Perchennog siop wedi 'clymu eitemau' er mwyn atal lladron

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 News

Disgrifiad o'r llun, Mae Julie Ruscitto wedi rhoi鈥檙 gorau i werthu cynnyrch gwerthfawr yn ei siop oherwydd achosion o ladrata
  • Awdur, Sara Dafydd
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae perchennog siop yn dweud bod achosion o ddwyn o'i siop yn "gwaethygu" a'i bod wedi gorfod cyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol i geisio atal lladron.

Ym mis Ebrill, cafodd dau hamper gwerth 拢50 eu dwyn o gownter siop Julie Ruscitto yn Abertawe.

Mae hi bellach wedi penderfynu clymu rhai eitemau i鈥檙 cownter ac wedi rhoi'r gorau i werthu eitemau gwerthfawr.

Mae ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau'n awgrymu bod nifer yr achosion o ddwyn o siopau wedi bron 芒 dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf.

Yn 么l un undeb llafur, mae Cymru鈥檔 wynebu 鈥渆pidemig鈥 o droseddau o'r fath.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd hamper llawn siocled ei ddwyn o siop Julie Ruscitto

Cafodd y lluniau cylch cyfyng ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Fe dderbyniodd y lleidr ddirwy a gorchymyn i dalu iawndal i鈥檙 fusnes.

Mae Julie wedi bod yn rhedeg ei siop anrhegion The Chocolate Box yn Abertawe am 8 mlynedd.

鈥淒aeth y dyn i mewn ar brynhawn dydd Sadwrn. Dywedodd 鈥楢lright love鈥, ac yna鈥檔 lythrennol gydiodd e yn y ddau hamper oedd gyda鈥檙 prosecco.鈥

鈥淵na gerddodd e allan y drws ffrynt, caeodd y drws y tu 么l iddo ac yna rhedeg i ffwrdd. Roeddwn i mewn sioc oedd e wedi digwydd mor hawdd.鈥

Mae Julie a鈥檌 chydweithwyr wedi rhoi mesurau mewn lle i ddiogelu eitemau rhag cael eu dwyn, gan gynnwys

鈥淩ydyn ni wedi gorfod rhoi drysau 芒 chlo ar y cwpwrdd canhwyllau oherwydd roedd pobl yn eu dwyn nhw, teledu cylch cyfyng, mae鈥檙 drws ffrynt yn agor gyda larwm i roi gwybod i ni pan fydd rhywun yn y siop ac mae gennym ni ddrychau.鈥

Ychwanegodd, 鈥淢ae鈥檔 gymaint o drueni bod yn rhaid i ni wneud hynny oherwydd mae mwyafrif ein cwsmeriaid yn anhygoel.鈥

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 News

Disgrifiad o'r llun, Cafodd hamper yn debyg i hyn ei ddwyn o siop Julie ym mis Ebrill

Mae ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau yn dangos fod lladrata o siopau yng Nghymru wedi cynyddu 34% dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd y cynnydd mwyaf yn Ne Cymru lle wnaeth nifer yr achosion bron 芒 dyblu.

Dyma'r ffigyrau uchaf ers 20 mlynedd ar draws Cymru a Lloegr.

Mae Jayne Keeley wedi rhedeg siop dillad babanod, Rainbow, yn ardal Uplands yn Abertawe ers 37 mlynedd.

Mae hi鈥檔 dweud bod ganddi 鈥渁gwedd amddiffynnol鈥 pan ddaw鈥檔 fater o ddwyn o siopau.

鈥淔e ges i lu o ladrata rai blynyddoedd yn 么l felly nawr mae cwsmeriaid yn gorfod canu gloch cyn do di fewn, mae gen i gamer芒u cylch cyfyng ac mae shutters lan yn y nos.鈥

Ychwanegodd, 鈥淒ywedodd rhai cwsmeriaid ar y dechrau 鈥榤ae fel mynd i siop gemwaith yn Llundain!鈥 ond dyna sy鈥檔 rhaid i mi ei wneud. Dyma fy newis i fy nghadw i a fy staff yn ddiogel.鈥

Mae gan Jayne a pherchnogion siopau eraill ar draws ardal Uplands gr诺p Whatsapp i hysbysu ei gilydd am unrhyw ymddygiad amheus yn yr ardal.

Mae Jayne yn dweud bod hyn yn gwneud iddi deimlo'n fwy diogel tra yn y gwaith.

鈥淣id oes llawer o bobl [staff] yn y siopau bach hyn. Rydyn ni i gyd yn edrych allan am ein gilydd.鈥

'Epidemig o droseddau manwerthu'

Mae cyfraith bresennol y DU yn golygu bod unrhyw nwyddau sy鈥檔 cael eu dwyn gwerth llai na 拢200 yn golygu bod yr achosion yn annhebygol o gael eu rhoi ar brawf yn Llys y Goron.

Yn 么l Jayne Keeley, 鈥淢ae gwir angen rheoleiddio llymach. Mae pobl sy鈥檔 dwyn yn meddwl eu bod yn gallu dod bant 芒鈥檙 peth.鈥

Yn Araith y Brenin, cyflwynodd y Prif Weinidog fesur trosedd newydd i dargedu pobl sy鈥檔 dwyn nwyddau gwerth llai na 拢200.

Dywed Paddy Lillis, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb llafur Usdaw eu bod yn croesawu'r mesur.

鈥淢ae鈥檙 cynnydd hwn o 34% mewn dwyn o siopau ledled Cymru yn dystiolaeth bellach ein bod yn wynebu epidemig o droseddau manwerthu, sy鈥檔 peri pryder mawr.鈥

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Emma Wools:

鈥淢ae鈥檙 ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 28% mewn troseddau dwyn o siopau dros y chwe mis diwethaf ac yn ystod yr un cyfnod mae鈥檙 gyfradd canlyniadau cadarnhaol wedi dyblu o gymharu 芒鈥檙 llynedd.

鈥淩wyf wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i gryfhau鈥檙 ymateb i鈥檙 mater blaenoriaeth hwn ar draws De Cymru.鈥