Galw am gysondeb o ran ffioedd cartrefi gofal ar draws Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cynghorau sir sy'n gosod y pris y mae'n rhaid ei dalu am le mewn cartref gofal
  • Awdur, Rhodri Lewis
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Dylai pob awdurdod lleol yng Nghymru dalu鈥檙 un faint am lefydd mewn cartrefi gofal, yn 么l corff sy鈥檔 cynrychioli鈥檙 sector.

Mae'r swm yn cael ei osod gan gynghorau, ac mae Fforwm Gofal Cymru yn dweud bod gwahaniaeth enfawr rhwng siroedd.

Dywed perchnogion cartrefi fod hynny鈥檔 effeithio ar safon y gofal y gallen聽nhw聽ei gynnig, ac y gallai arwain at gau mwy o gartrefi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Swyddfa Gofal a Chymorth Genedlaethol yn edrych ar roi methodolegau ffioedd cenedlaethol ar waith i sicrhau cysondeb ond y bydd cyfraddau yn amrywio oherwydd ffactorau lleol.

Mae ffioedd cartref gofal Orme View yn Llandudno wedi codi eleni, ynghyd 芒 phob cartref arall yn y sir.

Daw hynny ar 么l i'r cyngor lleol - Conwy - dorri ffwrdd o system lle鈥檙 oedd holl gynghorau gogledd Cymru yn聽cytuno i osod eu ffioedd gyda鈥檌 gilydd.

Ers mis Ebrill, mae聽Sir Conwy聽yn gosod ffioedd yn seiliedig ar gyngor aseswr annibynnol, oedd yn awgrymu y dylai'r pris fod yn lawer uwch nag y bu.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Steffan Robbins fod y cyngor yn talu "ffi sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 costau gwirioneddol yn y sector"

Dywedodd Steffan Robbins o gartef gofal Orme View fod y cynnydd wedi gwneud gwahaniaeth: 鈥淩wy鈥檔 meddwl ei fod yn gam anhygoel, positif ymlaen.

"Mae Conwy wedi cymryd y cam hwnnw i asesu gwir gost gofal a gwneud yn si诺r eu bod yn darparu ffi sy鈥檔 fforddiadwy iddynt, ond hefyd ffi sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 costau gwirioneddol yr y鈥檔 ni鈥檔 gweld yn y sector," meddai.

'Siomedig iawn'

Mae鈥檙 Hen Ficerdy yn Llangollen yn cael miloedd o bunnoedd y flwyddyn yn llai聽i聽bob preswylydd na鈥檙 un yn Llandudno, oherwydd mae鈥檔 dibynnu ar y ffioedd聽sy鈥檔 cael eu gosod聽gan y cyngor lleol, Sir Ddinbych.

Er ei fod wedi cynyddu聽eleni, mae鈥檔 llawer llai o'i gymharu 芒 Chonwy.

Bellach mae鈥檙 ffioedd am y gofal fwya' sylfaenol yng Nghonwy yn 拢846 y mis, ond dim ond yn 拢774 y mis yn Sir Ddinbych.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Bethan Mascarenhas fod y ffioedd yn cael effaith ar wasanaeth y cartref

Dywed Bethan Mascarenhas, sy鈥檔 rhedeg y cartref, bod y gwahaniaeth yn golygu mai codi ffioedd ychwanegol ar breswylwyr yw鈥檙 unig ffordd i gael dau ben llinyn ynghyd.

"Mae鈥檔 siomedig iawn fel darparwr gofal," meddai.

"Fel rhywun sydd wedi buddsoddi鈥檔 fawr yn y gwaith y鈥檔 ni鈥檔 ei wneud, ni wir yn ymdrechu i roi鈥檙 lefel orau o ofal o safbwynt bwyd gwych, diod dda, gweithgareddau da, pethau sy鈥檔聽bwysig聽i ni, ac yn anffodus mae鈥檙 rhaniad rhwng y聽ffioedd yn gwneud gwahaniaeth i'r hyn gallwch ei ddarparu.鈥

Dywed Fforwm Gofal Cymru, y sefydliad ymbar茅l ar gyfer cartrefi gofal Cymru, fod hyn yn tanseilio cartrefi mewn ardaloedd lle nad yw鈥檙 ffioedd mor uchel ag y dylen nhw fod, a bod angen i鈥檙 anghydraddoldeb ddod i ben.

Dywedodd y cadeirydd, Mario Kreft fod angen i'r swyddfa genedlaethol newydd "sicrhau bod gennym ni gydraddoldeb ledled Cymru, bod o leiaf lefel sylfaenol o gyllid yn cael ei gytuno ar draws yr holl awdurdodau lleol a鈥檙 byrddau iechyd.

"Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o loteri c么d post,鈥 meddai Mr Kreft.

'Cyfyngiadau ariannol heriol'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: 鈥淩ydym wedi gweithio鈥檔 galed i daro鈥檙 cydbwysedd bregus rhwng ymdopi 芒 chyfyngiadau ariannol heriol a sicrhau ein bod yn cynnal dyfodol cynaliadwy i鈥檙 sector gofal yn y sir.鈥

Dywedon nhw nad oedd "tystiolaeth聽a gyflwynwyd yn awgrymu bod cyfraddau ffioedd awdurdodau lleol gwahanol yn effeithio ar ddiddyledrwydd cartrefi gofal yn y sir.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Swyddfa Gofal a Chymorth Genedlaethol sydd newydd ei sefydlu nawr yn archwilio dichonoldeb rhoi methodolegau ffioedd cenedlaethol ar waith i sicrhau cysondeb.

"Nid yw hyn yn golygu fodd bynnag y bydd un gyfradd ffioedd genedlaethol ar draws Cymru.

"Bydd cyfraddau ffioedd yn amrywio oherwydd ffactorau lleol fel gwerthoedd tir ar gyfer cartrefi gofal."

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, yr Aelod Plaid Cymru o'r Senedd fod angen "trawsnewid" gwasanaethau gofal.

"Mae'n rhaid i ni weld y llywodraeth yn gwneud hyn yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gennym ni wasanaeth gofal cenedlaethol - fel bod gofal am ddim ar gael i unigolion, fod gweithwyr yn y sector yn derbyn tal teg a bod yna sicrwydd y bydd ein hanwyliad yn derbyn y gofal sydd ei angen arnyn nhw."

Yn 么l Sam Rowlands, Aelod Ceidwadol o'r Senedd, mae'r system bresennol yn golygu fod gwasanaethau gofal yn gweithio yn erbyn gwasanaethau iechyd.

"Mae cannoedd ar gannoedd o wl芒u ysbytai yn llawn ar hyn o bryd gan nad yw pobl yn gallu derbyn y gwasanaethau gofal y maen nhw eu hangen.

"Mae angen i'r llywodraeth ryddhau'r gwl芒u hynny drwy sicrhau fod gan awdurdodau lleol yr arian sydd ei angen arnyn nhw i allu talu cartrefi gofal yn deg.

"Fyddai hynny'n golygu na fyddwn ni'n gorfod gweld cartrefi gofal yn cau a rhestrau aros yn gwaethygu."