 honiadau gan ei chyn cyd-chwaraewyr, na chan fusnesau.
Dywedodd ei bod wedi canslo sesiynau oherwydd amgylchiadau gan gynnwys 鈥渄ifrod i fy nghar, a鈥檙 ail gar yn torri lawr鈥, a bod arian wedi ei ad-dalu i rai rhieni a鈥檌 gytuno gydag eraill.
Dywedodd ei bod wedi sefydlu鈥檙 academi er mwyn darparu 鈥渉yfforddiant technegol manwl鈥 ar gost isel, i roi cyfleoedd i blant 鈥渘a ches i erioed鈥.
Ychwanegodd ei bod yn dal i weithredu gan 鈥渄darparu sesiynau lleol鈥.