Pennal: Seren Hollywood yn helpu ailagor tafarn gymunedol

  • Awdur, Elen Wyn
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae'r seren Hollywood Matthew Rhys yn dweud ei fod wedi "neidio ar y cyfle" i helpu achub tafarn ym Mhennal, Gwynedd.

Roedd yr actor yng nghanol dathliadau ailagor tafarn Glan yr Afon ddydd Sadwrn wedi ymgyrch gymunedol i'w phrynu.

Cafodd Matthew Rhys ei eni yng Nghaerdydd, ond gyda'i dad yn hanu o'r ardal yn wreiddiol, mae ganddo gysylltiadau teuluol cryf gyda'r pentref.

Mae鈥檔 cofio treulio鈥檙 haf a Phasg yn yr ardal ac mae'r dafarn yn agos at ei galon.

Mi fu鈥檔 rhan allweddol o鈥檙 ymgyrch i achub y dafarn, gan helpu鈥檙 pwyllgor lleol i godi arian drwy gyfranddaliadau.

Ar 么l codi dros 拢400,000, y gymuned leol bellach yw perchnogion newydd tafarn Glan yr Afon.

'Achlysur anhygoel'

Disgrifiad o'r fideo, Matthew Rhys: "Mae'n achlysur anhygoel"

Mae鈥檙 actor enwog, ynghyd ag aelodau Menter y Glan, yn gobeithio y bydd yr adeilad yn troi yn hwb cymunedol, yn ogystal 芒 thafarn.

Dywedodd Rhys: "Mae'n achlysur anhygoel achos mae gennai atgofion melys o fod yma'n fachgen bach.

"Blwyddyn yn 么l odd bygythiad iawn ar y lle, nid ond ar yr adeilad ond i'r gymuned, ac i fod yn hollol onest o'n i yn poeni achos odd yr arian odd angen i nhw godi yn aruthrol.

"Felly mae'n wyrth be ma' nhw wedi cyflawni, ac i'r cenedlaethau i ddod a fel bydd e'n gwasanaethu'r gymuned mae'n anhygoel.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Meirion Hughes bydd y dafarn yn ail-fuddsoddi unrhyw elw yn y gymuned

Roedd yna bryder y llynedd y byddai'r dafarn yn cau am byth ar 么l i'r cyn-berchnogion fethu 芒 dod o hyd i brynwr.

Dywedodd Meirion Hughes, cadeirydd y pwyllgor tu 么l i'r ymgyrch fod 79% o'r arian a godwyd wedi dod wrth bobl tu allan i'r ardal.

"Dyna lle mae Matthew Rhys wedi helpu ni, i rannu'r stori ar draws y byd" meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r arian da ni'n neud yn mynd n么l i'r gymuned... Os da ni'n neud profit byddwn ni'n neud yn si诺r bod e'n mynd yn 么l mewn i bethau eraill sy'n digwydd yn y gymuned.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Laura Griffiths ei bod yn mwynhau gweithio yn y dafarn a'i fod yn bwysig i'r gymuned leol

Yn y dyfodol mae Menter y Glan yn gobeithio gallu agor siop a chaffi ar y safle hefyd.

Dywedodd Laura Griffiths sy'n gweithio yn y dafarn: "Ma'n lyfli gweithio yma, ma'r pobl sy'n byw ym Mhennal yn fendigedig, ma' pawb yn welcoming, ac mae'n lyfli dod i gwaith a chreu rhywbeth sy'n mynd i helpu pobl ym Mhennal."