Arestio dau fachgen wedi i ferch 12 oed gael ei thrywanu

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Cafodd swyddogion eu galw i ardal ger maes parcio Ffordd yr Harbwr, Ynys y Barri, brynhawn Sul

Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol ar ferch 12 oed yn y Barri.

Mae Heddlu'r De yn dweud eu bod nhw'n trin y digwyddiad fel achos o drywanu.

Cafodd swyddogion eu galw tua 17:00 brynhawn Sul i ardal ger maes parcio Ffordd yr Harbwr, Ynys y Barri.

Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol.

Dyw ei hanafiadau ddim yn rhai sy'n peryglu ei bywyd.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dau fachgen lleol 13 ac 15 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi anaf corfforol difrifol.

Mae'r bachgen ieuengaf hefyd yn cael ei amau o fod 芒 chyllell yn ei feddiant.

Mae'r ddau wedi eu cadw yn y ddalfa wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

'Pryder yn y gymuned'

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phil Marchant o Heddlu'r De: "Rydyn ni'n deall y bydd y digwyddiad yma ac oedran y bobl dan sylw yn achosi pryder naturiol yn y gymuned.

"Cafodd dau berson mae'r dioddefwr yn eu hadnabod eu harestio o fewn awr i'r digwyddiad ac ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad 芒'r ymosodiad."

Mae'r llu yn annog rhieni, gofalwyr ac athrawon i siarad gyda phobl ifanc am y peryglon o gario cyllyll ac maen nhw'n dweud bod delio 芒 throseddau o'r fath yn flaenoriaeth iddyn nhw.