大象传媒

Caernarfon: Ymchwilio i farwolaeth dynes yn y ddalfa

Gorsaf Heddlu Caernarfon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Helen Williams yng ngorsaf heddlu Caernarfon ar 24 Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth dynes yn nalfa'r heddlu yng Nghaernarfon.

Bu farw Helen Williams, 43, ar 24 Mai.

Cafodd ei harestio gan Heddlu Gogledd Cymru ym Mangor ar fore 23 Mai, ar 么l iddi gael ei galw yn 么l i'r carchar.

Fe gafodd ei chymryd i orsaf heddlu Caernarfon a'i chadw yno tra'n disgwyl i ymddangos yn y llys.

Dywedodd yr IOPC eu bod yn "deall fod Ms Williams yn cael ei goruchwylio yn gyson gan staff y ddalfa a'i bod wedi cael ei gweld gan staff iechyd".

'Episod meddygol'

Tua 16:30 ar 24 Mai fe gafodd Ms Williams "episod meddygol", ac er ymdrechion staff, parafeddygon a'r ambiwlans awyr, nodwyd ei bod wedi marw am 17:20.

Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd gyfeirio'r mater at yr IOPC, sydd bellach yn ymchwilio i lefel y gofal a gafodd ei roi i Ms Williams tra'n y ddalfa.

Dywedodd yr IOPC fod post mortem wedi cael ei gynnal a bod profion eraill hefyd ar waith.

Maen nhw wrthi'n holi swyddogion a staff oedd yn rhan o'r digwyddiad, ac maen nhw hefyd yn adolygu CCTV a chamer芒u corff fel rhan o'r ymchwiliad.

Cafod cwest ei agor a'i ohirio i farwolaeth Ms Williams ddydd Llun.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod y crwner Kate Robertson "dal heb dderbyn achos marwolaeth".

"Gan fod Helen Williams wedi marw yn y ddalfa, mae gofyn i mi agor cwest i'w marwolaeth," meddai.

Dywedodd cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: "Mae fy nghydymdeimlad 芒 theulu a ffrindiau Ms Williams a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ei marwolaeth.

鈥淢ae鈥檔 bwysig bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i sefydlu'r amgylchiadau'n llawn pan fo rhywun wedi marw yn nalfa鈥檙 heddlu."

Ychwanegodd Mr Ford y bydd teulu Ms Williams yn cael eu diweddaru trwy gydol yr ymchwiliad.

"Rydym wedi siarad 芒鈥檙 teulu i fynegi ein cydymdeimlad ac egluro ein r么l. Byddwn yn eu diweddaru drwy gydol ein hymchwiliad, ynghyd 芒鈥檙 heddlu a鈥檙 crwner,鈥 meddai.

Pynciau cysylltiedig