Undeb Rygbi Cymru'n ymddiheuro am drafodaethau cytundeb y merched

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi ymddiheuro am y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb t卯m y merched eu cynnal.

Daw'r ymddiheuriad wedi honiadau newydd o rywiaeth ac anghydraddoldeb, lai na blwyddyn ers adolygiad annibynnol damniol i'w ddiwylliant.

Mae'r gyda chanlyniadau pe na baent yn cytuno i delerau鈥檙 undeb, gan gynnwys peidio cael eu dewis i gystadlaethau mawr.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn gwrthod rhai o'r honiadau yn eu herbyn, yn cynnwys gwadu bod y prif weithredwr Abi Tierney yn anfodlon talu costau teithio.

Ond mae Ms Tierney ynghyd 芒 chadeirydd yr Undeb, Richard Collier-Keywood wedi cyfaddef bod methiannau yn y broses, a dweud ei bod hi鈥檔 鈥済wbl amlwg鈥 y dylai'r bwrdd ymddiheuro.

Dywedodd URC ei fod wedi cychwyn adolygiad annibynnol o'r broses ac y bydd yn cyhoeddi'r argymhellion.

Cafodd y cytundebau proffesiynol cyntaf erioed gan d卯m y merched eu harwyddo ar ddechrau 2022, gyda Chymru yn cymryd camau mawr ar y cae, gan orffen yn drydydd ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad y Merched 2022 a 2023.

Ond i gyd-fynd 芒鈥檙 trafodaethau cytundebol, mae 2024 wedi gweld cwymp sylweddol yn eu perfformiadau, gyda Chymru yn gorffen ar waelod y bencampwriaeth.

Daeth chwaraewyr 芒'r Gymdeithas Rygbi Merched i mewn i'r trafodaethau ym mis Ionawr i鈥檞 cynrychioli, gyda materion yn cynnwys t芒l a pholisi mamolaeth yn seiliedig ar berfformiad ymhlith eu ceisiadau.

Cadarnhaodd Cymdeithas Rygbi Merched ddatgeliadau鈥檙 Telegraph.

'Tair awr i arwyddo'

Mae鈥檙 Telegraph yn honni bod chwaraewyr wedi cael eu rhybuddio ym mis Awst na fyddant yn cael lle yng nghystadleuaeth WXV2 yn Ne Affrica a Chwpan Rygbi鈥檙 Byd y flwyddyn nesaf os nad oedden nhw鈥檔 arwyddo, ac ond wedi cael tair awr i benderfynu.

Fe gadarnhaodd capten Cymru, Hannah Jones ym mis Medi fod y sefyllfa wedi ei datrys, gan ddweud eu bod yn "hapus gyda'u cytundebau".

Yn ddiweddarach y mis hwnnw, cyn eu g锚m agoriadol WXV2 yn erbyn Awstralia, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu bod wedi dyfarnu 37 o gytundebau llawn amser, gan ddweud bod Cymru yn 鈥渦n o鈥檙 timau merched rhyngwladol sy鈥檔 cael y cyflog gorau yn y byd鈥.

Disgrifiad o'r llun, Fe fydd URC yn cyhoeddi canlyniadau ac argymhellion yr adolygiad, meddai Abi Tierney

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, fod bwrdd y corff llywodraethu wedi cael gwybod ym mis Awst gan y chwaraewyr bod ganddyn nhw bryderon am y broses o drafod cytundebau.

鈥淐roesawodd URC y dull hwn, a chychwynnodd cadeirydd URC ddwy ffrwd waith ar unwaith,鈥 meddai.

鈥淯n oedd cwblhau鈥檙 trafodaethau gyda'r th卯m craidd a鈥檙 ail oedd adolygiad dan arweiniad y bwrdd o鈥檙 broses gyfan.

鈥淒yw hi ddim yn briodol trafod manylion trafodaethau cyfrinachol, ond fe fydd URC yn cyhoeddi canlyniadau ac argymhellion yr adolygiad y mae wedi鈥檌 gynnal yn fuan iawn.鈥

'Chwaraewyr wedi'u hynysu'

Mae URC bellach wedi ei orfodi i gyflwyno canfyddiadau'r adolygiad yn gynt, yn dilyn adroddiadiau'r Telegraph.

Mae'r adolygiad wedi canfod:

  • Ni chafodd twf a datblygiad g锚m broffesiynol y menywod ei ystyried;
  • Mae bwrdd arweinyddiaeth gweithredol URC yn derbyn ei fod wedi gwneud camgymeriad yn rhoi tair awr i'r chwaraewyr arwyddo cytundeb;
  • Safbwyntiau gwahanol iawn ar sut i ddatblygu rygbi menywod yng Nghymru;
  • Roedd rhai chwaraewyr di-brofiad mewn trafodaethau cytundeb ond cawsant eu hynysu;
  • Fe wnaeth chwaraewyr ystyried streicio cyn y g锚m gyfeillgar yn erbyn Yr Alban ar 6 Medi;
  • Nid oedd rhywiaeth yn rhan o鈥檙 cymhelliant y tu 么l i unrhyw fethiannau.

Dywedodd Mr Collier-Keywood mai bwriad URC oedd eistedd i lawr gyda'r chwaraewyr dros yr wythnosau nesaf i ymddiheuro, gan ei bod yn "gwbl glir" bod angen gwneud hynny.

"Cawsom gyfarfod 芒 nhw ychydig cyn y gynhadledd i'r wasg hon i roi gwybod iddynt mai dyna oedd ein bwriad a hefyd i rannu trosolwg o'r argymhellion gyda nhw.

"Fel rhan o hynny, byddaf yn ymddiheuro ynghyd ag aelodau eraill o'r t卯m arwain."

'Ein syfrdanu gan eu dewrder'

Dywedodd datganiad gan y Gymdeithas Rygbi Merched: 鈥淎r 么l cynrychioli t卯m Merched Cymru eleni, rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan eu dewrder, eu penderfyniad a鈥檜 hymrwymiad cadarn i wella nid yn unig eu hamodau gwaith eu hunain, ond amodau gwaith cenedlaethau鈥檙 dyfodol yng Nghymru.

鈥淩ydym yn falch o fod wedi gallu cefnogi鈥檙 gr诺p hwn o ferched trwy gyfnod mor heriol ac edrychwn ymlaen at weld yr hyn y maent yn parhau i鈥檞 gyflawni mewn blwyddyn mor gyffrous i rygbi merched.

"Mae'r Gymdeithas Rygbi Merched yn teimlo ei fod yn gam sylweddol i URC gychwyn adolygiad annibynnol o'r broses hon, ac yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau maes o law."

Dywedodd lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddem bob amser yn disgwyl i鈥檔 cyrff chwaraeon cenedlaethol arwain drwy esiampl.

"Mae鈥檙 rhain yn honiadau sy鈥檔 peri pryder ac rydym yn ceisio cael cyfarfod gydag URC fel mater o frys.鈥