Siom wrth i law trwm ohirio'r tymor criced
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o gricedwyr y gogledd yn siomedig wrth i'r glaw diweddar gael effaith mawr ar eu paratoadau ar gyfer y tymor.
Fel yn flynyddol, roedd y clybiau yn paratoi i gychwyn eu tymor o chwarae ar 20 Ebrill.
Ond mae glaw trwm dros gyfnod o sawl wythnos wedi amharu ar y gwaith o baratoi'r meysydd, gan achosi sefyllfa "digynsail" yn 么l swyddogion.
Mae Cynghrair Criced Gogledd Cymru, sydd 芒 phum adran, wedi penderfynu gohirio cychwyn y tymor tan 4 Mai.
Eu gobaith yw y bydd pythefnos ychwanegol yn galluogi'r clybiau i gael eu peiriannau ar y meysydd i gyflawni'r gwaith angenrheidiol.
Ond gyda chriced ymysg y campau sydd fwyaf dibynnol ar dywydd ffafriol, mae pryder hefyd y bydd hwn yn batrwm mwy cyson dros y blynyddoedd i ddod.
Yn 么l y Swyddfa Dywydd roedd 53% yn fwy o law fis diwethaf o'i gymharu 芒'r mis Mawrth arferol yng Nghymru.
Mae'r sgil effeithiau wedi bod yn amlwg ar glybiau criced llawr gwlad, sy'n aml yn ddibynnol ar wirfoddolwyr i edrych ar 么l y meysydd.
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
- Cyhoeddwyd6 Ebrill
Yn 么l un o swyddogion Cynghrair Gogledd Cymru, mae'r tywydd diweddar wedi achosi "hafoc" gyda pharatoadau sawl clwb.
Dywedodd Dyfan Parry, Swyddog Cyfathrebu'r gynghrair: "'Da ni wedi cael lot o feedback gan y clybiau sydd yn bell tu 么l iddi ar y gwaith paratoi.
"Roedd rhai clybiau'n poeni fyddan nhw ddim mewn sefyllfa i chwarae g锚m gartref tan ganol Mai hyd yn oed, mae'n unprecedented.
"Y glaw persistent yna, roedd un clwb yn dweud wythnos yn 么l y basan nhw'n barod ar gyfer 27 Ebrill ac wedyn maen nhw just wedi cael tri diwrnod o law a'r cae wedi floodio.
"Fel committee oeddan yn teimlo fod rhaid i ni helpu'r clybiau ond mae'n anodd gan fod rhai clybiau yn rhannu caeau gyda ph锚l-droed a rygbi, ond pythefnos ydi'r mwyaf allwn wneud i ddweud y gwir.
"Mae 'na rai pobl sydd wedi bod ar y committee am flynyddoedd ac maen nhw'n dweud dydyn nhw erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn o'r blaen."
'Mae'r tir yn wlyb iawn'
Un o glybiau amlyca'r gogledd ydy Porthaethwy, sydd fwyaf adnabyddus am lansio gyrfa Matthew Maynard, a aeth ymlaen i chwarae dros Forgannwg a Lloegr mewn gyrfa lewyrchus.
Fel yr unig glwb gweithredol ar Ynys M么n erbyn hyn, roedden nhw'n gobeithio cynnal eu sesiwn gyntaf yn yr awyr agored nos Iau.
Ymysg y rheiny oedd chwaraewr gwadd o Dde Affrica.
Ond roedd canlyniad yr holl law yn golygu eu bod yn gorfod parhau i ymarfer o dan do yng nghanolfan hamdden y dref.
Dywedodd Dyfrig Jones, sy'n chwarae i'r clwb yn ogystal 芒 bod yn gydlynydd y timau ieuenctid: "Yr effaith mwyaf yw bod y tir yn wlyb iawn.
"'Da ni wedi cael cyfnod digynsail o law fyswn i'n ei ddweud, sy'n golygu fod hi ddim yn hawdd i baratoi'r tir ar gyfer y tymor newydd.
"'Da ni'n lwcus iawn ym Mhorthaethwy fod ganddon ni'r adnodd gwych yma fan hyn, 'da ni wedi bod yn defnyddio hwn yn ystod y gaeaf hefyd ond rwy'n gwybod am nifer o glybiau sydd ddim mor lwcus."
Ar un cyfnod roedd hanner dwsin o glybiau criced ar Ynys M么n.
Er mai dim ond Porthaethwy sydd ar 么l, fe ychwanegodd fod y gamp mewn cyflwr iach a fod gan y clwb tua 130 o bobl ifanc yn chwarae ar draws y timau iau.
"Mae rhywun yn ymwybodol o effaith cynhesu byd eang a bod y tymhorau'n gallu newid, ond 'da ni wedi arfer gyda thywydd gwlyb ym mis Awst hefyd, yn anffodus 'da ni wedi arfer 芒 hyn.
"Ond dwi ddim yn cofio dechrau tymor mor sal a'r hyn sydd wedi digwydd eleni."
Dywedodd cadeirydd y clwb, Robbie Jones: "Yr adeg yma flwyddyn dwytha' roedd y tywydd yn gr锚t yn doedd?
"Mae hi mor anodd darogan y pethau 'ma.
"Mae hi reit siomedig yn amlwg ond does ddim modd chwarae ar y funud.
"'Da ni yng nghanol cael cyfleuster rhwydi newydd, ond mae'r gwaith yna wedi gorfod dod i stop."
'Mae'n siom i orfod aros'
Dywedodd Jazmine Beauchamp, sy'n chwarae i'r clwb, fod gohirio cychwyn y tymor yn "siom mawr".
Ychwanegodd eu bod wedi gobeithio gallu ailddechrau chwarae yn yr awyr agored, ond estyn allan y rhwydi ar gyfer sesiwn arall o dan do oedd yr unig ddewis nos Iau.
"'Ni wedi bod yn ymarfer tu fewn dros y gaeaf ac wedi edrych ymlaen at y tymor a mae'n siom i orfod aros tu fewn am tamed bach mwy.
"Ni'n gobeithio bydd y tywydd yn clirio lan."
Gobaith Jazmine a sawl clwb arall, yw mai'r wicedi yn hytrach na'r glaw fydd yn syrthio dros yr haf.