大象传媒

Athro yn gwadu ymosod ar fachgen 16 oed yn Sir G芒r

Ll欧r DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Ll欧r Davies ar 12 Mawrth ond mae llys wedi clywed nad oedd ei farwolaeth yn gysylltiedig ag ymosodiad honedig arno dridiau ynghynt

  • Cyhoeddwyd

Mae Llys Ynadon Llanelli wedi clywed bod athro wedi ymosod ar fachgen 16 oed yn ystod noson allan yng Nghastellnewydd Emlyn.

Mae Llyr James, 31, wedi ei gyhuddo o ymosod ar Ll欧r Davies ar Rhes Cawdor yn y dref ar 9 Mawrth.

Bu farw'r bachgen dridiau wedi'r digwyddiad honedig, ar 12 Mawrth, ond fe glywodd y llys nad oedd cysylltiad rhwng yr ymosodiad a'r farwolaeth yn chwarel Gilfach yn Sir Benfro.

Mae Mr James wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad ac mae'r achos yn parhau.

Fe welodd y llys luniau CCTV o'r digwyddiad honedig. Yn 么l James Ashton, ar ran yr erlyniad, roedd y diffynnydd - oedd yn dysgu yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul - wedi llusgo'r bachgen i ali ac ymosod arno.

Clywodd y gwrandawiad dystiolaeth gan ffrindiau oedd yng nghwmni Ll欧r ar y noson dan sylw.

Roedd Dafydd James, 18, a Ll欧r ymhlith gr诺p o bedwar oedd wedi bod yn yfed yn nhafarn y Three Compasses.

Roedden nhw wedi gadael y dafarn ac wrth gerdded tuag at gar ei fam fe sylweddolodd Mr James bod rhywbeth yn mynd ymlaen mewn ali gyfagos.

Cerddodd tua'r ali ac mae'n dweud iddo weld Llyr James yno, ar ben ei gyfaill ac "yn cydio ynddo ar y llawr".

Roedd wedi dweud wrth yr athro "i bigo ar rywun ei faint ei hun", ac fe honnodd bod y diffynnydd yn ymddwyn "fel llanc", gan "ddechrau ymbwyllo" yn sgil presenoldeb y fam.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd angladd Ll欧r Davies ei gynnal ym mis Ebrill

Mewn ymateb i gwestiwn gan Mair Williams ar ran yr amddiffyn, fe gadarnhaodd Dafydd James bod y bechgyn i gyd yn 17 oed ar y pryd, ac felly o dan oed wrth yfed yn y dafarn.

Awgrymodd Ms Williams bod y bechgyn wedi bod yn yfed "am rai oriau" ac atebodd Dafydd James mai "dim ond un peint" a gafodd Ll欧r Davies.

Ychwanegodd bod Mr James wedi ei ddysgu yn yr ysgol a'i fod yn ei barchu.

Awgrymodd Ms Williams wrth Dafydd James nad oedd "unlle'n agos i'r ali" gan gwestiynu rhan o'i ddatganiad pan honnodd ei fod wedi codi Ll欧r Davies o'r llawr.

Fe gyfaddefodd "efallai na wnaeth" ond fe wadodd ei fod yn feddw noson y digwyddiad honedig.

Pan ofynnwyd pam nad oedd wedi mynd at yr heddlu'n syth wedi'r digwyddiad, atebodd: "Meddyliais i ddim byd ohono."

Cytunodd nad oedd Ll欧r Davies wedi gwneud cwyn i'r heddlu 'chwaith.

'Chwarae ymladd'

Dywedodd bachgen arall o blith y pedwar, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ei fod wedi clywed rhywun yn sgrechian ar y stryd wedi iddyn nhw adael y dafarn.

Honnodd iddo weld Ll欧r Davies yn cael ei lusgo allan gan Llyr James. Dywedodd iddo deimlo "dryswch a sioc" a bod Llyr James yn ymddangos yn "wallgof".

Roedd llygaid y diffynnydd, meddai, "yn sefyll mas o'i ben" ac roedd "yn siarad yn aneglur".

Dywedodd yntau hefyd ei fod "ond wedi cael un peint", a'i fod heb wneud cwyn yn yr ysgol am y digwyddiad honedig ond nad yw wedi bod yn yr ysgol ers marwolaeth Ll欧r Davies.

Fe wadodd yn bendant awgrym yr amddiffyn mai "chwarae ymladd" roedd ei gyfaill a'r athro a bod ef a'i ffrindiau wedi gorliwio manylion y digwyddiad.

Doedd yr un tyst arall wedi crybwyll s诺n sgrechian ar y stryd, dywedodd Mair Williams.

Dywedodd y tyst bod "crafiadau" ar law Ll欧r Davies a'i fod yn gwaedu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd gwylnos ei gynnal ar draeth Aberporth er cof am Ll欧r Davies

Dywedodd tyst arall na ellir ei enwi ei fod wedi gweld rhywun yn croesi'r ffordd i herio Ll欧r Davies, ac yn ei lusgo i ali gyfagos.

Roedd gan Ll欧r Davies grafiadau ar ei freichiau, meddai, ac roedd hefyd wedi taro ei ben.

Roedd y tyst yma hefyd yn parchu Llyr James fel athro, ac fe gyfaddefodd efallai ei fod wedi cael sioc o weld y bechgyn allan cyn g锚m derfynol rygbi bwysig yn Stadiwm Principality, Caerdydd.

Cytunodd ag awgrym bod Llyr James wedi bod yn rhyw fath o fentor i Ll欧r Davies.

'Cer bant oddi arna i'

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Nia James, mam Dafydd, ei bod wedi dod i gasglu ei mab ac eraill o'r gr诺p o Gastellnewydd Emlyn.

Wrth i un o'r bechgyn agor drws cefn y car honnodd iddi weld rhywun yn rhedeg ar draws y ffordd.

Fe gydiodd y person yna yn Ll欧r Davies, rhoi hwdi am ei ben a'i lusgo i ali.

Cadarnhaodd mai'r person hwnnw oedd y diffynnydd Llyr James.

Honnodd iddi glywed gweiddi gyda Ll欧r Davies yn dweud "cer bant oddi arna i".

Yna dywedodd i'w mab fynd draw a gofyn "Pam wnaethoch chi hynna i Llyr?"

Ychwanegodd bod un o'r rhai a oedd gyda Llyr James wedi dweud "Chi fechgyn ddechreuodd e" a bod hi wedi ateb "Na 'naethon nhw fg ddim".

Mae'n honni bod Mr James wedi dweud wrthi ei fod yn "parchu'r bechgyn" a bod hithau wedi ymateb gan ddweud nad oedd yn parchu neb ond ei hun.

Ar ran yr amddiffyniad honnodd Mair Williams ei bod yn anghywir pan honnodd bod un o'r bechgyn wedi agos drws cefn y car ar adeg yr ymosodiad honedig.

Wedi iddi gael ei holi dywedodd Nia James ei bod hi'n credu bod y bechgyn wedi bod yn yr ali am ddau i dri munud ond dywedodd Mair Williams wrth y llys bod y camer芒u cylch cyfyng yn dangos na fuon nhw yno fwy na 10 eiliad.

Atebodd Nia James drwy ddweud ei fod yn "ddigon o amser i frifo Ll欧r a bod crafiad ar ei law".

'Ddim ar y llawr ar unrhyw adeg'

Dywedodd llygad dyst arall, Cian Jones 19, wrth y llys fod Mr James mewn "hwyliau da" ond nad oedd "allan ohoni".

Dywedodd ei fod wedi gweld Llyr James yn llusgo Ll欧r Davies i ali ond fod y ddau wedi cerdded allan gyda'i gilydd wedyn.

Roedd e'n swnio fel petai Mr James yn rhoi "cerydd" i Ll欧r Davies am beidio mynd i'r ysgol," meddai.

Wrth gael ei groesholi gan Mair Williams dywedodd na welodd Ll欧r Davies ar y llawr ar unrhyw adeg.

Un arall fu'n rhoi tystiolaeth oedd Ffion James. Wrth gael ei holi am negeseuon Snapchat a dderbyniodd gan Ll欧r Davies ar 10 Mawrth dywedodd iddi ddweud wrtho am gadw pob tystiolaeth.

Wrth gael ei holi gan Mair Williams pam ei bod wedi cymryd chwe mis iddi wneud datganiad eglurodd mai dyna pryd y cysylltodd yr heddlu 芒 hi ond ei bod wedi rhoi lluniau o'r sgyrsiau Snapchat i bennaeth yr ysgol ar 15 Mawrth.

Dywedodd hefyd nad oedd Ll欧r wedi cael cyfle i wneud cwyn i'r heddlu neu'r ysgol.

Wedi cymryd Ll欧r Davies 'dan ei aden'

Cafodd rhan o ddatganiad Llyr James ei ddarllen yn y llys.

Dywedodd ei fod wedi yfed wyth neu naw peint o seidr ar noson yr ymosodiad honedig wedi iddo fod yn chwarae rygbi i Gastellnewydd Emlyn.

"Ymladd chwarae" oedd wedi digwydd gyda Ll欧r Davies, meddai, ac ychwanegodd fod ganddo berthynas agos gyda'r disgybl a'i bod hi'n siom iddo feddwl bod Ll欧r wedi cael ei ypsetio gan yr hyn a ddigwyddodd.

Cytunodd bod ei ymddygiad ar y noson dan sylw yn amhroffesiynol.

Cafodd ail ddatganiad gan Llyr James ei ddarllen gan James Ashton ar ran yr erlyniad.

Nododd ei fod o gymeriad da, wedi bod yn swyddog datblygu rygbi cyn dod yn athro ym Mehefin 2023.

Ym Medi 2023 cafodd ei gyflogi fel athro ymarfer corff yn Ysgol Bro Teifi ac roedd wedi cymryd Ll欧r "dan ei aden" ac wedi "annog ei angerdd am rygbi".

Doedd yna fyth anghytuno rhyngddynt ac roedd e wastad yn hapus i siarad ag ef, meddai.

Ym Mlwyddyn 11 nodwyd bod presenoldeb Ll欧r Davies yn yr ysgol wedi gwaethygu a nodwyd ymhellach bod hi'n hynod o flin gan Mr James glywed am y ddamwain angheuol.

Ychwanegodd y datganiad bod Mr James yn dangos y "parch eithaf" i ddisgyblion.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig