Gweithwyr wedi cael eu 'bradychu gan y llywodraeth'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae gweithwyr yr hen ffatri ASW wedi bod yn ymgyrchu i dderbyn eu pensiynau llawr, gan gynnwys chwyddiant, ers 2002
  • Awdur, Rhodri Lewis
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Mae Plaid Cymru dweud bod gweithwyr yr hen ffatri ASW wedi cael eu "bradychu gan y llywodraeth" ar 么l i Lywodraeth y DU benderfynu beidio eu digolledu am eu pensiynau.

Mae staff y cwmni wedi bod yn ymgyrchu i dderbyn eu pensiynau llawn, gan gynnwys chwyddiant ers i'r cwmni mynd i'r wal yn 2002.

Mae gweithiwr yn hen ffatri ddur yng Nghaerdydd wedi dweud bod penderfyniad diweddaraf Llywodraeth y DU yn "warthus".

Ond mae'r Gweinidog Pensiynau yn dweud y byddai'n costio gormod i gyfri faint fyddai hynny'n ei gostio.

Llywodraeth 'heb ddysgu' ers sgandal Swyddfa'r Post

Collodd gweithwyr y ffatri eu swyddi, ynghyd 芒 phensiynau yr oeddent wedi bod yn talu i mewn iddynt ers degawdau, yn 2002.

Ar 么l dwsinau o brotestiadau, sefydlodd Llywodraeth y DU gynllun oedd yn sicrhau bod gweithwyr o gwmn茂au fel ASW yn cael hyd at 90% o'u pensiynau yn 么l.

Ond wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, mae'r pensiynau hynny wedi gostwng mewn gwerth oherwydd nad yw鈥檙 taliadau yn gysylltiedig 芒 chwyddiant.

Mae Plaid Cymru wedi gofyn yn swyddogol i'r Adran Gwaith a Phensiynau asesu'r newid o ganlyniad i chwyddiant yng ngwerth taliadau pensiwn ar gyfer pensiynwyr Allied Steel a Wire ers 2007.

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Hywel Williams AS yn dweud bod penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau yn 'siomedig iawn'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Waith a Phensiynau, Hywel Williams AS: "Ers 22 mlynedd, mae gweithwyr Allied Steel a Wire wedi godde鈥檙 anghyfiawnder o beidio cael derbyn eu pensiynau llawn.

"Mae鈥檙 gweithwyr yn dweud eu bod ond yn derbyn tua hanner yr hyn sy'n ddyledus iddyn nhw, oherwydd bod cynllun Llywodraeth y DU wedi methu 芒 diogelu鈥檙 cyfraniadau rhag chwyddiant.

"Er gwaetha' i鈥檙 gweithwyr ddilyn y rheolau, ma' nhw wedi cael eu bradychu gan y llywodraeth.

"Mae penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau i beidio hyd yn oed asesu effaith y penderfyniad i beidio 芒 gysylltu鈥檙 taliadau gyda chwyddiant yn siomedig iawn.

"Mae dyfynnu 'costau anghymesur' yn arbennig o ddi-chwaeth.

"Mae'n amlwg nad yw Llywodraeth y DU wedi dysgu unrhyw wersi o sgandal Swyddfa Bost Horizon ac yn parhau i anwybyddu anghyfiawnder.

"Rwy'n gofyn iddyn nhw i ailystyried."

Gweithwyr wedi 'ymddiried' yn y llywodraeth

Dywed y gweithwyr fod ganddyn nhw鈥檙 hawl i gael y swm llawn gan gynnwys chwyddiant wedi鈥檌 ddyddio'n 么l i鈥檙 cychwyn.

Dywedodd cyn-weithiwr ASW, John Benson: "Mae'n warthus.

"Wi ddim yn derbyn yr hyn y mae'r DWP yn ei ddweud.

"Maen nhw'n ceisio ein twyllo ni allan o鈥檙 hyn rydyn ni wedi talu amdano. Ma' nhw ond yn beio pobl eraill.

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 Cymru Fyw

Disgrifiad o'r llun, Dywed cyn-weithiwr ASW, John Benson eu bod wedi cael eu trin 'yn warthus'

"Mae'n warthus sut maen nhw wedi ein trin ni.

"Mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn eu cyfrifoldebau.

"Waeth faint mae hyn yn ei gostio, dyma ein harian ni.

"Nethon ni dalu am y pensiwn hwn ag ymddiried yn y llywodraeth.

"Maen nhw'n gwastraffu biliynau ar brosiectau diwerth ac yna yn dweud na allan nhw fforddio hyn."

Dywedodd y Gweinidog Pensiynau, Paul Maynard: "Nid yw'r wybodaeth sydd ei hangen i gynnal asesiad o'r fath ar gael yn rhwydd a byddai mynd ati i鈥檞 gael yn peri costau anghymesur.

"Felly nid yw'r Adran wedi gwneud asesiad o'r fath ac nid yw'n bwriadu gwneud hynny, ar hyn o bryd."

Mae Mr Maynard bellach wedi ysgrifennu at Mr Benson yn dilyn cyfarfod rhwng y ddau fis diwethaf i drafod y mater.

Dywedodd: "Rwy'n deall eich rhwystredigaeth bod yr olwynion yn symud yn araf, ac fe ddywedais yn y cyfarfod fy mod yn amharod i roi amserlen ar faterion.

"Maen nhw'n gymhleth, ac yn cynnwys sefydliadau heblaw fi fy hun, ond gallaf eich sicrhau ei fod yn fater yr wyf yn dal i weithio arno."