Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dirwy i fferm yng Ngheredigion am lygru nant gyda slyri
Mae busnes fferm yng Ngheredigion wedi鈥檜 cael yn euog o drosedd amgylcheddol ar 么l i鈥檞 storfa slyri fethu, gan ryddhau bron 70 galwyn o lygredd i nant fechan.
Fe gafodd Fferm Rhydsais yn Nhalgarreg eu herlyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar 么l i storfa slyri鈥檙 fferm fethu ar 16 Chwefror 2022, gan arwain at lygru o leiaf 12km o afonydd.
Roedd rhwng 60,000 a 70,000 galwyn o slyri wedi鈥檌 ryddhau i nant ddienw sy鈥檔 llifo i Afon Cletwr Fach, sydd yna鈥檔 llifo i Afon Cletwr, ac i Afon Teifi yn y pendraw.
Dangosodd dadansoddiad samplau d诺r fod lefelau llygredd sylweddol yn ymestyn o Fferm Rhydsais, sy'n fusnes teuluol, i ble mae Afon Cletwr yn ymuno ag Afon Teifi, 12km i ffwrdd.
Cafwyd Fferm Rhydsais yn euog o drosedd amgylcheddol a鈥檜 gorchymyn i dalu cyfanswm o 拢13,035, yn cynnwys dirwy o 拢5,000, a chostau.
Roedd un o gyfarwyddwyr busnes Fferm Rhydsais wedi dweud wrth CNC am fethiant y storfa slyri, ond fe glywodd y swyddogion hefyd gan aelodau鈥檙 cyhoedd i lawr yr afon o'r fferm.
Ar ddiwrnod y digwyddiad, roedd yr afon wedi ei gorchuddio ag ewyn, gydag arogl cryf o slyri.
Cafodd chwe physgodyn marw eu darganfod yn Afon Cletwr Fach y diwrnod wedi'r digwyddiad.
Yn 么l CNC, mae鈥檔 debygol bod hyn yn is na鈥檙 cyfanswm go iawn o bysgod marw gan fod y llygredd wedi鈥檌 gwneud hi'n anodd gweld yn y d诺r, ac roedd llif uchel yn yr afonydd yn dilyn glaw.
Ddiwrnod wedi'r digwyddiad, fe wnaeth D诺r Cymru rybuddio CNC eu bod wedi canfod lefelau anarferol o uchel o amonia yn eu safle tynnu d诺r yn Llechryd, sy'n cyflenwi d诺r i eiddo yn ne Ceredigion.
Cafodd y pwynt tynnu d诺r ei gau nes bod lefelau amonia wedi gostwng.
Yn ystod yr ymchwiliad, datgelwyd bod y storfa slyri dan sylw wedi bod ar y fferm ers y 1970au ac nad oedd unrhyw waith cynnal a chadw ffurfiol wedi digwydd ar wah芒n i archwiliadau gweledol yn ystod y degawd diwethaf.
Dadleuodd CNC yn y llys bod y llygredd wedi'i achosi gan fod y storfa slyri yn rhy hen ac nad oedd wedi cael ei chynnal yn gywir.
Yn 么l Dr Carol Fielding, arweinydd t卯m amgylchedd Ceredigion, roedd y difrod amgylcheddol yn ddifrifol.
"Cafodd effaith y digwyddiad hwn ei theimlo ymhell y tu hwnt i'r nant yr aeth y slyri iddi.
鈥滷e wnaeth niweidio ansawdd d诺r a bywyd gwyllt lleol o fewn dalgylch Afon Teifi.
"Mae gan bob ffermwr ddyletswydd i sicrhau bod eu storfeydd slyri yn strwythurol gadarn i atal trychinebau o'r fath."