Starmer yn addo cydweithio i ostwng amseroedd aros GIG Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Keir Starmer wedi addo cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ostwng amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd.
Roedd arweinydd y Blaid Lafur yn ymweld 芒 Chymru ddydd Iau am y tro cyntaf ers dechrau ymgyrch yr etholiad cyffredinol.
Llafur Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am GIG Cymru ers 1997 - fe dorrodd restrau aros Cymru record wythnos diwethaf.
Dywedodd Syr Keir bod pleidlais i Lafur yn bleidlais i ryddhau Cymru o "effaith anhrefn a rhaniadau'r Ceidwadwyr".
Mae wedi addo "chwe cham i newid Cymru", sy'n debyg i'w addewidion i etholwyr gweddill y DU.
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
Yn ystod yr ymweliad yn Y Fenni fe wnaeth y Prif Weinidog, Vaughan Gething, sy'n wynebu pleidlais o ddiffyg hyder wythnos nesaf, gyhuddo'r Ceidwadwyr o chwarae gemau gwleidyddol.
Fe wnaeth Syr Keir amddiffyn Mr Gething gan ddweud nad oedd yr un rheol wedi ei thorri wedi iddo dderbyn rhoddion i'w ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth - 拢200,000 o'r arian hynny wedi dod gan gwmni sy'n eiddo i ddyn sydd wedi'i gael yn euog yn y gorffennol o droseddau amgylcheddol.
Mae Llafur yn dweud eu bod am sicrhau sefydlogrwydd economaidd, lleihau amseroedd aros y GIG, mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, sefydlu cwmni ynni gwyrdd cyhoeddus a phenodi athrawon ar gyfer pynciau penodol.
Fe fyddai'r blaid yn codi arian i leihau rhestrau aros y GIG trwy fynd i'r afael ag osgoi talu treth.
Yn 么l y Ceidwadwyr mae record amseroedd aros Llafur yn "drychinebus".
Dywed Plaid Cymru bod Syr Keir yn "ymddwyn fel petai'r 25 mlynedd diwethaf heb ddigwydd" a bod y chwe cham yn "ail-bobiad sinigaidd" o addewidion Llafur ar gyfer y DU.
Y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd ac addysg ers i lywodraeth Lafur Tony Blair sefydlu Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Cymru yn 1999.
Mae Llafur wedi bod mewn grym, fel y blaid fwyaf yn y Senedd, ers hynny.
Gan Lywodraeth y DU y daw'r rhan fwyaf o gyllid y llywodraeth yng Nghymru - mae gweinidogion yng Nghaerdydd wedi cwyno nad yw'r llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn rhoi digon o arian.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi torri gwasanaethau cyhoeddus er mwyn cynnal y gwasanaeth iechyd.
Yn ystod y digwyddiad yn Sir Fynwy dywedodd Mr Starmer y bydd yn cydweithio 芒 Mr Gething i "leihau y rhestrau aros".
Mae yna "lawer gormod o bobl arnyn nhw", meddai.
Dywedodd bod y cynllun "wedi ei gyllido yn llawn".
"Byddwn yn cael gwared ar statws non-dom (pan nad yw rhywun yn talu treth incwm ar enillion tramor) yn llwyr, ac yn targedu y rhai sy'n osgoi talu treth."
Fe wnaeth Syr Keir gyhuddo Rishi Sunak o "beidio codi'r ff么n a gwneud dim" am y swyddi fydd yn diflannu yng ngwaith dur Tata.
"Dwi wedi bod yna ac wedi dweud wrth y gweithwyr hynny y byddaf yn ymladd am bob swydd sydd yno a dyfodol dur yng Nghymru," ychwanegodd.
Dywedodd hefyd na fydd "mwy o anghytuno" rhwng y prif weinidog yn Llundain a phif weinidog Cymru.
"Mae yna wobr fawr i'w chael o ethol llywodraeth sydd am i ddatganoli lwyddo," meddai.
Y chwe cham ar gyfer Cymru yw:
Sicrhau sefydlogrwydd economaidd gyda rheolau gwariant llym;
Cwtogi amseroedd aros drwy dargedu'r rhai sydd wedi aros hiraf ac 芒'r anghenion mwyaf, gyda'r arian yn dod o leihau osgoi talu treth;
Sefydlu corff rheoli diogelwch ffiniau newydd;
Sefydlu Great British Energy, cwmni ynni gwyrdd dan reolaeth gyhoeddus;
Mwy o blismyn yn y gymdogaeth i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chosbau newydd i droseddwyr;
Penodi athrawon newydd i ddysgu pynciau penodol, gyda'r arian yn dod o roi terfyn ar ostyngiadau treth i ysgolion preifat.
Does yna ddim cyfeiriad yn y chwe cham at addewid o apwyntiadau meddygol yn ystod y nos a'r penwythnos - fel a addawyd ar gyfer Lloegr.
Yn 么l ffynonellau o'r blaid mae hi fyny i Lywodraeth Cymru benderfynu sut i wario'r arian y maen nhw'n ei dderbyn.
Llywodraeth Cymru sy'n deddfu ar addysg - dyw cwrdd 芒'r gofynion i ddenu digon o fyfyrwyr i wneud cwrs ymarfer dysgu uwchradd ddim wedi bod yn llwyddiannus ers 2021-22.
Ymhlith yr heriau mwyaf mae denu athrawon i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae denu athrawon i ddysgu ieithoedd modern a'r gwyddorau hefyd yn heriol.
Dadansoddiad Aled Huw, gohebydd 大象传媒 Cymru
Nid cyd-ddigwyddiad yw bod y Blaid Lafur yn dewis etholaeth Mynwy i lansio'i chyfamod chwe phwynt 芒'r etholwyr yng Nghymru.
Mae'n arwydd clir o'i huchelgais a'i hyder. Bu'r sedd wedi'r cyfan yn gadarnle i'r Ceidwadwyr yn ddiweddar, a'r tenant presennol yn aelod o gabinet Rishi Sunak - David TC Davies.
Ond gwibdaith yw hon, a chyfle byr cyfleus i groesi dros y ffin i dynnu sylw i'r ffaith bod sawl sedd o blith 32 Cymru'n ddeniadol i'w denu'n 么l i'r gorlan Lafur.
Y gwirionedd ystadegol syml yw bod Mr Starmer a'i blaid 芒'u bryd ar ganolbwyntio llawer mwy ar ardaloedd o Loegr lle mae yna wobrau mawr.
Addo gwobr fawr i Gymru oedd thema Keir Starmer gerbron criw dethol iawn - gwobr o gydweithio rhwng dwy lywodraeth San Steffan a Chaerdydd os yw'r etholwyr yn ei gefnogi.
Dyma'r allwedd i'r trysor yw eu dadl - ffyniant economaidd, torri rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd a system addysg all ysbrydoli plant ymhlith y chwe ymrwymiad penodol.
Dwy lywodraeth a dau arweinydd, fi a Vaughan, meddai, sy'n deall a chefnogi datganoli, yn gweithio gyda鈥檔 gilydd o blaid Cymru.
Ymateb y pleidiau eraill
Wrth ymateb dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies: "Mae Keir Starmer wedi dweud bod Llywodraeth Lafur Cymru yn batrwm i'r hyn a fyddai Llywodraeth Lafur y DU yn ei wneud ac mae eu record ar amseroedd aros yn ofnadwy.
"Mae rhestrau aros Llywodraeth Cymru ar eu huchaf a hynny tra'u bod yn gwario miliynau o bunnau ar brosiectau gwag fel cyflwyno terfyn cyflymder 20mya i yrwyr.
"Mae record y Blaid Lafur yng Nghymru yn rybudd clir i weddill y DU o'r hyn a fyddai llywodraeth Lafur yn San Steffan yn ei wneud."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: 鈥淢ae Llafur wedi bod yn gyfrifol am iechyd ac addysg yng Nghymru am chwarter canrif ac eto maen nhw'n cogio bod yn blaid a fydd yn cyflwyno newidiadau.
"Mae nhw'n s么n am y potensial sydd yna i Gymru ond mae'r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni yn dangos ei diffyg diddordeb i gyflwyno newidiadau."
Gan gyfeirio at chwe cham addewidion Llafur fel "ail-bobiad sinigaidd" ychwanegodd: "Does yna ddim cyfeiriad yn yr addewidion i roi y biliynau sy'n ddyledus o gyllid HS2 i Gymru na chyflwyno model ariannu teg wedi'i seilio ar maint y boblogaeth. Does dim cyfeiriad chwaith at ddatganoli pwerau - rhywbeth y mae'n heconomi ei angen yn ddirfawr."