Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dau yn eu hugeiniau wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir G芒r
Mae dau berson yn eu hugeiniau wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir G芒r.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad ar yr A477 rhwng Llanddowror a Ros-goch tua 16:00 ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mai Jaguar du a Ford Fiesta du oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Cadarnhaodd y llu fod dau o bobl - dyn 27 oed a menyw 25 oed, oedd yn teithio yn yr un car - wedi marw yn y digwyddiad.
Mae dau berson arall - 27 a 33 oed - yn parhau yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad, ond y gred yw nad yw eu hanafiadau yn peryglu eu bywydau.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu 芒 nhw.