Ansicrwydd am ddyfodol Hufenfa Mona ym M么n

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ffatri wedi ei lleoli ym mharc Parc Diwydiannol Mona ger Gwalchmai

Mae yna ansicrwydd am ddyfodol hufenfa adnabyddus ym M么n ar 么l i'r cwmni gyhoeddi na fydd modd parhau i weithredu yn ei ffurf bresennol.

Ffatri gaws yw Hufenfa Mona sydd yn cynhyrchu amrywiaeth o gawsiau Cymreig a chyfandirol ar safle Parc Diwydiannol Mona ger Gwalchmai.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni eu bod wedi methu 芒 dod o hyd i gyllid tymor byr digonol i'w gynnal ond eu bod yn gobeithio y bydd modd i daith Hufenfa Mona barhau.

Nododd y cwmni eu bod yn bwriadu parhau i gyflogi staff am gyn hired 芒 phosib wrth iddyn nhw ystyried gwahanol opsiynau.

Staff a ffermwyr yn 'flaenoriaeth'

Ychwanegodd y cwmni yn eu datganiad: "Wedi pum mlynedd o geisio datblygu'r ffatri gaws fwyaf modern a chynaliadwy yn Ewrop, tra'n brwydro yn erbyn nifer o ffactorau allanol oedd allan o鈥檔 rheolaeth, mae Hufenfa Mona yn drist i gyhoeddi ein bod wedi methu 芒 dod o hyd i gyllid tymor byr digonol i barhau i weithredu yn ein ffurf bresennol.

"Rydyn ni'n obeithiol y bydd modd dod o hyd i ddatrysiad arall yn y dyddiau nesaf ac y bydd modd i siwrnai Hufenfa Mona barhau, hyd yn oed os yw hynny dan reolaeth newydd.

"Prif flaenoriaeth y cyfranddalwyr yw sicrhau cartref diogel i'n 31 o ffermwyr a'n staff ffyddlon ac ymroddedig sydd wedi cefnogi a chredu yn ein gweledigaeth o'r dechrau.

"Byddwn yn parhau i gyflogi ein staff am gyfnod cyn hired 芒 phosib wrth i ni ystyried gwahanol opsiynau."

Ffynhonnell y llun, Google

Dywedodd Aelod Senedd Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth fod y cyhoeddiad yn "siomedig a phryderus".

"Roedd Hufanfa Mona wedi datblygu fel cyflogwr allai fod yn bwysig iawn dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.

"Mae hyn yn amlwg yn ergyd."

Mae'r cwmni yn dweud eu bod wedi trefnu bod cwmni prosesu llaeth arall yn gallu prynu cynnyrch eu ffermwyr yn y tymor byr.

Dywedodd Ronald Akkerman, Rheolwr Cyfarwyddwr Hufenfa Mona: "Ry'n ni wedi gwneud ein gorau i ddatblygu'r ffatri brosesu caws orau a'r fwyaf modern a chynaliadwy i'n ffermwyr ac i Gymru, ac mae hi'n ofnadwy nad ydyn ni wedi llwyddo i wneud hynny.

"Roeddwn ni mor agos, ond dyw agos ddim wedi bod yn ddigon.

"Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi dod gyda ni ar y siwrnai yma, ac ry'n ni wir yn ymddiheuro am y ffaith nad ydyn ni wedi cyflawni'r weledigaeth.

"Bydd y cyfranddalwyr yn gweithio'n ddiflino dros y dyddiau nesaf i sicrhau'r datrysiad gorau i bawb sydd yn ymwneud 芒 phrosiect Hufenfa Mona."