大象传媒

Llwybr arfordir: 'Angen gwella cysylltiadau teithio'

Arwydd llwybr yr arfordir
  • Cyhoeddwyd

Wrth i Lwybr Arfordir Ceredigion nodi 15 mlynedd ers ei agor, mae cerddwyr yn dweud bod angen gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn annog mwy o ddefnydd.

Yn 60 milltir o hyd, mae鈥檙 llwybr yn dechrau ger y ffin 芒 Machynlleth ac yn diweddu yng Ngwbert.

Fe agorodd wedi llwyddiant llwybr tebyg yn Sir Benfro, gyda gweddill Cymru鈥檔 dilyn yn fuan wedyn, gan olygu mai dyma鈥檙 lle cyntaf yn y byd i gael llwybr sy鈥檔 gorchuddio arfordir gwlad gyfan.

Ond mae rhai鈥檔 dweud bod angen gwella cysylltiadau gyda鈥檙 llwybr er mwyn denu ymwelwyr.

Yn 么l Cyngor Ceredigion mae annog mwy i ddefnyddio鈥檙 llwybr yn 鈥渓linell denau鈥.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae lleihad yn nifer y bysiau sy'n rhedeg yn effeithio ar ddefnydd y llwybr, meddai Dwynwen Belsey

Mae'r llwybr yng Ngheredigion yn cael ei ystyried yn un tawelach na'r un yn Sir Benfro.

Mae Dwynwen Belsey, sy鈥檔 aelod o gr诺p cerdded Aberystwyth, yn dweud bod angen gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

鈥淒ydy鈥檙 gwasanaeth cludiant cyhoeddus ddim mor dda a beth ddylse fe fod, yn enwedig yn ne鈥檙 sir鈥, meddai.

鈥淥 Geinewydd lawr at Aberteifi, ar hyn o bryd dydy [bws] Cardi Bach ddim yn rhedeg, sy鈥檔 golygu mai dim ond gyda car mae rhywun yn gallu mynd lawr at llwybr yr arfordir. Mae hynny yn 25 o filltiroedd, tipyn o stretch, heb wasanaeth bws.

鈥淢ae鈥檙 gwasanaeth fan hyn yn y Borth wedi ei gwtogi o bob awr i bob dwy awr a does dim gwasanaeth o gwbl ar ddydd Sul 鈥 sef diwrnod poblogaidd iawn i bobl fynd allan i gerdded.

鈥淢ae鈥檙 rhain yn faterion sy鈥檔 effeithio ar nifer y bobl sy鈥檔 defnyddio鈥檙 llwybr.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae teithiau cylchol newydd wedi eu hagor yn agos i lwybr yr arfordir

'Pobl leol ddim yn ymwybodol'

Yn 么l adolygiad diweddar o Lwybr yr Arfordir gan Lywodraeth Cymru, fe ddylai creu llwybrau cylchol gael ei ystyried yn flaenoriaeth strategol, ac mae Cyngor Ceredigion wedi trefnu cyfres o deithiau i nodi'r pen-blwydd arbennig.

Yr wythnos diwethaf, fe gerddodd Eilir Evans Lwybr Arfordir Ceredigion mewn 17 awr. Mae'n dweud bod angen gwneud mwy i annog pobl leol i ddefnyddio'r adnodd.

鈥淎r fy nhaith yr wythnos diwethaf dim ond twristiaid welais i ar hyd y ffordd.

鈥淢ae鈥檔 apelio鈥檔 aruthrol at dwristiaid ac mae鈥檔 rhan enfawr o鈥檙 hyn sy鈥檔 eu denu nhw yma, ond yn anffodus dydy鈥檙 adnodd ddim yn cael ei ddefnyddio digon gan bobl leol.

鈥淒ydy bobl ddim yn ymwybodol o鈥檙 hyn sydd ar gael ar ein stepen drws.鈥

Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu tua 拢1.4m tuag at y llwybr yng Nghymru bob blwyddyn, sy鈥檔 talu am gynnal a chadw, datblygu a marchnata'r llwybr.

Mae rhywfaint o arian hefyd ar gael trwy Gyfoeth Naturiol Cymru os caiff y llwybr ei ddifrodi yn dilyn tywydd garw.

Yng Ngheredigion, mae鈥檙 llwybr yn ymlwybro鈥檌 ffordd trwy draethau ysblennydd, clogwyni, yn ogystal 芒 threfi prysur a phentrefi glan m么r.

Mae鈥檙 awdur Gerald Morgan wedi ysgrifennu llyfr am lwybr yr arfordir yng Ngheredigion ac yn dweud ei bod yn 鈥渁nodd鈥 dweud beth yw rhai o uchafbwyntiau鈥檙 llwybr gan nad yw eisiau 鈥渄atgelu ei gyfrinachoedd鈥.

Ond dywedodd Mr Morgan: 鈥淢ae鈥檙 llwybr rhwng Aberteifi ac Aberporth yn un hawdd iawn i鈥檞 gerdded ac yn ddeniadol iawn yn y gwanwyn.

鈥淢ae鈥檙 blodau yn wych mewn sawl man. Mae 鈥榥a flodau gwyllt hyfryd i鈥檙 de o Aberporth.

鈥淵n nes at y gogledd wedyn mae modd gweld y Fran Goes Goch ar y clogwyni. Hanner ffordd i lawr wedyn, mae鈥檙 clogwyni i鈥檙 de o Geinewydd yn fendigedig yn y Gwanwyn gan fod adar y mor yno yn nythu.鈥

'Atyniad mwyaf Ceredigion'

Fe gymerodd bum mlynedd o drafodaethau rhwng y cyngor, tirfeddianwyr a ffermwyr cyn gallu adeiladu'r llwybr, gyda 90% yn cytuno i adeiladu鈥檙 llwybr yn y pen draw.

Eifion Jones yw Swyddog Llwybrau Cyhoeddus Cyngor Ceredigion, ac maen dweud fod llwybr yr arfordir yn 鈥渁dnodd amhrisiadwy鈥 ac yn un o鈥檙 atyniadau mawr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen sicrhau bod y llwybr yn gynaliadwy, meddai Eifion Jones

鈥淢ae鈥檙 teithiau cerdded cylchol yma, i ffwrdd o鈥檙 prif lwybr ei hun, wedi cael eu creu i ddangos beth sydd ar gael.

鈥淩ydyn ni鈥檔 gwybod, trwy鈥檙 cownteri sydd gyda ni ar hyd y llwybr ei fod yn denu cannoedd o filoedd o gerddwyr bob blwyddyn, ond mae鈥檔 rhaid cael cydbwysedd rhwng annog mwy o ddefnydd oherwydd mae angen iddo fod yn gynaliadwy.

鈥淏ydde ni wastad isie mwy o arian, mae鈥檙 ased sydd gyda ni fan hyn gyda鈥檙 atyniad mwyaf sydd gyda ni yng Ngheredigion ac alle ni wastad 鈥榥eud gyda mwy o adnoddau i edrych ar 么l pethau.

鈥淣i鈥檔 gwybod realiti y peth hefyd bod cyllid yn brin.

鈥淢ae twristiaeth i Geredigion gwerth tua 拢300m y flwyddyn. Am bob 拢1 sy鈥檔 cael ei wario ganddyn ni ar wella llwybrau cyhoeddus a mynediad yn gyffredinol, mae gwerth tua 拢10 yn 么l i鈥檙 economi leol.鈥

Pynciau cysylltiedig