Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Merch o'r Felinheli yn anelu am y Gemau Olympaidd
- Awdur, Sion Tootill
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Nod un ferch ifanc o Wynedd dros y blynyddoedd nesaf yw sicrhau ei lle yn nh卯m Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Mae Glain Watkin Jones, 21 oed o'r Felinheli, newydd gynrychioli t卯m Prydain am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth marchogaeth a neidio ceffylau yn y Weriniaeth Tsiec.
Fe wnaethon nhw orffen yn ail yn y gystadleuaeth t卯m ac fe ddaeth Glain yn bedwerydd yng nghystadleuaeth unigol y Grand Prix.
Mae Gemau Olympaidd Paris - sy'n cychwyn ddiwedd y mis - wedi dod yn rhy gynnar yng ngyrfa Glain, ond mae hi'n gobeithio gallu cystadlu am fedal pan fydd y gemau yn Los Angeles yn 2028.
鈥淔i a mam oedd yna pan wnaethon ni ffeindio allan fy mod i 'di cael lle ar y t卯m," meddai Glain.
"'Naeth聽y ddwy ohonom ni just crio. Mae鈥檔 rhywbeth dwi 鈥榙i gweithio mor galed amdano fo."
Roedd Glain wedi cystadlu yn Ewrop sawl tro o'r blaen, ond erioed fel rhan o d卯m Prydain.
Profiad 'emosiynol'
鈥淥鈥檔 i鈥檔 nerfus iawn i ddechrau achos o鈥檔 i am ddangos fy mod i鈥檔 gallu bod ar y lefel yna ac yn haeddu bod yna.
鈥淥nd ar 么l gorffen y rownd gyntaf nes i just rili ffocysu ac ymlacio a dechrau mwynhau鈥檙 peth.
鈥淒wi鈥檔 teimlo nes i ddangos bo' fi鈥檔 ddigon da i fod yna ac wedi gweithio鈥檔 galed i fod yna.
鈥淥dd o鈥檔 brofiad anhygoel a jyst hollol emosiynol.鈥
Dechreuodd Glain farchogaeth pan oedd hi'n blentyn oherwydd diddordeb ei mam, Iona Watkin Jones, mewn ceffylau.
鈥淒wi 'di bod yn reidio ers dwi鈥檔 gallu cofio," meddai Glain.
"Dechreuodd o gyda poni bach ac mae o 'di datblygu o hynny.
鈥淢ae hi wedi bod yn daith hir ers hynny i geisio cyrraedd lle 'da ni heddiw.
鈥溾楧a ni鈥檔 reidio chwech neu saith gwaith yr wythnos ac mae gyda ni ddeg o geffylau yma sydd angen cael eu reidio pob dydd.
"Mae o wir yn waith caled.鈥
Mae鈥檙 teulu newydd orffen adeiladu cyfleusterau marchogaeth newydd ar eu tir er mwyn galluogi i Glain, a鈥檌 brawd bach Dafydd, i ymarfer yn gyson.
Ond maen nhw hefyd am roi cyfle i grwpiau o鈥檙 ardal gael dysgu marchogaeth.
Dywedodd Iona: 鈥淥'dd o鈥檔 emosiynol iawn pan ddaeth yr e-bost yn dweud bod Glain ar d卯m GB.
鈥淩oedden ni'n fod i gadw鈥檙 newyddion yn reit ddistaw am ryw bythefnos ac roedd hynny鈥檔 anodd iawn, er ma' rhaid i mi gyfaddef, nes i ddweud wrth dipyn o ffrindiau agos.
鈥淥'dd o鈥檔 wych, ac mae鈥檔 wych i鈥檙 ardal yma, ac i Gymru hefyd, cael merch leol ar y t卯m.鈥
Ychwanegodd: 鈥淢ae 鈥榥a dipyn o grwpiau wedi dechrau dod yma i ddysgu marchogaeth ceffylau, ac mae Glain wedi dechrau gwneud tipyn o hyfforddi hefyd.
"Mae鈥檔 gyfle da i hybu鈥檙 genhedlaeth nesa o farchogion.鈥
Mae brawd Glain, Dafydd, 17, hefyd yn marchogaeth a'i nod yw dilyn olion troed ei chwaer.
鈥淢ae鈥檔 anhygoel bod Glain wedi cyrraedd t卯m GB. Nes i ddechrau reidio gan bo' hi鈥檔 gwneud yn barod," meddai.
"Dwi鈥檔 gobeithio gallu cyrraedd y t卯m blwyddyn nesaf.鈥
Gyda'r Gemau Olympaidd ym Mharis ar y gorwel mae Glain yn edrych ymlaen at gefnogi t卯m marchogaeth Prydain o bell.
Ond gobaith mawr Glain yw bod yn rhan o'r t卯m yn y dyfodol.
鈥'Swn i wrth fy modd yn mynd i鈥檙 Gemau Olympaidd.
"Mae gen i lawer o bethau llai dwi am eu cyflawni cyn hynny hefyd, ond y Gemau Olympaidd yw鈥檙 prif nod.鈥