Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwerth 17 tancer o dd诺r gwastraff y dydd wedi ei ryddhau i afon
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae tystiolaeth bod yr hyn sy'n cyfateb i 17 tancer y dydd o dd诺r gwastraff, oedd yn cynnwys carthion, wedi ei ryddhau i Afon Cleddau Wen yn ystod 2023, yn 么l ymgyrchwyr safon d诺r yr afon, sy'n dadlau bod modd atal y llygredd.
Fe wnaeth gr诺p Prosiect y Cleddau gais rhyddid gwybodaeth am ddata gan gwmni D诺r Cymru ynghylch pherfformiad pympiau yng ngorsaf Picton yn Hwlffordd.
Roedd y data, sy'n dyddio'n 么l i Orffennaf 2022, yn dangos bod y pympiau'n gweithio ar tua 80% o'u capasiti rhwng Gorffennaf 2022 a Chwefror 2024.
Cafodd tua 55,857 metr ciwbig o wastraff ei ryddhau i'r Cleddau Wen am nad oedd y pympiau'n gweithio yn iawn. Fe ddylai'r garthffosiaeth fod wedi mynd i'r gwaith trin d诺r lleol.
Dywed D诺r Cymru eu bod nhw wedi gosod offer monitro cyn yr amserlen a osodwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a'i bod wedi cymryd 26 wythnos i greu offer newydd i'r orsaf.
Mae'r Cleddau Wen wedi ei dynodi yn ardal o gadwraeth arbennig.
Arllwys llygredd ar 133 o achlysuron
Dywedodd Ric Cooper, llefarydd ar ran Prosiect y Cleddau, bod y gr诺p wedi penderfynu ymchwilio ar 么l sylwi bod carthion yn cael eu rhyddhau yn rheolaidd o bibell ger meysydd chwarae Picton.
Mae'r pibelli - Combined Storm Overflows - i fod i ryddhau ar adeg o law trwm yn unig.
Dywedodd Mr Cooper fod y "pympiau i fod i anfon carthion i'r gwaith trin d诺r ym Mhontfadlen, rhyw hanner milltir i ffwrdd.
"Maen nhw fod i bwmpio 120 litr yr eiliad. Roedd y data yn dangos bod y pympiau yn symud 95 neu 96 litr yr eiliad.
"Mae hynny yn golygu bod 20% o'r hyn oedd fod cael ei drin, yn mynd syth mewn i'r afon. Ar gyfartaledd, mae'n cyfateb i 17 tancer y dydd yn gwac谩u cynnwys i mewn i'r afon."
Mae data D诺r Cymru yn dangos bod y bibell CSO ger meysydd chwarae Picton wedi arllwys gwastraff i'r afon ar 133 o achlysuron am 646.6 awr yn 2023.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr D诺r Gwastraff D诺r Cymru, Steve Wilson, fod y cwmni wedi gosod offer monitro cyn yr amserlen gafodd ei osod gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
"Fe wnaethom ni gytuno i osod offer monitro yn Picton o flaen llaw," meddai, "felly roedden ni yn medru gweld fod problem gyda faint o lif oedd yna, ac oedd, roedd carthion yn cael eu rhyddhau ar adegau.
"Er mwyn diweddaru'r orsaf, roedd rhai gosod pympiau a phaneli newydd. Fe wnaeth hynny gymryd 26 wythnos. Mae'n offer arbenigol, a dyw e ddim ar gael ar y silff. Mae'r llif cywir yn cael ei symud gan y pympiau erbyn hyn, ac mae llai o ollyngiadau."
Dywedodd Mr Wilson fod y cwmni yn ymddiheuro am unrhyw niwed i'r Cleddau Wen. Fe wnaeth gyfaddef, serch hynny, fod hi'n bosib fod y broblem yn digwydd mewn llefydd eraill.
Yn 么l Mr Wilson, mae'r cwmni'n gweithio "mor gyflym 芒 phosib i ddiweddaru safleoedd ar draws Cymru, gwella ansawdd d诺r, mewn ffordd sydd "mor fforddiadwy 芒 phosib" i gwsmeriaid.
Mae'r cwmni'n bwriadu buddsoddi 拢4bn erbyn 2030, gyda 拢100m yn cael ei wario yn Sir Benfro, yn ddibynnol ar s锚l bendith y rheoleiddiwr Ofwat.
Mae Prosiect y Cleddau yn dweud eu bod wedi hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru sawl gwaith am y broblem, ac fe ymwelodd y rheoleiddwyr 芒'r safle ym mis Mehefin 2023.
Fe gymrodd hi naw mis arall i ddatrys y broblem.
Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi cael gwybod am bryderon am orsaf Picton ym Mehefin 2023, ac fe ddywedodd D诺r Cymru y byddai'r pympiau newydd wedi eu gosod erbyn 31 Hydref 2023.
Penderfynodd y rheoleiddwyr i roi rhybudd i'r cwmni pan fethwyd 芒 chwblhau'r gwaith erbyn hyn.
Cafodd y gwaith ei wneud erbyn Chwefror 2024. Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod yna "ymchwiliad cyfreithiol swyddogol" yn cael ei gynnal i fater arall yn ymwneud 芒 gorsaf Picton.
Yn 么l Simon Walters, sydd wedi ymgyrchu dros ansawdd dwr y Cleddau Wen ers blynyddoedd, mae lleoliad y gollyngiadau yn un sensitif iawn.
Dywedodd: "Dyma ble mae'r sewin a'r eogiaid yn cymryd saib, wrth deithio o dd诺r y m么r i dd诺r ffres. Mae hon yn ardal o gadwraeth arbennig a dylid ei hamddiffyn. Mae'n bryd i Gyfoeth Naturiol Cymru a D诺r Cymru wneud rhywbeth am hyn."
Ym mis Gorffennaf, cadarnhaodd Ofwat, y rheoleiddwyr d诺r yng Nghymru a Lloegr, eu bod wedi rhoi hysbysiad gorfodi i D诺r Cymru a nifer o gwmn茂au d诺r eraill yn sgil y ffordd maen nhw yn ymdrin 芒 dwr gwastraff.
Mae'r Aelod Seneddol lleol, Henry Tufnell, wedi galw am fwy o adnoddau i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd nad yw'r sefyllfa yn "dderbyniol o gwbl. Dim ond 20% o achosion mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio, felly mae'n amlwg fod yna broblem adnoddau.
"Mae dirwyon yn gorfod mynd n么l i'r Trysorlys, a dyw'r arian ddim yn aros yn y diwydiant d诺r yng Nghymru. "
Y llywodraeth 'wedi lansio adolygiad eang'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淢ae gwell ansawdd d诺r yn hanfodol i wneud Cymru yn lle llewyrchus, hapus ac iach i fyw ac ymweld ag ef.
"Mae鈥檙 pwysau ar ein cyflenwadau d诺r a鈥檔 seilwaith yn ddigynsail a dyna pam rydym yn gwneud diogelu ein hamgylchedd d诺r yn flaenoriaeth.
鈥淩ydym wedi lansio adolygiad eang ar y cyd 芒 Defra i bolisi a rheoleiddio yn y sector d诺r.
鈥淏yddwn yn parhau i weithio鈥檔 agos gyda phartneriaid yn y llywodraeth ac ar draws y sector d诺r i wireddu ein nodau cyffredin o Gymru lanach a mwy amgylcheddol gyfrifol 鈥 i ni, ac i鈥檙 rhai sy鈥檔 dod ar ein holau.鈥