Llandeilo: Cyhuddo dyn o daflu sylwedd cemegol at ddyn arall

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Jivan Dean yn cael ei amau o daflu sylwedd cemegol at ddyn arall

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol a thaflu sylwedd cemegol at ddyn 20 oed yn Sir G芒r.

Fe wnaeth Jivan Dean, 24 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Llun, gan siarad i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.

Mae'n cael ei amau o daflu sylwedd cemegol at y dyn ar safle 'Tipi Valley' yn Llandeilo ar Awst 14.

Bydd Mr Dean yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar Fedi 16.